SWYDD: Cydlynydd Wicipedia, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cydlynydd Wicipedia Yn dilyn cytundeb cydweithio rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Wikimedia DU y mae’r Coleg yn dymuno penodi Cydlynydd Wicipedia fydd yn adrodd i swyddogion a Bwrdd Academaidd y Coleg ar sut orau y gellir rhannu adnoddau addysgol ar lwyfannau Wikimedia, gan gynnwys Wicipedia, o dan drwyddedau priodol. Bydd gennych gefndir academaidd gadarn,… Parhau i ddarllen SWYDD: Cydlynydd Wicipedia, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cwrs Hyfforddi’r Hyfforddwyr, Caerdydd. 1-2/2/2014

Mae Wikimedia UK yn cynnig cwrs hyfforddiant deuddydd o’r enw Hyfforddi’r Hyfforddwyr yng Nghaerdydd ar benwythnos y 1af a’r 2il o Chwefror yng Nghaerdydd. Cwrs cyffredinol ar fod yn hyfforddwr ydyw, ac nid ar sut i olygu’r Wicipedia. Darperir yr hyfforddiant drwy gyfrwng y Saesneg, ond rhoddir blaenoriaeth i siaradwyr Cymraeg er mwyn gallu cynorthwyo gyda proseictau… Parhau i ddarllen Cwrs Hyfforddi’r Hyfforddwyr, Caerdydd. 1-2/2/2014

WiciGyfarfod, Caerdydd. Nos Wener 1/11/13

Gyda chynhadledd Edu Wiki 2103 yn cymryd lle yr un pryd dyma feddwl am drefnu WiciGyfarfod (tebyg i Hacio’r Iaith Bach) ar y nos Wener. Mae’n gyfle anffurfiol i sgwrsio gyda wicipedwyr hen a newydd o Gymru a thu hwnt. Y gobaith yw y bydd Alex Hinojo yno ar ran Wicipedia Catalonia hefyd. Mae Alex yn gwneud gwaith anhygoel yng… Parhau i ddarllen WiciGyfarfod, Caerdydd. Nos Wener 1/11/13

Cynhadledd EduWiki 2013 (Wikipedia mewn Addysg): Caerdydd, 1 a 2 Tachwedd

Mae bellach modd cofrestru ar gyfer cynhadledd EduWiki 2013, sef ail gynhadledd Wikimedia UK i drafod prosiectau addysgol. Cynhelir y gynhadledd yng Nghaerdydd ar y 1 a 2 o Dachwedd a bydd yn trafod ystod eang o bynciau o Adnoddau Dysgu Agored, Rhaglen Addysgol Wikipedia, asesu ac achredu, tybiaeth feirniadol, llythrennedd digidol a llythrennedd Wikipedia.… Parhau i ddarllen Cynhadledd EduWiki 2013 (Wikipedia mewn Addysg): Caerdydd, 1 a 2 Tachwedd

SWYDD: Rheolwr i Gymru (Prosiect Wicipedia)

Dyma hysbyseb swydd a ymddangosodd yn Golwg yr wythnos hon: Mae Wici Cymru a Wikimedia UK yn chwilio am Reolwr i Gymru i ddatblygu’r Wicipedia Cymraeg a Saesneg yng Nghymru drwy ysbrydoli a hyfforddi golygyddion newydd drwy gynllun y prosiect Llwybrau Byw! Dylai’r Rheolwr fod yn brofiadol mewn: golygu prosiectau Wicimedia (Cymraeg a Saesneg), cefnogi… Parhau i ddarllen SWYDD: Rheolwr i Gymru (Prosiect Wicipedia)

Sesiwn 2a: Wicipedia Cymraeg (dolenni)

Wicipedia Cymraeg http://cy.wikipedia.org Ystadegau am Wicipedia Cymraeg http://stats.wikimedia.org/EN/SummaryCY.htm Ieithoedd – mae Cymraeg yn lle 69! http://meta.wikimedia.org/wiki/List_of_Wikipedias Llywodraeth Gwlad y Basg yn buddsoddi yn prosiectau Wicipedia Basgeg ac maent wedi cyrraedd lle 33 gyda 10x mwy o erthyglau na Wicipedia Cymraeg.

Cyfrannu at Wicipedia Cymraeg #steddfod2012

Ces i sgwrs gydag ymwelydd i’r babell Hacio’r Iaith / Gŵyl Dechnoleg Gymraeg prynhawn yma, Iolo Ceredig Jones. Tra roedden ni’n trafod Wicipedia siaradodd e am ei gyrfa fel chwaraewr gwyddbwyll rhyngwladol ar ran Cymru. Felly cawson ni’r cyfle i ddiweddaru’r dudalen amdano fe ar Wicipedia Cymraeg gyda llun o du allan i’r babell! Mae’r… Parhau i ddarllen Cyfrannu at Wicipedia Cymraeg #steddfod2012

Golygathon y Wicipedia Cymraeg, Caerdydd 30.6.12 #cywiki

Cadwch y 30ain o Fehefin 2012 yn rhydd, gan y bydd golygathon y Wicipedia Cymraeg yn digwydd yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd. Beth yw Golygathon? Cyfle i bobl ddod at ei gilydd mewn un man i greu neu wella erthyglau ar y Wicipedia Cymraeg, sef gwyddoniadur arlein y gall unrhyw un ei olygu.  Mae’n gyfle i… Parhau i ddarllen Golygathon y Wicipedia Cymraeg, Caerdydd 30.6.12 #cywiki

Wikimeet Wikimedia UK yn Nhrefynwy 21.4.12

Disgfrifiad o beth yw wikimeet: Wikimeets are mainly casual social events. You can expect to meet some very keen Wikipedians, however this is also an open invite for anyone interested in finding out more about Wikipedia, other Wikimedia projects, projects re-using Wikipedia, and other collaborative wiki projects. Yn sgil llwyddiant prosiect Monmouthpedia, mae’r elusen Wikimedia… Parhau i ddarllen Wikimeet Wikimedia UK yn Nhrefynwy 21.4.12