Swydd: Menter a Busnes yn chwilio am Reolwr Gweithrediadau TG

Mae Menter a Busnes wedi gofyn i mi rannu’r cyfle isod. Cysylltwch yn uniongyrchol am ragor o fanylion. Mae Menter a Busnes yn chwilio am Reolwr Gweithrediadau TG ym Mangor, Llanelwy, Aberystwyth neu Gaerdydd Am ragor o fanylion am y cyfle hwn cysylltwch trwy’r manylion sydd yn yr hysbyseb ar wefan y cwmni.

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol Cofnodion wedi'u tagio

SWYDD: Rheolwr Cyfryngau Digidol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hysbysebu swydd Rheolwr Cyfryngau Digidol ar hyn o bryd: Cyflog £26,321 – £35,735 (Band Rheoli 2) Noder mai ar waelod yr ystod cyflog y byddwn yn recriwtio fel arfer. Diben y swydd: Rôl y swydd hon yw helpu i ddatblygu a gweithredu strategaeth cyfathrebu digidol arloesol, dynamig ac amlblatfform i… Parhau i ddarllen SWYDD: Rheolwr Cyfryngau Digidol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

ITV Cymru/@Hacio i lansio cynllun newyddion ar-lein newydd

Mae’n rhaid dweud fy mod i’n chwilfrydig am gynlluniau Hacio ar ôl gweld y hysbyseb swydd yma, yn enwedig am sut mae’r newyddiadurwyr proffesiynol yn gweithio gyda gwirfoddolwyr ifanc. Ond os ydych chi am geisio am y swydd dw i’n credu eich bod chi’n rhy hwyr yn anffodus! Newyddiadurwr Ar-lein – ITV Cymru Wales Lleoliad… Parhau i ddarllen ITV Cymru/@Hacio i lansio cynllun newyddion ar-lein newydd

SWYDD: Datblygydd Gwe, Rondo Media

Mae cwmni teledu Rondo, sy’n gyfrifol am raglenni fel Sgorio, Rownd a Rownd, Gwlad yr Astra Gwyn a Gwefreiddiol, yn chwilio am ddatblygydd gwe i weithio o’u swyddfa yng Nghaernarfon. Rhaglennydd/Datblygydd Gwe I ymuno ag adran ddigidol ac aml-gyfryngol Rondo. Byddai profiad o HTML, CSS, PHP a SQL yn ddelfrydol. Cytundeb blwyddyn i gychwyn Ebrill… Parhau i ddarllen SWYDD: Datblygydd Gwe, Rondo Media

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post Cofnodion wedi'u tagio

SWYDD: Cydlynydd Wicipedia, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cydlynydd Wicipedia Yn dilyn cytundeb cydweithio rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Wikimedia DU y mae’r Coleg yn dymuno penodi Cydlynydd Wicipedia fydd yn adrodd i swyddogion a Bwrdd Academaidd y Coleg ar sut orau y gellir rhannu adnoddau addysgol ar lwyfannau Wikimedia, gan gynnwys Wicipedia, o dan drwyddedau priodol. Bydd gennych gefndir academaidd gadarn,… Parhau i ddarllen SWYDD: Cydlynydd Wicipedia, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

SWYDD: Rheolwr i Gymru (Prosiect Wicipedia)

Dyma hysbyseb swydd a ymddangosodd yn Golwg yr wythnos hon: Mae Wici Cymru a Wikimedia UK yn chwilio am Reolwr i Gymru i ddatblygu’r Wicipedia Cymraeg a Saesneg yng Nghymru drwy ysbrydoli a hyfforddi golygyddion newydd drwy gynllun y prosiect Llwybrau Byw! Dylai’r Rheolwr fod yn brofiadol mewn: golygu prosiectau Wicimedia (Cymraeg a Saesneg), cefnogi… Parhau i ddarllen SWYDD: Rheolwr i Gymru (Prosiect Wicipedia)

SWYDD: Llywodraeth Cymraeg: Uwch-reolwr Datblygu Busnes – Cyfryngau Digidol

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am nodi camau allweddol a sicrhau eu bod yn cael eu cymryd er mwyn helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu potensial economaidd diwydiannau’r Cyfryngau Digidol yng Nghymru. Swydd strategol yw hon a fydd yn ei gwneud yn ofynnol gweithio ar draws nifer o feysydd allweddol i sicrhau’r canlyniadau gorau i’r… Parhau i ddarllen SWYDD: Llywodraeth Cymraeg: Uwch-reolwr Datblygu Busnes – Cyfryngau Digidol

Swydd: Rheolwr Cynnwys y We Adrannol, adran ystadegau, Llywodraeth Cymru

Hoffem benodi unigolion brwdfrydig sy’n llawn cymhelliant ac sydd â gwybodaeth a sgiliau ym maes y cyfryngau digidol, rheoli gwefannau a marchnata digidol. Eich prif gyfrifoldeb fydd datblygu a gwella’r cynnwys sydd ar ein gwefan gorfforaethol a’n micro safleoedd. Byddwch hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu’r defnydd o’r cyfryngau digidol er… Parhau i ddarllen Swydd: Rheolwr Cynnwys y We Adrannol, adran ystadegau, Llywodraeth Cymru