Problemau @ylolfa gydag Amazon Kindle

http://twitter.com/#!/YLolfa/status/106352202452443136 http://twitter.com/#!/YLolfa/status/106354136232112128 http://twitter.com/#!/YLolfa/status/106359366223007744 Gawn ni mwy o wybodaeth plîs? Ydy Amazon yn gwrthod gwerthu elyfrau Cymraeg yn gyffredinol? Roedd stori amdano fe ar Radio Cymru ond dw i’n methu ei ffeindio ar hyn o bryd (bore yma?). Beth ydy’r sefyllfa gyda chwmniau eraill fel Sony a Barnes & Noble?

Harry Potter, eLyfrau a’r Gymraeg gan @ifanmj

Ifan Morgan Jones sy’n ystyried beth fydd effaith eLyfrau ar gyhoeddwyr Cymraeg… http://www.golwg360.com/celfyddydau/llen/41861-harry-potter-elyfrau-a-r-gymraeg Fy sylw i’r pwynt am awduron rwtsh http://quixoticquisling.com/2011/06/gutenberg-ti-a-fi/ Mae ‘sbam’ ar Kindle nawr! Arwydd o gyfrwng gyda sylw.. http://www.guardian.co.uk/technology/2011/jun/26/kindle-ebooks-publish-naughton

Y Llyfrgell Brydeinig a Google

Mae’r Llyfrgell ‘Brydeinig’ (enw od yn Gymraeg) wedi cyhoeddi partneriaeth gyda Google i sganio 250,000 o lyfrau o gasgliad y Llyfrgell. Mi fydd y dogfennau yn cael eu dewis o’r cyfnod rhwng  1700 a 1870. Newyddion da yn sicr  a dwi wedi gofyn o’r blaen pam nad yw Llyfrgell Cenedlaethol Cymru yn mynd i bartneriaeth… Parhau i ddarllen Y Llyfrgell Brydeinig a Google

‘Y dyfodol i lyfrau…’ (Bedwen Lyfrau 2011, Caerdydd 7.5.11)

Rhai wythnosau’n ôl, cefais wahoddiad drwy Facebook gan berthynas i mi sy’n trefnu Bedwen Lyfrau 2011, sy yng Nghaerdydd eleni. Fel arall, faswn i ddim yn ymwybodol bod digwyddiad y Fedwen Lyfrau yn y brifddinas eleni.  Dyma fynd i chwilio am fwy o fanylion a darganfod bod trafodaeth diddorol ar ddiwedd y dydd: Y dyfodol… Parhau i ddarllen ‘Y dyfodol i lyfrau…’ (Bedwen Lyfrau 2011, Caerdydd 7.5.11)

Llyfrau yn y parth cyhoeddus heddiw: Gwilym Deudraeth, F Scott Fitzgerald a mwy

John Buchan, Mikhail Bulgakov, F Scott Fitzgerald… 70 mlynedd ar ôl eu marwolaethau, mae llyfrau ganddyn nhw yn dod mas o hawlfraint i’r parth cyhoeddus heddiw. Unrhyw awduron Cymraeg? Gwilym Deudraeth, englynwr (William Thomas Edwards) yw’r unig berson dw i’n gallu ffeindio ar hyn o bryd. Dyn ni’n rhydd i gopïo, addasu, ailgymysgu, cyhoeddi neu… Parhau i ddarllen Llyfrau yn y parth cyhoeddus heddiw: Gwilym Deudraeth, F Scott Fitzgerald a mwy

Culturomics: cronfa data massif o Google Books

Corpus mawr newydd o lyfrau http://ngrams.googlelabs.com/ 5.2m llyfr (“tua 4% o lyfrau sydd wedi cael ei chyhoeddi”) Dim Cymraeg yn swyddogol ond mae’n gynnwys llyfrau Cymraeg dan y categori English am ryw rheswm. e.e. chwilio am “iaith” http://ngrams.googlelabs.com/graph?content=iaith&year_start=1800&year_end=2000&corpus=0&smoothing=3 cofnod da gan David Crystal am terfynau y project http://david-crystal.blogspot.com/2010/12/on-culturomics.html Unrhyw ganlyniadau diddorol?