Gall dim un digwyddiad Cymraeg o bwys gymryd lle bellach heb ddigwyddiad Hacio’r Iaith (mawr neu FACH) atodol.
Diolch i @nwdls, bydd un ar y Maes eleni ar y dydd Llun, ar stondin Prifysgol Aberystwyth.
Dyma’r manylion ar wiki Hedyn:
Hacio Iaith ar y maes
Noddwyr: Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth, Sefydliad Mercator ar gyfer Ieithoedd, Cyfryngau a Diwylliant
Pryd
Dyddiad: Dydd Llun, 1af Awst 2011
Amser: 1.30PM – 5PM
Ble
Lleoliad: Pabell Prifysgol Aberystwyth, Eisteddfod Genedlaethol 2011, Wrecsam
Rhaglen ddrafft
1.30-2.00 Helo! Paratoi cyfrifiaduron, sgwrsio, paned, bisged, ac ati…
2.00-2.30 Haclediad
- panel yn trafod [pwnc i'w bennu] a’i recordio fel podlediad arbennig yn y gyfres Haclediad
2.45-3.15 Gorsedd y Gîcs – 6 x cyflwyniad 5 munud. Thema: “Beth sydd wedi dy gyffroi di ar y we yn y flwyddyn ddiwethaf?”
- Gallwch chi feddwl am gyflwyniad o flaen llaw (os felly cysylltwch â fi @nwdls), neu drin o fel open mic a jest mynd amdani ar y dydd. Y bwriad ydi cael cyfle i sôn am rywbeth sydd wedi eich tanio chid ac sydd raid ei rannu gyda phawb.
3.30-5.00 Gweithdai
4 x grwp. Themâu:
- Blogio ymarferol;
- sut i ddechrau blog? pam dechrau blog? gweithdy blogio i bawb!
- Lleoleiddio/cyfeithu/isdeitlo;
- beth sydd ar y gweill? Sut mae modd gwella pethau?
- Ymgyrchu / democratiaeth arlein;
- sut allwn ni ddefnyddio’r we a chyfryngau arlein i wella ein ymgyrchoedd a democratiaeth?
- cynnwys creadigol arlein
- beth yw manteision creu cynnwys arlein? oes digon o gynnwys Cymraeg? sut mae annog mwy? Pa opsiynau ‘torfoli’ sy’n gweithio orau?
Bydd un person yn hwyluso trafodaeth pob grwp. Efallai bydd cyfle i adrodd nôl i bawb, er mae hyn yn amlach na pheidio yn troi allan braidd yn naff, ac yn job does neb eisiau ei wneud. Oes ffordd well o roi gwybod i bawb beth drafodwyd? Pennu blogiwr byw i bob grŵp efallai?
Bydd WiFi ar gael i fynychwyr. Ie, sudd intertiwbs ar y maes.
Caiff y dualen wiki ei diweddaru’n nes i’r amser mae’n siwr. Mae croso i chi olygu’r dudalen ar y wiki, neu gadael sylw o dan y cofnod yma os oes cwestiwn neu syniad gyda chi, neu gwell fyth, nodi eich presenoldeb!
CasgliadLabs yn dod ag Eisteddfodau’r gorffennol yn fyw gyda augmented reality.
Hefyd, am bach o hwyl, mae CasgliadLabs yn gofyn i fynychwyr yr Eisteddfod ddanfon llun ohonyn nhw eu hunain gyda un o gymeriadau Eisteddfodau y gorffennol atynt, drwy wyrth augmented reality.
Dyma enghraifft.(triais fewnosod delwedd Twitpic yma, ond methais)
Diweddariad: Mae Tom Pert o CasgliadLabs yn esbonio ymhellach yn y sylwadau
hefyd…
Trydargwrdd
Mae @siantir du wedi trydar am y digwyddiad yma:
@ Nifer o drydaresau'n cwrdd dydd Mawrth 5pm, lle bwyd, Mynedfa 2, am sgwrs. @ @ @ etc. Croeso i ragor
Gareth Jones 10:06 PM ar 17 Hydref 2011 Dolen Barhaol
Mae Stwnsh.com yn defnyddio codau QR ar eu holl lincs, just ychwannegu .qr i ddiwedd y linc. Er engraifft, yr URL byr ar gyfer addewid <Pethau Bychain yw http://stwnsh.com/66x – os da chi’n ychwannegu .qr at y diwedd, fe gewch y linc ar ffurf Côd QR: Addewid Pethau Bychain – Côd QR.
Rhys Wynne 9:07 AM ar 26 Hydref 2011 Dolen Barhaol
@Gareth. Diddorol, ond welai i ddim mantais amlwg i hynny, gan bod rhywun ar lein yn barod ac uyn gallu clicio ar ddolen, neu mond arbrofi gyda’r dechnoleg wyt ti, fel bod modd trosglwyddo’r cod QG off-line (mewn pa bynnag fodd) er mwyn hyrwyddo unrhyw URL penodol?
Eto ychydig dros fy mhen i, ond mae’r syniad yma o allu trydar yn syth o god QR yn edrych fel rhywbeth all ddod yn gyffredin.
Jyst tu allan i’r swyddfa rwan, dw i wedi gweld fan cwmni trydanol gyda cod QR mawr ar ei chefn. Y cerbyd cyntaf i mi weld gyda un arno.
O ran y Monmouthpedia, mae nhw wedi dod a geiriad mwy eglur i’r brosiect:
Mae cyfarfod cychwynol wedi ei drefnu ar gyfer nos Wener y 28ain yn Neuad y Sir, Trefynwy am 7:30.
Roger Bamkin 12:23 PM ar 30 Hydref 2011 Dolen Barhaol
Wikipedia and QRpedia have been working with speakers of Catalan who want to protect and enthuse about their culture. It seems odd to me that the Welsh government require TV and signposts in Welsh but allow the phones to not allow their owners to use them in Welsh. “Wikimedia UK” would like to work with enthusiasts and supporters of the Welsh language. Monmouthpedia is one way that we can do this on line.
Rhys 10:56 AM ar 1 Tachwedd 2011 Dolen Barhaol
It seems odd to me that the Welsh government require TV and signposts in Welsh but allow the phones to not allow their owners to use them in Welsh.
Sadly, the Welsh Government doesn’t have the power (and some might say the will) that the Catalan government possesess…
Gareth Jones 3:37 PM ar 2 Tachwedd 2011 Dolen Barhaol
@Rhys Arbrofi gyda’r meddalwedd oeddwn i a dweud y gwir. Y gobaith gyda Stwnsh yw agor y system i alluogi bobl i weld ystadegau yn y dyfodol, felly mae’r gallu i greu QR codes er mwyn eu defnyddio ar gyfer eu prosiectau yn rhan o hyna.
Mae QR codes ym mhobman yma yng Nghanada (neu fi sy’n sylwi arnhyn nhw yn fwy) ac yn cael eu galw yn MobiCodes (neu rhywbeth tebyg) ar rai rhagleni teledu. Tydi nhw ddim ar y sgrin yn ddigon hir i mi allu cael y ffôn i’w decodio nhw chwaith.
Ffad yw o mwy na thebyg tan y doith y peth nesaf ymlaen.