Cyfieithu Disqus

Fel rhywun wnaeth gyfrannu at gyfieithu rhyngwyneb Disqus yn y gorffennol, ges i ebost ganddyn nhw heddiw’n dweud eu bod wedi newid gwefannau/widgets ac angen cyfieithu o’r newydd. Dwi’n gweld mwy o flychau sylwadau Facebook na rhai Disqus dyddia ma felly dwn i ddim faint o flaenoriaeth ydi hwn mewn gwirionedd. Ond dyma’r ddolen os oes… Parhau i ddarllen Cyfieithu Disqus

Disqus yn Gymraeg… eto

Mae Disqus wedi cael ei cyfieithu (eto dw i’n meddwl) http://www.maes-e.com/viewtopic.php?t=29051&p=387841#p387841 Ni di trafod Disqus o’r blaen yma. https://haciaith.cymru/2010/10/05/disqus-yn-gymraeg-cc-nwdls-wilstephens/ Os dw i’n cofio yn iawn wnaethon nhw ddim defnyddio’r cyfieithiad cyntaf – am ryw reswm. Yn anffodus mae pobol wedi ail-adrodd yr un gwaith. Efallai tro nesaf bydd e’n werth chwilio archifau Maes-e, Hacio’r Iaith,… Parhau i ddarllen Disqus yn Gymraeg… eto

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post Cofnodion wedi'u tagio ,

@haciaith – ffrwd o gofnodion a sylwadau

Newydd ychwanegu ffrwd o sylwadau’r blog haciaith.cymru i’r cyfrif @haciaith ar Twitter http://twitter.com/haciaith Mae’r cyfrif yn darparu ffrwd o gofnodion fel arfer – a nawr sylwadau. Dibynnu ar ansawdd y sylwadau… y bwriad yw 100% dolenni i sgyrsiau technoleg ac iaith ar haciaith.cymru – wastad ar bwnc. DIM rwtsh amherthnasol yn y ffrwd yma! Wrth… Parhau i ddarllen @haciaith – ffrwd o gofnodion a sylwadau

Diffyg sylwadau ar blog Betsan Powys BBC

mis Medi – sero sylw http://www.bbc.co.uk/blogs/thereporters/betsanpowys/2010/09/ mis Awst – sero sylw http://www.bbc.co.uk/blogs/thereporters/betsanpowys/2010/08/ cofnod olaf gyda sylwadau ym mis Gorffenaf http://www.bbc.co.uk/blogs/thereporters/betsanpowys/2010/07/breezing_in.html#comments Mae rhywun wedi troi off sylwadau mewn gwirionedd. Paratoi am system well efallai? Bydd Angharad Mair yn hapus. Ond mae Vaughan Roderick dal yn derbyn sylwadau.

Arbrawf gyda system sylwadau

Sa’ isho sgwennu’r enw ond ond ewch i’r wefan yma (papur newydd). Dyw “rheolaeth cymuned arlein” ddim yn dda iawn yna wrth gwrs. Maen gyda nhw system sgôr nawr fel Daily Mail. Ond yn anffodus mae’n dibynnu ar cwcis – os ti’n dileu dy cwcis (Firefox: Teclynnau|Opsiynau||Preifatrwydd|dangos cwcis (efallai rhaid i ni newid eitem dewislen… Parhau i ddarllen Arbrawf gyda system sylwadau