Bygythiad i gau wicis Cymraeg – pa wicis?

“Dw i’n cytuno. Byddai’n drueni petai’r wicis llai yn cael eu cau, yn enwedig am fod gwybodaeth defnyddiol ar gael ar bob un ohonynt. Efallai mai diffyg ymwybyddiaeth ohonynt sy’n gyfrifol am eu diffyg defnydd? Hefyd, dw i’n meddwl yn aml fod angen cic lan tin arno ni fel Cymry – ry’n ni’n llawer rhy barod i gwyno am ddiffyg adnoddau yn y Gymraeg ond eto i gyd yn amharod i wneud unrhyw beth amdano. Ta waeth… Nawr dy fod wedi tynnu fy sylw at Wiciquote unwaith eto, fe wnaf i fwy o ymdrech i gyfrannu fan honno hefyd 😉 Dw i’n cytuno hefyd ynglyn â chanolbwyntio ar ddyfyniadau Cymraeg neu mewn ieithoedd eraill heblaw am Saesneg. Mae’n siwr mai dyna’r ffordd orau ymlaen. Pwyll 17:16, 15 Mai 2011 (UTC)”

Trafodaeth am y diffyg cynnwys ar brojectau Wikimedia, sef Wikiquote a Wikisource – a’r bygythiad i’u gau. (a Wiktionary a Wikibooks dw i’n meddwl, yn ôl y rhestr yma? – dw i ddim yn hollol siwr…)

Dyw Cymraeg ddim ar y rhestr eto. Ond pwynt yw, dylen ni gymryd mantais o bethau ar-lein yn Gymraeg!

Cer i’r isod ac ychwanega stwff plis!
Wikiquote (hawsaf os ti’n dechrau gyda wicis)
Wikisource (cerddi unrhyw un?)
Wiktionary
Wikibooks
Prif projectau Wikimedia

Enghreifftiau o gynnwys
Datblygu ar Wikiquote (band)
Cerddorion ar Wikiquote
Ty’r Arglwyddi yn 1912 ar Wikisource (cerdd gan Tryfanog)
Yr Adfail ar Wikisource (cerdd gan Dafydd ap Gwilym)
Aelod Seneddol ar Wiktionary
Gwyddbwyll ar Wikibooks
Celf ar Wikibooks

Stori trwy Rhys Wynne

2 sylw

  1. Diolch am sgwennu’r cofnod yma . Postiais drydariad cyflym am y peth wedi gweld y neges uchod ti’n ddyfynnu ar dudalen gweinydwyr y Wicipedia Cymraeg, ond do’n i heb fynd i ddarllen y manylion i gyd. Yn dilyn hynny, cysylltodd rhywun o Golwg360 gyda fi’n gofyn am fwy o wybodaeth, ond do’n i ddim yn medru helpu ar y pryd.

    Fel ti’n nodi, does dim un o’r prosiectau Cymraeg i’w gweld ar y rhestrau hyd y gwelaf i, ac alla i chwaith ddim gweld dim canllawiau o beth all arwain at brociect i gael ei gynnig at gyfer dod a fo i ben. Ond ar dudalen sgwrs y rhestr o gynnigion, mae rhywun wedi ychwaneg WikiNews yn yr iaith Thai am fod llai na 500 golygiad wedi bod mewn blwyddyn. Ag eithrio y Wicipedia Cymraeg, dychmygaf bod pob un o’r prosiectau eraill Cymraeg mae WikiMedia yn gannal ar hyn o bryd yn derbyn llai na 500 golygiad y flwyddyn, a mater o amser fydd hi na fydd bygythiad i’w cau.

Mae'r sylwadau wedi cau.