Tagiwyd fel: s4c Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Carl Morris 10:10 AM ar 22 July 2016 Dolen Barhaol
    Tagiau: , eisteddfod2016, s4c   

    S4C – Sianel Pwy? #steddfod2016 

    Dyma wybodaeth wrth Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am drafodaeth yn Eisteddfod Genedlaethol 2016 sy’n siŵr o gynnwys triniaeth o’r we a chyfryngau digidol:

    cymdeithas-s4c-sianel-pwy

    Annwyl gyfaill,

    Yn yr Eisteddfod byddwn yn cynnal cyfarfod cyhoeddus i drafod adolygiad Llywodraeth Prydain o S4C yn 2017, gan gynnwys mentrau digidol newydd posib a materion cynnwys megis polisi is-deitlau’r sianel.

    Felly, hoffwn eich gwahodd i’n cyfarfod ar faes yr Eisteddfod:

    S4C – Sianel Pwy?
    2:00pm, Dydd Iau, 4 Awst
    Pabell y Cymdeithasau 1

    Siaradwyr: Huw Jones (Cadeirydd S4C), Jamie Bevan (Cymdeithas) a Siân Powell (Coleg Cymraeg Cenedlaethol)

    Yn ystod y cyfarfod bydd ein cadeirydd, Jamie Bevan, yn cyflwyno ein dogfen bolisi newydd am ddyfodol S4C. Bydd hefyd cyfle i chi holi cwestiynau i’r panel, wedi i Huw Jones ymateb a gosod ei weledigaeth yntau o ran dyfodol y sianel.

    Am fwy o wybodaeth neu i gadarnhau eich bwriad i ddod, cysylltwch â ni drwy e-bostio post@cymdeithas.cymru neu drwy ffonio 01970 624501.

    Mae manylion am ein digwyddiadau eraill yn yr Eisteddfod, sy’n cyd-fynd â’r thema ‘Miliwn o Siaradwyr Cymraeg’ i’w gweld yma: http://cymdeithas.cymru/steddfod

    Mae croeso i chi anfon yr e-bost hwn ymlaen at eich cysylltiadau.

    Yn gywir,

    Jamie Bevan,
    Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith

     
  • nicibeech 5:58 PM ar 29 March 2016 Dolen Barhaol
    Tagiau: arolwg, disquscymraeg, , generationbeth;, s4c   

    Generation Beth a Disqus yn Gymraeg 

    Helô Hacieithwyr hoff!

    Ro’n i’n chwilio am bethau ynglyn â Disqus yn Gymraeg yn gynharach pnawn ‘ma a meddwl y baswn i’n cofnodi hyn yn fa’ma – gobeithio y bydd o ddiddordeb!

    Yn y gwaith (Cwmni Da) dw i a Phil Stead wedi bod yn gweithio ar brosiect cyffrous iawn sy’n cael ei lansio ar draws Ewrop mewn llai na pythefnos.

    Mae  S4C yn un o gyd-gynhyrchwyr ‘Generation Beth’ ynghyd â nifer o ddarlledwyr eraill
    Mae’n brosiect sy’n edrych ar fywydau pobl ifanc (oed 16-34) a’u hagweddau at bob math o bynciau. Mi fydd arolwg rhyngweithiol deinamig yn lansio yn swyddogol ar Ebrill 11eg a chyfres o ffilmiau dogfen teledu yn darlledu o Fai 13eg.

    Erbyn hyn, mae dros 15 o wledydd ar draws Ewrop yn rhan o brosiect Generation Beth a’r cyd-gynhyrchiad yn cael ei reoli gan yr EBU (European Broadcsting Union). Mae llwyddiant prosiect rhyngweithiol fel hyn yn dibynnu ar bartneriaethau cryf ar draws Cymru. Felly, os allwch chi helpu cyfeirio pobl at y prosiect cyffrous hwn mi fasen ni’n ddiolchgar iawn.

    Mae’r arolwg yn fyw rŵan, ond nid yw’r holl elfennau deinamig i’w gweld eto. Tydi o ddim yn lansio yn swyddogol tan Ebrill 11eg, ond rydyn ni angen nifer o bobl i gymryd rhan cyn y dyddiad yna. Gorau oll os ydyn nhw yn 16-34 oed, ond mae modd i unrhywun gymryd rhan wrth gwrs. Mae nifer o’r cwestiynau yn lot o hwyl i’w hateb – ac yn gwneud i chi feddwl! Mae’n hollol gyfrinachol – felly ewch amdani, a rhannwch y ddolen gyda’ch ffrindiau!

    O ia, fel rhan o baratoi’r prosiect yn Gymraeg, ‘dan ni wedi bod yn ychwanegu at y cyfieithiadau sydd yn Disqus.
     
  • Carl Morris 9:05 PM ar 7 July 2014 Dolen Barhaol
    Tagiau: , ITV, , s4c,   

    ITV Cymru/@Hacio i lansio cynllun newyddion ar-lein newydd 

    Mae’n rhaid dweud fy mod i’n chwilfrydig am gynlluniau Hacio ar ôl gweld y hysbyseb swydd yma, yn enwedig am sut mae’r newyddiadurwyr proffesiynol yn gweithio gyda gwirfoddolwyr ifanc.

    Ond os ydych chi am geisio am y swydd dw i’n credu eich bod chi’n rhy hwyr yn anffodus!

    Newyddiadurwr Ar-lein – ITV Cymru Wales
    Lleoliad – Caerdydd
    Llawn amser
    Cytundeb: 6 mis

    Cyfle cyffrous i ddatblygu newyddiaduraeth yn y Gymraeg ar-lein.

    Mae criw Hacio ar fin cyhoeddi cynllun newydd i annog pobol ifanc i fwydo eu cynnwys newyddiadurol eu hunain i’r we. Yn y swydd yma, byddwch yn gyfrifol am greu cysylltiadau gyda myfyrwyr mewn ysgolion a cholegau, yn eu hysbrydoli i greu cynnwys ac yn sicrhau fod y deunydd yn gywir ac yn addas i’w gyhoeddi ar wefan Hacio.

    Bydd gennych frwdfrydedd am newyddiaduraaeth yn yr iaith Gymraeg, gwybodaeth eang am faterion cyfoes Cymru a’r byd, a bydd eich bys ar byls y digwyddiadau sydd o bwys i bobol ifanc. Bydd angen syniadau arloesol a’r dewrder i dorri tir newydd.

    Byddwch yn gyswllt cyson gyda S4C ac yn aelod allweddol o dîm fydd yn mynd ar daith i ysgolion Cymru i gynnig hyfforddiant technegol a newyddiadurol.

    Byddwch yn gyfathrebwr da ar lafar ac mewn print, a bydd angen y gallu a’r parodrwydd i weithio dan bwysau. Cewch y cyfle hefyd i weithio ar raglenni Y Byd ar Bedwar a Hacio.

    Mae ITV yn le gwych i weithio. Os os oes gennych chi ddoniau technegol a chreadigol a’r awydd i wynebu her newydd bob dydd, cysylltwch â ni.

    Dyddiad cau: Gorffennaf 7fed 2014

     
    • Colin Nosworthy 10:33 PM ar 24 Gorffennaf 2014 Dolen Barhaol

      Ie, cyffrous iawn.

  • Carl Morris 4:56 PM ar 14 January 2014 Dolen Barhaol
    Tagiau: , s4c,   

    S4C Masnachol a Wildseed: cyfleoedd i bobl creadigol 

    Ychydig bach yn hwyr gyda’r cofnod yma ond dw i wedi bod yn ddarllen am Wildseed ac S4C Masnachol. Wildseed Studios yn cyhoeddi buddsoddiad newydd gan gangen fasnachol S4C:

    Mae Wildseed Studios wedi cyhoeddi buddsoddiad newydd gan gangen fasnachol S4C sy’n rhoi cyfran sylweddol i’r darlledwr yn y cwmni, a sedd ar eu bwrdd.

    Mae Wildseed Studios yn gwmni sy’n datblygu talentau a chynnwys newydd ar gyfer y genhedlaeth nesa ac yn comisiynu cynnwys gan gyfranwyr newydd a phrofiadol sydd â diddordeb mewn dulliau newydd o greu cynnwys ar gyfer pob platfform.

    Dywedodd David Bryant, Pennaeth Datblygu Masnachol S4C, “Fe wnaeth gweledigaeth Miles a Jesse ar gyfer Wildseed greu argraff arnom ni, yn ogystal â’r cyfle i fuddsoddi mewn menter fasnachol atyniadol iawn. Bydd y buddsoddiad yma yn agor llwybrau newydd i dalentau yng Nghymru i fanteisio ar gyllid a chefnogaeth strategol a chreadigol ar gyfer prosiectau maen nhw’n dymuno eu datblygu.”

    Mae’r cytundeb hefyd yn cynnig cyfleoedd i S4C gyd-gynhyrchu cynnwys gyda Wildseed ac yn rhoi’r hawl i drosleisio eu cynnwys i’r iaith Gymraeg ar gyfer ei ddarlledu ar y Sianel. […]

    Mae model Wildseed yn ddiddorol iawn. Darllenwch yr erthygl yn Wired am ragor o wybodaeth.

    Oes unrhyw un o S4C sy’n fodlon rhannu mwy am y cyfleoedd yma i bobl creadigol?

     
  • Carl Morris 6:54 PM ar 19 December 2013 Dolen Barhaol
    Tagiau: clic, , s4c,   

    RIP Golyg, y gymuned rhannu rhaglenni teledu o Gymru 

    Dw i newydd ddarllen y neges e-bost isod oddi wrth Golyg.

    Annwyl gyfaill,

    Mae’n ddrwg gen i gyhoeddi fod Golyg, y gymuned rhannu rhaglenni teledu o Gymru, wedi dod i ben oherwydd galw isel. Hoffwn hefyd ymddiheuro am y modd daeth y traciwr i ddiwedd mor sydyn rhai dyddiau yn ôl.

    Rhannwyd dros 4,000 o raglenni teledu o Gymru gyda dros 1,300 aelod mewn 68 gwlad yn rhad ac am ddim yn ystod tair blynedd y gymuned. Fodd bynnag, nifer cymharol fach o aelodau sy’n mewngofnodi yn rheolaidd ac mae’r galw am raglenni mor isel nad yw’n ymarferol parhau i ariannu’r traciwr.

    Diolch arbennig i’r llond llaw o aelodau fu’n cipio a’n rhannu’r rhaglenni ac i’r rhai a oedd yn eu cadw a’u parhau i rannu ag eraill. Diolch hefyd i’r aelodau a oedd yn amlwg yn y fforymau ac yn gadael sylwadau mor garedig i’r cipwyr.

    Mi fydd syniadau yn parhau i gael eu trafod dros yr wythnosau nesaf ac mae’n bosib bydd newyddion da yn dilyn i rai aelodau yn y flwyddyn newydd.

    Dymuniadau gorau,

    G.

    Yn fy marn i, mae Golyg fel arbrawf wedi profi bod ‘na rhyw faint o alw am fynediad at raglenni teledu tu hwnt i’r ffenestr gwylio ar S4C Clic. Efallai mae modd i gwmniau, actorion a cherddorion cyd-weithio i sicrhau bod rhaglenni i’w gwylio gyda’r trwyddedau swyddogol. Dw i’n meddwl am rywbeth gyda hysbysebion fel 4OD neu ddosbarthiad ar blatfformau fel YouTube a Netflix.

     
    • Dafydd Tomos 1:37 AM ar 20 Rhagfyr 2013 Dolen Barhaol

      Mae’n biti fod e wedi dod i ben am ei fod yn gallu cynnig mwy na rhannu mwy na rhaglenni cyfredol ond hen gyfresi hefyd sydd ddim ar Clic. Mae’n wallgo na all pobl fynd nôl a gwylio holl bennodau yng nghyfresi dramau fel Gwaith Cartref neu Alys er enghraifft. Mae angen cadw darlledu oriau brig S4C ar gyfer deunydd newydd a cyfoes, felly does dim rheswm pam na all fod yr hen bennodau fod i gael ar alw ar y we.

      Ie mae’r un hen rheswm – ‘hawliau’. Ond yn wahanol i sefyllfa PRS/Eos/BBC mae rhoi trefn gyfreithiol ar hyn i gyd yn nwylo y darlledwyr, cynhyrchwyr *yng Nghymru*.

      Gyda llaw mae dal mannau arall ar y we sy’n parhau i rannu teledu Cymraeg cyfoes er nad wy’n gallu dweud lle.

    • Leia 10:55 AM ar 6 Ionawr 2014 Dolen Barhaol

      Sa i’n deall y broblem gyda hawliau o gwbl. Ydy e’n WIR yn wir NID actorion, cerddorion ayb yn MOYN eu pethau i gael eu darlledu tu fas Cymru? Mae’n anodd credu bod criw flin o bobl creadigol yn ymdeithio drwy’r lle yn gweiddi, “Peidiwch adael pobl o dramor yn edrych ar fy methau!”

      Dw i’n nabod llawer o ddysgwyr dros y byd i gyd oedd yn defnyddio Golyg i wella eu Cymraeg.

  • Rhodri ap Dyfrig 8:45 AM ar 30 October 2013 Dolen Barhaol
    Tagiau: enaid coll, , llywod, s4c   

    Enaid Coll – gêm Gymraeg newydd ar PC (a Mac a consoles cyn bo hir…) 

    Echddoes rhyddhaodd cwmni Wales Interactive gêm newydd ar Steam o’r enw Enaid Coll. Ma’r gêm wedi cael ei gyd-ariannu gan S4C a’r Llywodraeth. Dwi ddim wedi chwarae’r gêm eto ond ma’n edrych yn wledd ar y llygaid. A dweud y gwir dwi ddim wedi chwarae gêm fel hyn ers blynyddoedd, ond dwi awydd rhoi crac arni pan ma’r fersiwn Mac yn dod allan. Ma’r holl beth wedi ei leoleiddio yn Gymraeg sydd yn wych a faswn i wrth y modd clywed gan rywun sydd wedi ei chwarae sut mae hynny’n gweithio. Unrhyw gêmwyr allan na?

    Dyma chydig stills, a’r wefan efo’r dolenni i’w lawrlwytho:

    http://www.walesinteractive.com/#!master-reboot/c1vts

    MasterReboot07

    MasterReboot08

    MasterReboot09

    MasterReboot12

     
    • Rhys Lloyd 11:46 AM ar 2 Tachwedd 2013 Dolen Barhaol

      Ges i’r fraint o addasu’r gêm yma i’r Gymraeg. Roedd hi’n broses hynod o ddifyr a deud y gwir, a hoffwn i ddiolch i’m cyfeillion ar Twitter am eu hawgrymiadau gwych. ond nawr mae angen i bobl chwarae ac adolygu’r gêm (sydd ar y cyfan wedi derbyn adolygiadau gwych). Does dim rhaid i Enaid Coll fod yn ‘one-off’ – mae’n siwr gen i fod na ddigonedd o sgwennwyr a ‘gamers’ Cymraeg sydd efo syniadau gwych am gemau sy’n Gymraeg a Chymreig eu naws – beth am gêm gyffro sombis gan Aneirin Karadog??

  • Rhodri ap Dyfrig 3:05 PM ar 9 May 2013 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , , s4c   

    #creadigidol – Dadansoddiad Mewnol-Allanol (SWOT) o’r Cyfryngau Cymraeg Digidol 

    Dwi yng nghynhadledd #creadigidol yng Nghaernarfon heddiw (ond mae ar y we ac yng Nghaerdydd hefyd). Dwi newydd gyflwyno ar y pwnc uchod felly meddwl baswn i’n postio dolenni i’r cyflwyniad yma.

    Mae wedi bod yn ddiwrnod diddorol iawn a dwi’n falch iawn o weld bod lot o’r pryderon oedd gen i yn y cyflwyniad wedi eu hateb neu’n dechrau cael eu hateb gan S4C. Dyddiau cyffrous yn sicr, a dwi’n siwr bydd lot o sdwff da’n dod allan dros y blynyddoedd nesaf.

    http://www.apdyfrig.com/wp-content/uploads/2013/05/SWOT-digidolcymraeg.docx

     
  • Carl Morris 11:37 PM ar 21 February 2013 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , s4c   

    Cwmni Da ac S4C yn lansio ap Llefydd Sanctaidd ar iOS… Trafodaeth 

    Ifor ap Glyn - Llefydd Sanctaidd

    Newyddion da i bobl sy’n licio crwydro yng Nghymru. Dw i newydd gweld bod y tîm tu ôl y rhaglen teledu Llefydd Sanctaidd wedi lansio ap Llefydd Sanctaidd am ddim ar iOS:

    […] Nawr, gyda chymorth yr app arbennig hwn, fe allwch chithau gychwyn ar eich pererindod eich hunain i unrhyw un o’r 37 lle sanctaidd sy’n ymddangos yn y gyfres. Gan ddefnyddio technoleg GPS, gallwch ddarganfod sut i gyrraedd, edrych ar luniau a darllen am hanes y llefydd sanctaidd. Gyda chyfarwyddiadau, mapp a gwybodaeth i ymwelwyr mae popeth sydd ei angen arnoch cyn cychwyn am dro i gyd ar gael mewn un man cyfleus ar yr app arbennig hwn.

    Lawrlwythwch yr app heddiw am ddim o itunes.com/llefyddsanctaidd. […]

    […] Mae cynnwys Cymraeg yr app hwn wedi ei gyfieithu o lyfr Nick Mayhew-Smith, ‘Britain’s holiest places’. Mae fersiwn Saesneg o’r app yn cael ei chreu ar hyn o bryd fydd yn cynnwys 500 o fannau sanctaidd y llyfr hwnnw, a bydd ar werth am £5.49. […]

    Datganiad i’r wasg am ap Llefydd Sanctaidd

    Mae llawer o bobl yn mynegi barn am ddefnydd S4C o ddigidol. Beth bynnag yw’r diffygion, maent yn gallu comisynu APS! Ac aps brodorol ar gyfer iOS yn bennaf er bod rhai ar gyfer Android. Dw i’n chwilfrydig am yr egwyddorion tu ôl y strategaeth yma.

    1. Faint o ddefnyddwyr Cymraeg sydd ar iOS (iPad, iPhone) bellach?

    2. Pam mae prinder o brosiectau S4C ar blatfformau digidol gyda mwy o ddefnyddwyr potensial fel Android, y we, Wicipedia, ayyb? (Dw i’n defnyddio Android! Dw i heb cael siawns i brofi’r ap eto. Mae croeso i unrhyw un postio meddyliau / profiadau yn y sylwadau.)

    3. Er enghraifft, oes modd cael mwy o gynnwys amlgyfryngol ar dudalen S4C am Llefydd Sanctaidd?

    Jyst gofyn. Efallai byddai rhywun sy’n gwybod yn gallu ateb.

    Gyda llaw hoffwn i weld ystadegau am ddefnydd o aps yn y dyfodol agos – er enghraifft trwy unrhyw ap mae’n ddigon hawdd i ofyn am ganiatâd i gasglu data (dienw) am leoliad ayyb. Dw i jyst ddim yn siŵr pa mor dda rydyn ni’n deall y farchnad aps Cymraeg.

     
    • Huw Marshall 8:15 PM ar 3 Mawrth 2013 Dolen Barhaol

      Mae na rhesymau fasnachol dros lansio ar iOS yn gyntaf, dwi’n gobeithio blogio ar y pwnc yn fuan. O ran cynnwys amlgyfryngol mae rhaid cofio bod adnoddau ariannol a dynol yn brin, dwi wrthi’n datblygu strategaeth yn S4C sy’n golygu fod rhaid targedu’r adnoddau prin yma. Mae datblygu’r Ap llefydd sanctaidd yn enghraifft o gynnwys ddigidol ychwanegol mewn cysylltiad a rhaglen, ‘swn i wrth fy modd yn cynnig mwy o adnoddau ddigidol yn gyffredinol ond diwedd y gân yw’r geiniog.

      Un enghraifft o sut mae S4C yn ehangu eu darpariaeth digidol yw ein partneriaeth â’r theatr gen ar prosiectau Y Bont a Tir Shir Gâr.

      Dwi’n gobeithio fydd ffrwythau fy llafur yn dechrau amlygu eu hunain yn y misoedd sy’n dod. Mae na lot o ddatblygiaday cyffrous ar y gweill.

    • Carl Morris 9:13 PM ar 5 Mawrth 2013 Dolen Barhaol

      Diwedd y gân yw’r geiniog – ond beth am amcanion gwasanaeth cyhoeddus S4C?

      Fydd blog S4C sydd yn esbonio rhesymeg dros benderfyniadau digidol felly? (Gwych!)

    • Rhys 10:04 PM ar 12 Mawrth 2013 Dolen Barhaol

      Edrychaf innau ymlaen at y blogiad hefyd (fel perchennog Android chwerw arall….. 😉 )

      Falle dan ni’n trafod graddfa, a ‘chynnyrch’ (a chyllid) cwbl wahanol fan hyn, ond difyr yw darllen polisi gov.uk am gynhyrchu apps: We’re not ‘appy. Not ‘appy at all.

    • Carl Morris 10:45 AM ar 15 Mawrth 2013 Dolen Barhaol

      Gofyn oeddwn i, chwerw dw i ddim! 🙂

      Ie gwelais i’r cofnod am aps gov.uk – mae’r sefyllfa ychydig yn wahanol i deledu achos maent yn sôn am ddarpariaeth o wasanaethau fel iechyd. Ond mae’r egwyddor yn bwysig – mae angen ystyried lle mae’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr!

  • Carl Morris 11:47 PM ar 22 August 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , Pobol Y Cwm, , s4c   

    Pobol y Cwm a digidol 

    Beth mae pobl yn meddwl o’r datganiad S4C heddiw? Dw i newydd sgwennu cofnod ar fy mlog, BBC + S4C + Ti == PYC.

     
  • Rhodri ap Dyfrig 9:00 AM ar 21 May 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , , s4c   

    “A oes data?” “…data?!” 

    Am ryw reswm dwi wedi cael rhyw chwilen yn fy mhen am ddarllen barddoniaeth yn ddiweddar. Dwi rioed wedi o’r blaen, ond mae prinder amser a wedi arwain fi i ddechrau chwilota. Fy mhroblem i ydi, a dwi di cael yr un broblem gyda jazz o’r blaen, ydi bod darganfod beth dwi’n lecio chydig yn annodd. Mi allwn i holi Twitter am argymhellion, ond mae’n rhaid bod na ffyrdd gwell o wneud hynny, efallai gan ddefnyddio algorithmau.

    Ond wrth feddwl am hyn, nesh i feddwl oes na’r data ar gael i wneud rhedeg unrhyw algorithm yn werth chweil? Oes data gan Gwales efallai am bryniannau? Oes data gan S4C am Clic? Oes data gan Golwg360 am ddarllenwyr? Dwi’n amau taw na yw’r ateb gan nad oes gan yr un (heblaw falle Gwales?) systemau sydd yn tracio dewisiadau defnyddwyr.

    Nid yn unig byddai hyn o werth wrth feddwl am ba gynnwys sy’n gweithio, mae’n hollbwysig ar gyfer personoleiddio cynnwys. Mae data defnyddwyr yn rhan greiddiol o strategaeth Channel 4, a’r BBC trwy BBC ID.

    Gan nad oes neb wedi cymryd cam i’r cyfeiriad hwn eto, beth am gynnig syniad: be am gael rhyw fath o system defnyddwyr (fel OpenID efallai) sydd yn gallu cael ei osod fel dull mewngofnodi ar draws y we Gymraeg. Byddai wedyn ffordd o gael data meintiol mawr am ddefnyddwyr, a fyddai nid yn unig yn arf marchnata grymus (faint o bobol sydd ddim yn prynu deunydd Cymraeg am nad ydyn nhw wedi ffeindio’r peth ma nhw isio?), ond yn bwysicach yn arf ar gyfer hybu diwylliant drwy ffeindio ffyrdd newydd o gael pobol at be ma nhw isio.

    Be chi’n feddwl? Breuddwyd ffwl?

     
    • Nudd 10:59 AM ar 21 Mai 2012 Dolen Barhaol

      Rhodri,

      Rwy’n credu dy fod ti wedi rhoi dy fys ar real sanctaidd marchnata digidol! Y data hyn yw’r celloedd coch yng ngwaed Amazon, Yahoo, Google ac ati – h.y. ystadegau am dueddiadau ac arferion defnyddwyr sy’n caniatáu iddyn nhw ychwanegu gwerth at eu data ffeithiol drwy bersonoleiddio profiad y defnyddiwr ar un llaw, a thargedu hysbysebion atynt ar y llaw arall.

      Gymaint ag y byddwn i’n hoffi gweld dy syniad di’n casglu momentwm, rwy’n ofni fod hyd yn oed cwmnïau Cymru yn rhy fasnachol i fuddsoddi mewn systemau i gasglu’r data hyn ac yna ei rannu’n gyhoeddus.

    • Owain Schiavone 9:48 AM ar 22 Mai 2012 Dolen Barhaol

      Data ynglyn a defnyddwyr ti’n meddwl yn hytrach na gwybodaeth gyffredinol ynglyn a pha dudalennau mae pobl yn eu darllen ia (h.y. yng nghyd destun G360)?

      Fel mae’n digwydd rydan ni wedi bod yn sbio ar Open ID yn ddiweddar ac yn gobeithio ei gyflwyno fel rhan o gynllun ehangach (newyddion lleol a ballu).

    • Rhodri ap Dyfrig 12:38 AM ar 23 Mai 2012 Dolen Barhaol

      @Nudd faswn i ddim o reidrwydd isio i’r cwmniau ei rannu’n gyhoeddus – dim ond efo’i gilydd! Ella bod hynny r’un mor annodd 😉

      @Owain Ia, data ynglyn â defnyddwyr o’n i ar ei ol. Arferion darllen, gwylio, prynu yn gymysg efo data dyfnach demograffyddol. Falch bod chi’n ystyried rhyw fath o gyfrifon defnyddwyr. Mae S4C hefyd dwi’n meddwl. Fasa hi ddim yn braf gallu cael cyfrifon sydd yn gweithio ar draws G360, S4C a chyrff eraill Cymraeg sy’n derbyn nawdd cyhoeddus? Fasa’n broffidiol i chi gyd dwi’n meddwl.

    • Owain Schiavone 12:21 PM ar 23 Mai 2012 Dolen Barhaol

      Dwi’n meddwl mai Open ID neu debyg ydy’r cyfle gorau i gasglu’r math yma o wybodaeth – mae pobl yn fwy parod y rannu gwybodaeth bersonol ar gyfryngau fel Facebook a Twitter. Rydan ni hefyd yn edrych ar apps Open Graph Facebook i weld os ydy’n werth i ni ystyried mynd ar ol hyn.

    • Marc Thomas 8:24 PM ar 23 Mai 2012 Dolen Barhaol

      Mae gwefan Lleol.net wedi yn caniatau mewngofnodi drwy ddefnyddio Open ID. Efallai dylswn ni ychwanegu neges yn esbonio’r gwasanaeth yma. Fyddai’n braf cydweithio gyda gwefannau eraill er mwyn gwneud rhyw fath o hysbysebu’r rhwydwaith yma ar y cyd.

c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel