Tagiwyd fel: meddalwedd Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Gareth Morlais 12:21 PM ar 27 November 2014 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , meddalwedd,   

    Ar agor: Cynllun Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg 2015-16 

    Llun o Raspberry Pi gan Jan Grosser

    Llun o Raspberry Pi gan Jan Grosser

    Mae’r Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg 2015-2016 Llywodraeth Cymru  ar agor i geisiadau rhwng nawr a’r 30ain o Ionawr 2015.

    Mae’r grantiau yn cefnogi amcanion y cynllun gweithredu Technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg.

    Pwrpas y cynllun gweithredu yw annog gweithgareddau sy’n hybu ac yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg trwy dechnoleg a chyfryngau digidol. Prif ffocws y grant fydd cefnogi gweithgareddau sy’n:

    • codi ymwybyddiaeth o, neu hybu’r defnydd o feddalwedd, aps, gwasanaethau ar-lein, a theclynnau creu cynnwys Cymraeg – a chynnwys digidol Cymraeg.
    • cefnogi datblygiad meddalwedd a gwasanaethau digidol Cymraeg
      ar-lein
    • cynyddu faint o gynnwys Cymraeg sydd ar gael ar-lein.

    Croesawir ceisiadau gan gyrff o’r trydydd sector, y sector breifat a’r sector gyhoeddus ar gyfer gweithgareddau nad ydynt yn ddarostyngedig i’w Cynlluniau Iaith Gymraeg statudol.

    Gweithgareddau cymwys

    Dyma rai o’r gweithgareddau sy’n gymwys i’w hariannu dan y cynllun:

    • Datblygu gwasanaethau rhyngweithiol Cymraeg ar-lein newydd;
    • Yr isadeiledd digidol sydd ei angen er mwyn rhoi sylfaen i’r Gymraeg yn y maes digidol. E.e. llais i destun a deallusrwydd artiffisial;
    • Mapiau rhyngweithiol yn y Gymraeg lle gellir mewnosod mapiau gyda labeli ac enwau llefydd Cymraeg ar dudalennau we;
    • Prosiectau i gynyddu faint o gynnwys digidol yn y Gymraeg sydd ar gael ar-lein. Mae cynigion cynnwys sy’n ysbrydoli eraill i gyfrannu ac ehangu ar y cynnwys yn debygol o sgorio’n uwch na phrosiectau sy’n cyflwyno cynnwys gorffenedig;
    • Mentrau hyfforddi a chyrsiau codio, gan gynnwys hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc;
    • Mentrau i godi ymwybyddiaeth a hybu’r defnydd o feddalwedd, cynhyrchion seilwaith, cymwysiadau, gwasanaethau ar-lein, ac offer creu cynnwys Cymraeg – a chynnwys Cymraeg digidol;
    • System rheoli digwyddiadau ar lein a all hwyluso’r broses o drefnu digwyddiad, gwahodd/dosbarthu tocynnau a hyrwyddo’r digwyddiad ar draws y cyfryngau cymdeithasol;
    • Cleient Twitter Cymraeg ar gyfer cyfrifiaduron llechen a ffonau clyfar;
    • Teclyn torfoli trosiadau rhyngwyneb sy’n hwyluso defnydd termau safonol ar gyfer labelu botymau a negeseuon yn y porwr;
    • Ap treiglo;
    • Ategion/widgets Cymraeg ar gyfer gwasanaethau blogio a datblygu gwefannau;
    • Systemau gweithredu dwyieithog megis systemau adnoddau dynol a systemau cyllid;
    • Unrhyw weithgareddau eraill fyddai’n cyfrannu at gyflawni’r amcanion a gyflwynwyd yng Nghynllun Gweithredu Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg Llywodraeth Cymru, ac a fyddai’n addas i dderbyn grant.

     Am fwy o wybodaeth am y grant, yn cynnwys y ffurflen gais a’r canllawiau a meini prawf:

    http://cymru.gov.uk/techcy

     

     
  • Carl Morris 5:52 PM ar 18 April 2013 Dolen Barhaol
    Tagiau: , meddalwedd   

    Bjarne Stroustrup, dyfeisiwr C++ yn Abertawe 

    Dw i newydd clywedd am ymweliad Bjarne Stroustrup i Abertawe i siarad am C++ ddoe. Aeth unrhyw un? Sut oedd e?

     
  • Rhodri ap Dyfrig 2:55 PM ar 19 March 2013 Dolen Barhaol
    Tagiau: , cyfrifiadureg, meddalwedd, Prifysgol Aberystwyth   

    SWYDD: Darlithydd Peirianneg Meddalwedd Cyfrwng Cymraeg (Prifysgol Aberystwyth) 

    Dwi’n andros o gyffrous bod y swydd yma wedi dod i Aberystwyth. Unrhyw bobol haciaith efo diddordeb? Nabod rhywun arall? Pasiwch yr wybodaeth ymlaen plis.
    Dyma’r manylion oddi ar dudalen swyddi’r Brifysgol:

    Darlithydd mewn Peirianneg Meddalwedd – Adran Cyfrifiadureg

    (Cyfnod penodol o 5 mlynedd yn y lle cyntaf)

    Graddfa 7/8 (£33,230-£36,298; £37,382-£44,607) yn ddibynnol ar brofiad

    Dymuna’r Brifysgol benodi darlithydd i ddatblygu darpariaeth Gymraeg mewn Peirianneg Meddalwedd yn yr Adran Cyfrifiadureg.

    Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn sydd wedi cwblhau, neu sydd bron â chwblhau, PhD mewn maes perthnasol neu sydd â phrofiad proffesiynol yn y maes; sy’n gallu gweithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol; a sydd â chefndir ac agenda ymchwil sy’n berthnasol i’r maes ac a fyddai’n cryfhau portffolio ymchwil yr Adran a’r Brifysgol.

    Ariennir y swydd drwy Gynllun Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n darparu cyllid i Sefydliadau Addysg Uwch Cymru er mwyn cyflogi staff academaidd a meithrin darlithwyr o’r radd flaenaf sy’n adnabyddus am flaengarwch a rhagor

    iaeth ym maes dysgu ac ymchwil. Byddy Coleg Cymraeg yn darparu £1m yn flynyddol am gyfnod o bum mlynedd yn y lle cyntaf er mwyn cefnogi swyddi academaidd cyfrwng Cymraeg. Rhagwelir y bydd y cynllun hwn yn arwain at gyllido dros 100 o swyddi academaidd cyfrwng Cymraeg erbyn blwyddyn academaidd

    Mae’r Adran Cyfrifiadureg wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau nawdd ar gyfer un o’r swyddi hyn. Bydd deiliad y swydd yn rhan o gymuned ehangach o staff academaidd yn Aberystwyth a thrwy Gymru sydd yn gweithio tuag at gyflawni nod y Coleg Cymraeg o sicrhau statws llawn i’r Gymraeg fel cyfrwng ar gyfer addysg ac ymchwil o fewn y sector prifysgolion. Bydd gan y deiliad swyddogaeth greiddiol wrth gyflawni cynlluniau cenedlaethol y Coleg ar gyfer y maes hwn ac wrth helpu i gyrraedd y targedau a osodwyd yn y pwnc hwn ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg a niferoedd myfyrwyr sy’n dewis astudio yn Gymraeg.

    Ac o’r disgrifiad manylach:

    Mae tua 10% o israddedigion yr Adran Cyfrifiadureg dros y blynyddoedd diweddar yn siaradwyr Cymraeg. Mae cyflogwyr yn aml yn cynnig cyfleoedd am swyddi mewn diwydiant am flwyddyn gyda’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol, ac mae rhychwant o swyddi ym maes TG a meysydd cyffelyb yn y sectorau preifat a chyhoeddus yn gofyn am y gallu i ddefnyddio’r Gymraeg.

    Fodd bynnag, ceir tystiolaeth yn y Brifysgol a chan gyflogwyr lleol sy’n awgrymu bod diffyg siaradwyr Cymraeg mewn meysydd cyfrifiadurol. Mae’n hanfodol bod graddedigion yn cael eu hyfforddi i ddiwallu’r angen am siaradwyr Cymraeg yn y maes hwn, ac er mwyn mynd i’r afael â’r galw mae’r Adran Cyfrifiadureg wedi cyflwyno modiwlau cyfrwng Cymraeg i bob blwyddyn yn ei chynlluniau gradd. Nod y swydd hon felly yw ehangu’r ddarpariaeth Gymraeg o fewn yr Adran, ac mae’n cynnig cyfle cyffrous i ddarlithydd brwdfrydig ddatblygu darpariaeth arloesol a blaengar mewn maes sy’n gymharol newydd i astudio drwy’r Gymraeg.

    Edrych mlaen i gael cydweithio gyda nhw!

     
    • Carl Morris 3:32 PM ar 20 Mawrth 2013 Dolen Barhaol

      Cwrs cyfrwng Cymraeg neu feddalwedd cyfrwng Cymraeg neu’r ddau?!

    • Carl Morris 3:32 PM ar 20 Mawrth 2013 Dolen Barhaol

      Dw i’n gwybod yr ateb rili

    • Rhodri ap Dyfrig 9:31 AM ar 21 Mawrth 2013 Dolen Barhaol

      Os dwi wedi deall yn iawn fydd dim modd cael y cwrs i gyd yn Gymraeg eto oherwydd ystod modiwlau ayyb. Ond bydd y person yn gyfrifol am ddatblygu modiwlau Cymraeg, seminarau Cymraeg a ballu, ac felly cynyddu canran y cwrs sydd ar gael yn Gym. Mae’r swydd yn eithaf eang o be dwi’n weld, a siwr o fod bod rhyddid i ddylunio a chyflwyno modiwlau newydd.

  • Rhodri ap Dyfrig 12:12 PM ar 27 February 2013 Dolen Barhaol
    Tagiau: backups, meddalwedd,   

    Da chi mor iwsles a fi am wneud backups o wefannau WordPress? 

    Falle bod http://updraftplus.com/ yn ateb. Mae modd cadw copiau werth gefn yn awtomatig i Dropbox neu Google Drive. Ossym!

    (diolch i Aran Jones am y tip!)

     
    • Carl Morris 1:08 PM ar 27 Chwefror 2013 Dolen Barhaol

      Edrych yn dda.

      Roedd rhywun yn gofyn i mi am hyfforddiant WordPress.org ddoe ond gwnes i berswadio fe i fynd am WordPress.com achos mae’n lot haws ac mae llai o ymrwymiad i fod yn weinyddwr system!

    • Mei 2:05 PM ar 27 Chwefror 2013 Dolen Barhaol

      Hefyd yn opsiwn: http://wordpress.org/extend/plugins/backwpup/

      Gellir anfon i FTP, Dropbox, Amazon S3 neu sawl gwasanaeth cwmwl arall.

    • Rhodri ap Dyfrig 3:34 PM ar 27 Chwefror 2013 Dolen Barhaol

      Diolch Mei. Ie, sgen i ddim dymuniad bod yn weinyddwr system. Mae Dreamhost yn edrych ar ôl upgrades i fi sydd yn help mawr. One-click installs FTW!

  • Carl Morris 12:15 PM ar 20 November 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , , , , , meddalwedd   

    Labordy dyfeisiau agored ym Mhen-y-Bont gyda @cover_up 

    Llun gan Cover-Up

    Mae amrywiaeth eang o ddyfeisiau symudol. Os wyt ti’n creu aps symudol neu gwefannau ac eisiau profi dy feddalwedd ar ddyfeisiau gwahanol mae’r cwmni Cover-Up ym Mhen-y-Bont yn cynnig labordy gyda llyfrgell o dua 100 dyfais gwahanol. Hefyd maen nhw yn hapus i groesawi unrhyw un am ddim – i gyd sydd angen ydy cofrestru o flaen llaw.

    Llun gan Cover-Up

     
  • Carl Morris 12:35 PM ar 10 August 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , , , meddalwedd   

    Sut i greu ap ar y we gyda JavaScript, cwrs byr gan @meilgwilym – nodiadau 

    Diolch i Mei am sesiwn hyfforddiant gwych ar y maes!

    Cer i’r nodiadau yma os wyt ti eisiau adolygu/dysgu am y tro cyntaf.

     
  • Iestyn Lloyd 1:59 AM ar 10 February 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: , eGyhoeddi, , , , , , meddalwedd   

    Creu eLyfrau (ePub) 

    Cefais y cyfle i siarad yn Hacio’r Iaith 2012 am sut i greu eLyfrau, roedd pawb yn dweud wrthyf ei fod wedi mynd yn grêt ond yn fy mhen i oedd y cyflwyniad dros y siop (efallai mai dyna sut mae cyflwyniadau munud olaf i fod ar ddiwrnodau fel hyn!). I neud i fyny am hyn o’n i’n meddwl byswn yn ysgrifennu erthygl i drio esbonio yn well y ffurf sydd ar gael ar y funud i greu eLyfrau.

    Beth yw eLyfr?

    Yn blwmp ac yn blaen llyfr electroneg yw eLyfr, ond yn debyg iawn i unrhyw beth electroneg mae ‘na llawer o fformatia wahanol ar gael. Y rhai mwyaf poblogaidd – oherwydd poblogrwydd yr Amazon Kindle – yw .azw .mobi a’r un newydd ers y Kindle Fire, KF8. Y brif un arall, mae bron pob darllenydd eLyfrau – heblaw am y Kindle – yn ei gefnogi yw .ePub, a dyma mae pawb yn cytuno yw safon agored eLyfrau. (Mae .pdf hefyd yn cael ei gysidro fel ffurf o eLyfr.)

    Felly sut mae creu eLyfr (ePub)?

    Y ffordd Hawdd

    Pages ‘09 – £13.99 – Apple

    Apple's Pages

    Prosesydd geiriau gan Apple yw Pages, yn y rhy’n fodd mai Word yw un Microsoft. Os ydych yn gwybod sut i ddefnyddio Word mi fyddwch yn eithaf cartrefol yn Pages.

    Yn syml, dyma rhai o bethau i gofio ar gyfer creu eLyfr yn Pages:

    • Teipiwch eich llyfr trwy ddefnyddio Blank Template
    • Ar ôl neu yn ystod teipio fformatiwch y ddogfen trwy ddefnyddio paragraph styles sydd yn cuddio o dan View / Show Styles Drawer
    • Unrhyw eiriau fyddwch yn fformatio i fod yn Heading 1 fydd penodau’r eLyfr
    • Fe allwch lusgo lluniau i mewn i’r ddogfen o unrhyw ffolder, ond i gael y llun i ymddangos yn yr eLyfr mi fydd rhaid ei wneud yn Inline (efo’r llun wedi ei ddewis mae’r botwm yn ymddangos ar y top ar y dde).
    • Os ychwanegwch lun i’r tudalen cyntaf mae modd ei ddefnyddio fel clawr y llyfr.
    • Fe allwch ychwanegu fideo a thraciau sain i mewn i’r ddogfen yn y rhy’n fodd a’r lluniau.
    • Pan fyddwch wedi gorffen ewch i File / Export a dewis ePub. Yn fan hyn fydd y dewis i newid y tudalen cyntaf i fod yn glawr.
    • A dyna ni…

    Y ffordd sydd ddim mor hawdd

    InDesign CS5.5 – £714 – Adobe

    Adobe InDesign

    Mae InDesign wedi cael ei greu gan Adobe, y rhy’n pobl y tu ôl i Photoshop. Os rydych wedi edrych ar Photoshop ac wedi meddwl pa mor gymhleth mae’n ei edrych, wel mae InDesign eithaf tebyg. Yn fy ngwaith dwi’n defnyddio InDesign bron pob dydd i greu dogfennau ar gyfer print, ond yn y blynyddoedd diwethaf mae wedi dechrau troi i mewn i raglen sy’n trio creu cylchgronau a llyfrau yn ddigidol hefyd.

    Ni rwyf am fynd i mewn i lawer am y broses yn fan o greu eLyfr o InDesign gan eich bod yn gorfod dysgu’r rhaglen ei hun yn gyntaf ac yma fyswn i! Fe allwch ei ddefnyddio yn y rhy’n fodd a Pages a gosod allan eich dogfen yn blaen ac wedyn mynd i File / Export a dewis ePub. Mi gewch lawer mwy o ddewisiadau na Pages sydd yn beth da a drwg.

    Mi fydd Adobe yn dod a fersiwn newydd o InDesign allan yn y misoedd nesaf. Mae ‘na lawer o obeithion gan bobl fydd y fersiwn yma, CS6, yn neud y broses llawer haws i greu llyfrau a chylchgronau digidol (hint hint apGolwg).

    Y ffordd anodd – ond y gorau

    Côd – £AM DDIM ag i fyny

    Panic's Coda

    Os ydych o ddifri am ddechrau creu eLyfrau yn llawn amser, mae rhaid i chi ddysgu am beth sy’n gwneud ePub. Yn syml, cyfuniad o côd XHTML, XML a CSS yw ePub efo ychydig o ffeiliau eraill sy’n cyfuno nhw i gyd at ei gilydd. Y ffordd hawdd o feddwl am ePub yw fel gwefan bach. Yn y rhu’n fodd ac mae rhaglenni sydd yn gadael i chi creu gwefannau heb gyffwrdd côd yn creu côd hyll iawn, mae rhaglenni sy’n creu .ePub yn creu côd hyll iawn. Y broblem efo hyn yw ei fod yn gallu niweidio eich llyfr ac yn creu gwallau ar rhai darllenydd. Hefyd dyma’r unig ffordd, ar y funud, i allu creu eLyfr hollol unigryw â’i gael i edrych yn union fel da chi eisiau.

    I ddysgu am ‘y côd’ hyn rwyf yn argymell yn fawr iawn y llyfr darllenais i pedair blynedd yn ôl, Build Your Own Website the Right Way gan Ian Lloyd (ddim perthynas!). Mi wneith hwn ddysgu chi bron popeth y gwelwch chi y tu fewn i .ePub.

    Y rhaglen da ni’n ei ddefnyddio i greu gwefannau a rŵan ei’n eLyfrau yw Coda ond mae’n bosib gwneud y gwaith i gyd trwy ddefnyddio unrhyw raglen ‘text editor’ allan yna, hyd yn oed y rhai sy’n dod am ddim ar ei’ch cyfrifiadur.

    Gwyro’r Gwallau

    Unwaith fyddwch wedi creu eich ePub mae angen ei drio i weld os mae’n gweithio. Mi oeddwn i yn defnyddio Adobe Digital Editions i wneud hyn, ond ers i Apple ddod a’r rhaglen Book Proofer (mae rhaid bod yn aelod o iTunes Connect i gael hwn) allan rydym yn defnyddio’r iPad yn syth i weld sut mae’n edrych. (Diweddariad: Mae cwmni o’r enw TidBITS newydd ddod a darllenwr eLyfrau newydd allan i’r Mac o’r enw Bookle sydd i weld werth ei edrych arno.)

    Os oes unrhyw broblemau, neu hyd yn oed os does ‘na ddim, mae gwerth rhedeg eich .ePub trwy’r ‘ePub Validator’ i weld beth yn union sydd yn bod ar eich ffeil.

    I Gloi

    Mae hyn wedi bod y mwyaf i mi erioed teipio fel erthygl, felly rwyf am orffen yn fan hyn. Mi fyswn yn gallu mynd i mewn i sut i newid .ePub i mewn i fformat i’r Kindle, mi fyswn yn gallu dysgu chi fwy am strwythur dogfen .ePub, mi fyswn yn gallu mynd i mewn i siarad am eLyfrau ‘fixed width’. Mae gymaint i drafod yn y pwnc hwn fe allai gymered gwefan cyfan i fyny. Os ydych eisiau i mi fynd i mewn i fwy o fanylder gadewch gofnod isod.

    Mi nai orffen gyda rhestr o raglenni eraill sydd ar gael (dwi un ai heb eu defnyddio, neu yn meddwl eu bod nhw’n warthus e.e. Calibre – hyll uffernol):

    O.N. Mi rwyf yn Mac ‘biased’ gan mai dyna rwyf yn ei ddefnyddio. Sori, gennai ddim syniad am feddalwedd i Windows a Linux, unrhyw un arall yn gwybod?

     
    • Howlsedhes Services 2:11 AM ar 24 Chwefror 2012 Dolen Barhaol

      Mae nifer o wefanna sy’n troi pdf i ePub am ddim, ac mae’m bosib hefyd i neud pdf-au gan Openoffice (meddalwedd rhydd fel MSOffice i bub llwyfan). Efallai dyna’r ffordd hawsa. Oes ‘na broblema gan hynny?

    • iestyn 10:35 AM ar 28 Chwefror 2012 Dolen Barhaol

      Dwi heb ddefnydio y gwefannau yna, ond dwi’n siwr eu bod yn gweithio’n iawn os mai mond tecst rwyt ti’n delio efo. Unwaith mae lluniau a fideos yn dechra dod i mewn i’r llyfr fe all fynd yn fler.

  • Carl Morris 1:53 PM ar 5 May 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: , meddalwedd   

    Raspberry Pi – cyfrifiadur £15 ar gyfer codwyr ifanc 

    It’s not much bigger than your finger, it looks like a leftover from an electronics factory, but its makers believe their £15 computer could help a new generation discover programming.

    The games developer David Braben and some colleagues came to the BBC this week to demonstrate something called Raspberry Pi. It’s a whole computer on a tiny circuit board – not much more than an ARM processor, a USB port, and an HDMI connection. They plugged a keyboard into one end, and hooked the other into a TV they had brought with them.

    The result, a working computer running on a Linux operating system for very little, and a device that will, like the kit computers of the 1970s and 80s, encourage users to tinker around under the bonnet and learn a bit of programming. And it’s a yearning to return to those days that is driving Braben and the other enthusiasts who are working to turn this sketchy prototype into a product that could be handed to every child in Britain.

    http://www.bbc.co.uk/blogs/thereporters/rorycellanjones/2011/05/a_15_computer_to_inspire_young.html

    Eisiau! Mae’r stori yn fy atgoffa o arbrofion gynnar gyda fy ZX Spectrum. Newidodd y peth fy mywyd! Dw i ddim yn siwr os oes unrhyw beth debyg i bobol ifanc (neu hen) dyddiau yma, sef cynnyrch arbrofol a chwareus i ddysgu codio.

     
  • Carl Morris 10:17 PM ar 10 March 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: amserlen, , , meddalwedd, ,   

    Rainlendar 2 yn Gymraeg – meddalwedd calendr a rheolwr tasgau i’ch bwrdd gwaith 

    http://ydiafol.blogspot.com/2011/03/rainlendar-2.html

    Mae Alan Davies newydd cyfieithu Rainlendar 2 i Gymraeg, sef meddalwedd calendr a rheolwr tasgau i dy fwrdd gwaith am Windows, Mac OSX neu Linux. Gadawa sylw ar y cofnod os ti’n gwerthfawrogi’i gwaith.

     
  • Carl Morris 9:25 PM ar 3 January 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: calendr, meddalwedd   

    Dyddiadur a chynllunio 2011, beth wyt ti’n wneud? 

    Beth yw dy hoff “datrysiad” am gynllunio dy amser, apwyntiadau ayyb?

    Dw i wedi bod yn hoff iawn o ddyddiadur papur. Technoleg dda, dim batris, gweledol. Mae’n neis cael fy nghynlluniau a’r cyfrifiadur/ffonau/dyfeisiau ar wahan.

    Ond dw i’n bwriadu trio rhywbeth am y pythefnos cyntaf y flwyddyn. Google Calendar efallai? Mae’r dechrau’r flwyddyn yn cyfle am arbrofi. Bydda i barhau gyda’r dechnoleg – neu anghofio a phrynu dyddiadur wedyn.

     
    • Alws 11:37 PM ar 3 Ionawr 2011 Dolen Barhaol

      Google calendar sy’n syncio rhwng y mac ar iphone. Ti mond yn sgwennu apwyntiad unwaith a alle di cael o yn dy boced, ar dy ddesg, neu unrhyw gyfrifiadur yn y byd gyda internet. Mae ambell i bug ynddo a ddim mo’r clean cut a rhywbeth fel mobileme, ond maeo am ddim. Ac yn amlwg mae angen trydan i weld o mewn unrhyw sefyllfa. Rhywbeth i’w gynsidro beth bynnag!

    • Nic Dafis 12:49 AM ar 4 Ionawr 2011 Dolen Barhaol

      Dw i’n defnyddio iCal, a llawer o atgoffiadau. Pethau sy angen eu neud tu allan yn mynd ar gardiau indecs yn y poced, ac hefyd unrhywbeth dw i eisiau cofio yn mynd ar gerdyn yn gyntaf, ac wedyn mewn i iCal tro nesa dw i wrth y cyfrifiadur.

      Pan oedd maes-e yn ei anterth, ro’n i’n arfer defnyddio sustem llawer mwy cymhleth (wedi seilio ar “Get Things Done” gan David Allen) – gweler http://www.flickr.com/photos/nicdafis/56015580/ am enghraifft o ba mor geeked-out o’n i ar y pryd. Erbyn hyn dw i ddim yn boddran. Dim ond y cardiau bychain.

    • Colin Nosworthy 2:21 PM ar 6 Ionawr 2011 Dolen Barhaol

      Sticio at ddyddiadur papur. Wedi cael trafferth mawr yn bersonol yn trio cadw pethau ar y ffon neu calendrau arlein – angen bod yn llawer iawn fwy trefnus i ddefnyddio google calendr yn effeithiol

c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel