Tagiwyd fel: llyfrau Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Gorwel Owen 1:14 PM ar 5 September 2017 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau: , addysg agored, llyfrau   

    Testunlyfrau agored a’r cynffon hir 

    Tro cyntaf i mi gyfrannu: gobeithio bod y pwnc yn berthnasol.

    Cefais fy ysbrydoli gan y cofnod blog yma gan Robin DeRosa sy’n disgrio’r broses o greu testunlyfr ar gyfer cwrs llenyddiaeth yr oedd yn ei ddysgu. Efallai bod yma syniadau sy’n berthnasol i’r cyd-destun Cymraeg, felly meddwl baswn i’n ei rannu. Mae enghreifftiau arbennig o destunlyfrau Cymraeg wedi ymddangos yn ddiweddar, wrth gwrs, ond pan dwi’n meddwl am glasuron fel ‘Cyflwyniad i gerddoriaeth John Cage’ a ‘Golwg ffeministaidd ar gerddoriaeth electroneg’ dwi’n teimlo mod i tuag at derfyn y gynffon hir.

    Trio osgoi ei myfyrwyr rhag prynu testunlyfr drud oedd bwriad DeRosa pan aeth ati i greu detholiad amgen o lenyddiaeth gynnar yr UDA.  Drwy gasglu testynnau perthnasol, gwahodd (a thalu) myfyrwyr i sgwennu cyflwyniadau i’r gwahanol destunau, a thrafod efo’i gilydd, fe grëwyd The Open Anthology of Earlier American Literature. Ond, fel mae hi’n dweud ‘the $85 dollars that I saved for each of my students seemed to be the least of what was exciting to me about the open anthology […] Boy, did I underestimate the power of the open textbook’ (DeRosa).

    Dydi’r llyfrau uchod am John Cage a cherddoriaeth electroneg ddim yn bodoli, gyda llaw, a dwi’m yn rhagweld nhw’n bodoli yn y dyfodol agos chwaith, ond efallai bod prosiect DeRosa yn cynnig syniadau ynglŷn â sut y gallant nhw fodoli. Ond, yn fwy pwysig, mae’r syniadau addysgol a ddaeth i’r golwg wrth greu’r llyfr, y broses o gyd-ddysgu a chyd-greu, yn hynod o gyffroes, dwi’n meddwl.

    Falch o dderbyn unrhyw sylwadau.

    (Debyg mai ‘gwerslyfr’ ydi’r term mwyaf cyffredin ar gyfer ‘textbook’ ond dydi’r syniad o wers ddim yn eistedd yn iawn i mi efo addysg agored. Felly, es i am ‘testunlyfr’ GPC.)

     
    • Carl Morris 1:52 PM ar 5 Medi 2017 Dolen Barhaol

      Diolch am godi hyn. Mae llawer iawn o botensial i addysg Gymraeg yma, ffurfiol ac anffurfiol.

      Mae hi’n wych bob tro rydyn ni’n gweld sefydliad yn rhyddhau adnoddau o dan drwydded Comin Creu BY-SA neu’r parth cyhoeddus. Mae hi’n lot haws ailgylchu ac ailddefnyddio wedyn, ac yn amlwg yn llai o straen na chynhyrchu pethau gwreiddiol neu gyfieithu trwy’r amser.

      Mae gan Wicipedia Cymraeg, Wiciddata, ayyb rôl i’w chwarae yma yn amlwg, fel llefydd i ffeindio cynnwys ond hefyd llefydd ar gyfer cydweithredu.

      Y cynffon hir sydd efallai yn cyfleu her yn y Gymraeg oherwydd y nifer cymharol is o gyfranwyr mewn unrhyw niche penodol. Ond dw i hefyd yn gweld lot o frwdfrydedd.

      Dw i’n credu yn gryf bod angen lot mwy o gydweithio a ‘chanoli’ er mwyn gwneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael ac osgoi gwastraffu amser ac ymdrechion.

      Dyna oedd rhai o’r egwyddorion tu ôl i Hedyn ar gyfer cydweithio ar god a chynhyrchu apiau/gwefannau (yn hytrach nag addysg fel y cyfryw, ond mae’r egwyddorion yn debyg iawn).

      Er enghraifft dyma dudalen WordPress.

      Dyma enghraifft sydd yn fwy perthnasol i addysg: rhestr gychwynnol o lyfrau Cymraeg sydd ar gael ar-lein, a thrwyddedau.

      Tybed os fyddi di a phobl eraill am gydweithio gyda fi ar Hedyn i ddechrau rhestru adnoddau, prosiectau, ayyb sy’n perthnasol i addysg, fel man cychwyn? Dw i newydd greu tudalen cychwynnol ar gyfer meddyliau/nodiadau ta waeth. 🙂

    • Gorwel Owen 3:30 PM ar 5 Medi 2017 Dolen Barhaol

      Diolch Carl,

      Mae ‘na lawer o ffiniau hyblyg yn fyma, does: rhwng addysg ffurfiol ac anffurfiol; rhwng addysgwyr a myfyrwyr; rhwng rhywbeth fel cofnod mewn Wicipedia a phennod mewn llyfr, beth bynnag yn union ydi ‘llyfr’ unwaith mae o mewn ffurf ddigidol. Mae’r ffiniau yma yn hyblyg yn ddiddorol ond mae hefyd yn gwneud hi’n anodd cadw rheolaeth hefyd. Un rheswm, dwi’n meddwl, pam fod prosiect DeRosa wedi bod mor llwyddiannus ydi bod i wedi ei leoli tu fewn i gyd-destun penodol iawn: o ran cynnwys ac o ran grŵp o gyfranwyr… math o ‘ganoli’?

      Ia, mae’r gynffon hir yn her, yn sicr, ond hefyd yn gyfle, dwi’n meddwl, a dwi’n cytuno am y brwdfrydedd. Ia, ‘cydweithio a “chanoli”’ mor bwysig, yn enwedig cael y cydbwysedd yn iawn. mae’r prosiect wedi’i fabwysiadu gan gorff mwy rŵan, sef Rebus Community. Bydd yn ddiddorol gweld os ydi symud i leoliad efo cymuned mwy, ac un mwy ffurfiol, yn golygu bod myfyrwyr ychydig yn fwy cyndyn i gymryd rhan.

      Diolch am y dolenni. Llawer o bethau diddorol iawn yma! Mi wnâi drio ychwanegu cwpl o bethau. Roeddwn i wedi bod yn meddwl sbel yn ôl am greu porth termau cerddoriaeth, neu, termau dyniaethau, a gweld rŵan bod gen ti adran ‘Termau technolegol/arbennig’.

  • Carl Morris 6:38 PM ar 1 January 2013 Dolen Barhaol
    Tagiau: , llyfrau,   

    2013: Pa lyfrau a thestunau Cymraeg wedi dod i’r parth cyhoeddus heddiw? 

    Blwyddyn newydd dda. Bob 1af o fis Ionawr ar Hacio’r Iaith rydyn ni’n dathlu’r awduron sydd wedi dod i’r parth cyhoeddus. Heddiw, yn ôl cyfraith hawlfraint, mae gweithiau testun gan awduron sydd wedi marw yn 1942 yn dod yn hollol rydd. Mae modd ailddefnyddio ac ailgyhoeddi nhw heb gyfyngiadau bellach.

    Mae rhestr ar Y Bywgraffiadur Ar-lein. Dw i ddim yn cyfarwydd gyda’r enwau, efallai byddai rhywun arall yn gallu argymell pethau da gan yr awduron isod?

    • EVANS, JOHN JOHN ( 1862 – 1942 ), newyddiadurwr, etc.
    • GREEN, FRANCIS ( 1854 – 1942 ), hynafiaethydd
    • GRIFFITH-JONES, EBENEZER ( 1860 – 1942 ), gweinidog Annibynnol a phrifathro
    • HUGHES, THOMAS ISFRYN ( 1865 – 1942 ), gweinidog Wesleaidd
    • JAMES, FRANK TREHARNE ( 1861 – 1942 ), cyfreithiwr, beirniad celfyddydol
    • JONES, ELIAS HENRY ( 1883 – 1942 ), gweinyddwr ac awdur
    • JONES, JOHN DANIEL ( 1865 – 1942 ), gweinidog gyda’r Annibynwyr
    • JOYCE, GILBERT CUNNINGHAM ( 1866 – 1942 ), esgob
    • LEWIS, EDWARD ARTHUR ( 1880 – 1942 ), hanesydd
    • MORGAN, ALFRED PHILLIPS ( 1857 – 1942 ), cerddor
    • PRICE, JOHN ARTHUR ( 1861 – 1942 ), bargyfreithiwr a newyddiadurwr
    • SANDBROOK, JOHN ARTHUR ( 1876 – 1942 ), newyddiadurwr
    • WALTERS, DAVID ( EUROF ) ( 1874 – 1942 ), gweinidog (A) a llenor

    (Yn anffodus mae rhai o’r dolenni wedi torri felly dw i wedi eu tynnu, efallai mae problem gyda chronfa data Y Bywgraffiadur?)

    Mae rhestrau eraill ar Wicipedia Cymraeg a Wikipedia Saesneg.

    Gweler hefyd: mwy am y parth cyhoeddus Cymraeg

     
  • Rhodri ap Dyfrig 11:06 PM ar 19 November 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: llyfrau, ,   

    Llyfrau sain mp3 i blant, am ddim, gan wasg Y Dref Wen 

    Mae gwasg Y Dref Wen yn cyhoeddi llawer o gyfieithiadau Cymraeg o lyfrau poblogaidd i blant gan gynnwys y gwych Gryffalo, a nôl yn y dydd nhw oedd yn gyfrifol am drosiad Cymraeg fy hoff gomic – Tintin.

    Mae nhw rwan wedi rhoi 22 o lyfrau llafar neu lyfrau sain ar ffurf mp3 o rhai o’r llyfrau gorau yn rhad ac am ddim.

    Mae’r lindysyn llwglyd yno (sydd rwan yn disgyn yn ddarnau yn tŷ ni), Beni, a Trychineb y Deinosoriaid (sydd yn stori hwyl am ddyddiau olaf y deinosoriaid – DARK!).

    Rhowch nhw ar eich ipod – oriau o ddifyrrwch i’r plantos.

     
    • Rhys 9:53 PM ar 20 Tachwedd 2012 Dolen Barhaol

      Gwych. Diolch am rannu Rhodri (a’r Dref Wen!)

    • Leia 1:26 PM ar 23 Tachwedd 2012 Dolen Barhaol

      Perffaith i ddysgwyr hefyd!

  • Iestyn Lloyd 1:59 AM ar 10 February 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: , eGyhoeddi, , , , , llyfrau,   

    Creu eLyfrau (ePub) 

    Cefais y cyfle i siarad yn Hacio’r Iaith 2012 am sut i greu eLyfrau, roedd pawb yn dweud wrthyf ei fod wedi mynd yn grêt ond yn fy mhen i oedd y cyflwyniad dros y siop (efallai mai dyna sut mae cyflwyniadau munud olaf i fod ar ddiwrnodau fel hyn!). I neud i fyny am hyn o’n i’n meddwl byswn yn ysgrifennu erthygl i drio esbonio yn well y ffurf sydd ar gael ar y funud i greu eLyfrau.

    Beth yw eLyfr?

    Yn blwmp ac yn blaen llyfr electroneg yw eLyfr, ond yn debyg iawn i unrhyw beth electroneg mae ‘na llawer o fformatia wahanol ar gael. Y rhai mwyaf poblogaidd – oherwydd poblogrwydd yr Amazon Kindle – yw .azw .mobi a’r un newydd ers y Kindle Fire, KF8. Y brif un arall, mae bron pob darllenydd eLyfrau – heblaw am y Kindle – yn ei gefnogi yw .ePub, a dyma mae pawb yn cytuno yw safon agored eLyfrau. (Mae .pdf hefyd yn cael ei gysidro fel ffurf o eLyfr.)

    Felly sut mae creu eLyfr (ePub)?

    Y ffordd Hawdd

    Pages ‘09 – £13.99 – Apple

    Apple's Pages

    Prosesydd geiriau gan Apple yw Pages, yn y rhy’n fodd mai Word yw un Microsoft. Os ydych yn gwybod sut i ddefnyddio Word mi fyddwch yn eithaf cartrefol yn Pages.

    Yn syml, dyma rhai o bethau i gofio ar gyfer creu eLyfr yn Pages:

    • Teipiwch eich llyfr trwy ddefnyddio Blank Template
    • Ar ôl neu yn ystod teipio fformatiwch y ddogfen trwy ddefnyddio paragraph styles sydd yn cuddio o dan View / Show Styles Drawer
    • Unrhyw eiriau fyddwch yn fformatio i fod yn Heading 1 fydd penodau’r eLyfr
    • Fe allwch lusgo lluniau i mewn i’r ddogfen o unrhyw ffolder, ond i gael y llun i ymddangos yn yr eLyfr mi fydd rhaid ei wneud yn Inline (efo’r llun wedi ei ddewis mae’r botwm yn ymddangos ar y top ar y dde).
    • Os ychwanegwch lun i’r tudalen cyntaf mae modd ei ddefnyddio fel clawr y llyfr.
    • Fe allwch ychwanegu fideo a thraciau sain i mewn i’r ddogfen yn y rhy’n fodd a’r lluniau.
    • Pan fyddwch wedi gorffen ewch i File / Export a dewis ePub. Yn fan hyn fydd y dewis i newid y tudalen cyntaf i fod yn glawr.
    • A dyna ni…

    Y ffordd sydd ddim mor hawdd

    InDesign CS5.5 – £714 – Adobe

    Adobe InDesign

    Mae InDesign wedi cael ei greu gan Adobe, y rhy’n pobl y tu ôl i Photoshop. Os rydych wedi edrych ar Photoshop ac wedi meddwl pa mor gymhleth mae’n ei edrych, wel mae InDesign eithaf tebyg. Yn fy ngwaith dwi’n defnyddio InDesign bron pob dydd i greu dogfennau ar gyfer print, ond yn y blynyddoedd diwethaf mae wedi dechrau troi i mewn i raglen sy’n trio creu cylchgronau a llyfrau yn ddigidol hefyd.

    Ni rwyf am fynd i mewn i lawer am y broses yn fan o greu eLyfr o InDesign gan eich bod yn gorfod dysgu’r rhaglen ei hun yn gyntaf ac yma fyswn i! Fe allwch ei ddefnyddio yn y rhy’n fodd a Pages a gosod allan eich dogfen yn blaen ac wedyn mynd i File / Export a dewis ePub. Mi gewch lawer mwy o ddewisiadau na Pages sydd yn beth da a drwg.

    Mi fydd Adobe yn dod a fersiwn newydd o InDesign allan yn y misoedd nesaf. Mae ‘na lawer o obeithion gan bobl fydd y fersiwn yma, CS6, yn neud y broses llawer haws i greu llyfrau a chylchgronau digidol (hint hint apGolwg).

    Y ffordd anodd – ond y gorau

    Côd – £AM DDIM ag i fyny

    Panic's Coda

    Os ydych o ddifri am ddechrau creu eLyfrau yn llawn amser, mae rhaid i chi ddysgu am beth sy’n gwneud ePub. Yn syml, cyfuniad o côd XHTML, XML a CSS yw ePub efo ychydig o ffeiliau eraill sy’n cyfuno nhw i gyd at ei gilydd. Y ffordd hawdd o feddwl am ePub yw fel gwefan bach. Yn y rhu’n fodd ac mae rhaglenni sydd yn gadael i chi creu gwefannau heb gyffwrdd côd yn creu côd hyll iawn, mae rhaglenni sy’n creu .ePub yn creu côd hyll iawn. Y broblem efo hyn yw ei fod yn gallu niweidio eich llyfr ac yn creu gwallau ar rhai darllenydd. Hefyd dyma’r unig ffordd, ar y funud, i allu creu eLyfr hollol unigryw â’i gael i edrych yn union fel da chi eisiau.

    I ddysgu am ‘y côd’ hyn rwyf yn argymell yn fawr iawn y llyfr darllenais i pedair blynedd yn ôl, Build Your Own Website the Right Way gan Ian Lloyd (ddim perthynas!). Mi wneith hwn ddysgu chi bron popeth y gwelwch chi y tu fewn i .ePub.

    Y rhaglen da ni’n ei ddefnyddio i greu gwefannau a rŵan ei’n eLyfrau yw Coda ond mae’n bosib gwneud y gwaith i gyd trwy ddefnyddio unrhyw raglen ‘text editor’ allan yna, hyd yn oed y rhai sy’n dod am ddim ar ei’ch cyfrifiadur.

    Gwyro’r Gwallau

    Unwaith fyddwch wedi creu eich ePub mae angen ei drio i weld os mae’n gweithio. Mi oeddwn i yn defnyddio Adobe Digital Editions i wneud hyn, ond ers i Apple ddod a’r rhaglen Book Proofer (mae rhaid bod yn aelod o iTunes Connect i gael hwn) allan rydym yn defnyddio’r iPad yn syth i weld sut mae’n edrych. (Diweddariad: Mae cwmni o’r enw TidBITS newydd ddod a darllenwr eLyfrau newydd allan i’r Mac o’r enw Bookle sydd i weld werth ei edrych arno.)

    Os oes unrhyw broblemau, neu hyd yn oed os does ‘na ddim, mae gwerth rhedeg eich .ePub trwy’r ‘ePub Validator’ i weld beth yn union sydd yn bod ar eich ffeil.

    I Gloi

    Mae hyn wedi bod y mwyaf i mi erioed teipio fel erthygl, felly rwyf am orffen yn fan hyn. Mi fyswn yn gallu mynd i mewn i sut i newid .ePub i mewn i fformat i’r Kindle, mi fyswn yn gallu dysgu chi fwy am strwythur dogfen .ePub, mi fyswn yn gallu mynd i mewn i siarad am eLyfrau ‘fixed width’. Mae gymaint i drafod yn y pwnc hwn fe allai gymered gwefan cyfan i fyny. Os ydych eisiau i mi fynd i mewn i fwy o fanylder gadewch gofnod isod.

    Mi nai orffen gyda rhestr o raglenni eraill sydd ar gael (dwi un ai heb eu defnyddio, neu yn meddwl eu bod nhw’n warthus e.e. Calibre – hyll uffernol):

    O.N. Mi rwyf yn Mac ‘biased’ gan mai dyna rwyf yn ei ddefnyddio. Sori, gennai ddim syniad am feddalwedd i Windows a Linux, unrhyw un arall yn gwybod?

     
    • Howlsedhes Services 2:11 AM ar 24 Chwefror 2012 Dolen Barhaol

      Mae nifer o wefanna sy’n troi pdf i ePub am ddim, ac mae’m bosib hefyd i neud pdf-au gan Openoffice (meddalwedd rhydd fel MSOffice i bub llwyfan). Efallai dyna’r ffordd hawsa. Oes ‘na broblema gan hynny?

    • iestyn 10:35 AM ar 28 Chwefror 2012 Dolen Barhaol

      Dwi heb ddefnydio y gwefannau yna, ond dwi’n siwr eu bod yn gweithio’n iawn os mai mond tecst rwyt ti’n delio efo. Unwaith mae lluniau a fideos yn dechra dod i mewn i’r llyfr fe all fynd yn fler.

  • Carl Morris 4:44 PM ar 31 January 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , , , llyfrau   

    Syniad i gyhoeddwyr – darparu e-lyfr gyda llyfr papur 

    Mae’r strategaeth yma gan Nicholas Carr yn wych:

    […]

    There’s a lesson here, I think, for book publishers. Readers today are forced to choose between buying a physical book or an ebook, but a lot of them would really like to have both on hand – so they’d be able, for instance, to curl up with the print edition while at home (and keep it on their shelves) but also be able to load the ebook onto their e-reader when they go on a trip. In fact, bundling a free electronic copy with a physical product would have a much bigger impact in the book business than in the music business. After all, in order to play vinyl you have to buy a turntable, and most people aren’t going to do that. So vinyl may be a bright spot for record companies, but it’s not likely to become an enormous bright spot. The only technology you need to read a print book is the eyes you were born with, and print continues, for the moment, to be the leading format for books. If you start giving away downloads with print copies, you shake things up in a pretty big way.

    So why give away the bits? Well, traditional book publishers have three big imperatives today: (1) protect print sales for as long as possible (in order to fund a longer-term transition to a workable new business model); (2) help keep physical bookstores in business […] and (3) do anything possible to curb the power of Amazon.com, the publishers’ arch-frenemy.

    […]

    Dylai cyhoeddwyr yng Nghymru darllen yr erthygl lawn: http://www.roughtype.com/archives/2012/01/why_publishers.php

     
    • iestyn 9:20 PM ar 31 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Syniad gwych. Mae rhai bandiau sy’n gwerthu cerddoriaeth ar Bandcamp yn rhoi fersiwn digidol am ddim pan ydych yn prynu y vinyl neu’r CD.

    • Carl Morris 11:55 PM ar 31 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      iestyn, dw i’n sylwi lot o debygrwydd rhwng cerddoriaeth ddigidol ac e-lyfrau. Apple iTunes oedd y ‘frenemy’ (term Carr uchod), nawr mae Amazon angen cystadleuaeth.

  • Carl Morris 10:38 AM ar 28 January 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: , llyfrau   

    e-lyfrau – pa ddyfais? 

    image

    (mae lot mwy na Kindle!)

    graff gan Delyth Prys

     
    • Diane 1:39 PM ar 28 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Yw pawb yn gwybod bod ‘na lyfrau Cymraeg (gan Y Lolfa yn unig) ar gael ar y Kindle, nawr, yn y DU a’r UK (a’r Almaen, falle)? Mae ‘na rywbeth fel 15 o lyfr ar hyn o bryd. I rai sy’n tu fas o Gymru, dyma fendith!

    • Stephen Mason 6:08 PM ar 28 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Fel athro uwchradd mae’r peth sy’n becso fi llawer am y gorymdaith at e-lyfrau yw’r diffyg sylw ar yr elfen glywedol i’r peth. Problem mwya dyslecsia yw diffyg clywed yr iaith lafar. Gyda’r Gymraeg mae’r broblem hon yn broblem waeth byth. Mae’n rhaid i blant glywed yr iaith os maen nhw’n datblygu sgiliau darllen digon da i ddarllen unrhywbeth o werth fel oedolyn yn y Gymraeg. Felly, yr APP mwya gwerthfawr yw’r un sy’n darparu llais i ddarlenn e-lyfr i ddysgwyr ac i blant mewn ardaloedd Seisnig.

    • Robin Williams 9:33 PM ar 29 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Yn syml 1pad2 ! Dyma ddewis cyntaf unrhyw ddisgybl ysgol.
      Mae Apple newydd gyhoeddi i tunes U ar gyfer Addysg.
      Mae’r gwerthiant wedi bod yn syfrdanol dros y misoedd diwethaf !

      ibooks author fydd y ffordd ymlaen i ddisgyblion ysgol App gwych steil !

    • Iestyn 12:06 AM ar 30 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      O ran fyng ngwaith mi fydd rhaid i mi brynu Kindle, Sony, Kobo ayb ar ran trio’r llyfrau arnynt. O safbwynt creu eLyfrau does dim gwell na iBooks ar yr iPad ar iPhone, fedrai’m disgwyl tan fydd dyfeisiadau eraill yn dechrau cefnogi ePub 3.

    • Gwion23 12:58 AM ar 30 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Ond beth am yr anghenion addysg sy’n cael eu codi gan Stephen?

      Pa mor rhwydd yw cyfuno eLyfr a ‘chlywlyfr’, fel bod modd clywed llais, a darllen y text yr un pryd falle?

    • Gareth Jones 7:35 PM ar 31 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Fel mae Robin yn ddweud, iPad ydi’r dewis gan ddisgyblion, ac mae iBooks Author yn ei gwneud hi’n rhwydd iawn i greu eLyfrau ar ei gyfer.

      Doeddwn i ddim yn gwybod ei fod yn bosib creu eLyfrau drwy iBooks ar yr iPad ac iPhone.

      Mae modd creu eLyfr sy’n darllen yn weddol rhwydd. Engraifft dda yw’r llyfr Yellow Submarine sydd ar gael am ddim drwy’r iBookstore.

    • iestyn 1:32 AM ar 1 Chwefror 2012 Dolen Barhaol

      “O safbwynt creu eLyfrau does dim gwell na iBooks ar yr iPad ar iPhone”
      Sori Gareth, dyliwn i di bod yn gliriach ac esbonio fod ddim gwell darllenydd na iBooks o ran cefnogaeth ePub 3, sydd yn fy ngalluogi fel crewr eLyfrau i greu rhywbeth fwy unigryw.

    • Iestyn Lloyd 9:40 AM ar 5 Chwefror 2012 Dolen Barhaol

      @stephen @gwion
      Mater o ddefnyddio ‘media overlays’ yn yr eLyfr ydio

  • Rhodri ap Dyfrig 1:32 PM ar 5 January 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , llyfrau,   

    Pwy fu farw ym 1941? Gwaith creadigol Cymraeg yn y parth cyhoeddus 

    Sgwennodd Carl gofnod llynedd oedd yn meddwl am ba waith Cymraeg oedd wedi dod i’r parth cyhoeddus. Yn y Saesneg eleni mae Virginia Woolf a James Joyce.

    Yn ôl y Bywgraffiadur Ar-lein mae gwaith y personau Cymreig canlynol nawr yn rhydd o hawlfraint:

    Mae Wicipedia hefyd yn cyfeirio at ambell un o’r rhain.
    Dwi heb fod trwy’r bywgraffiadau eto i weld a oes unrhywbeth diddorol, ond dwi’n siwr bod ambell beth yno fyddai o werth ar gyfer ei ail-ddefnyddio / ail-gymysgu.
    Sgwn i pa gynhyrchwyr ffilmiau fu farw ym 1941?
     
    • Rhys 2:32 PM ar 5 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Siawns bod rhywbeth o ddefnydd yna.

      Mae Wicipedia hefyd yn cyfeirio at ambell un o’r rhain.
      Drwg y Wicipedia, yn enwedig yr un Cymraeg, ydy chi’n dibynnu ar pobl yn categorieddio’n gywir/cyflawn. Fel mae’n digwydd mae Categori:Marwolaethau 1941 yn fwy cynhwysfawr na’r adran marwolaethau ar erthygl 1941. Fel arall mae hi yn 1942. Mae’n werth edrych ar y Wikipedia Saesneg hefyd, mae ganddynt dudalennau/erthyglau bob yn flwyddyn am Gymru’n unig. Gweler erthygl 1941 in Wales.

      Mae Alwyn ap Huw (Hen Rech Flin) newydd flogio am ddigideiddio ei hen lyfrau hefyd. Prosiect ar y cyd falle gyda rhywrai yma?

    • Carl Morris 10:45 PM ar 5 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Awduron marw: un o’r buddsoddiadau mwyaf yn yr iaith Gymraeg.

    • Rhys Llwyd 10:58 PM ar 5 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Mae chync eitha mawr o ail bennod fy PhD (sydd ar gael dan CC) yn trafod syniadaeth D. Miall Edwards. Mae ei lyfr Iaith a Diwylliant yn ddiddorol (er nad ydw i’n cytuno a fe) byddai cael hwnna yn y parth cyhoeddus yn dda. Does gen i ddim copi personol i gynnig sganio yn anffodus – copi llyfrgell o ni’n defnyddio pan yn gwneud yr ymchwil. Mae’n lyfr gweddol brin dwi’n meddwl.

    • Rhodri ap Dyfrig 11:10 PM ar 5 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Sdwff Edmund Jones yn swnio’n ddiddorol, beirniadaeth gelfyddydol a deunydd ar gyfer plant. Thomas Owen Jones hefyd.

    • Rhodri ap Dyfrig 11:23 PM ar 5 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      [Gyda llaw, ma na lwythi o ffilmiau Parth cyhoeddus / creative commons ar Archive.org gan gynnwys Horror Express, gyda Peter Cushing, Christohper Lee a Telly Savalas! Digon i gadw ailgymysgwr yn hapus am flynyddoedd]

    • Alwyn ap Huw 4:36 PM ar 6 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Mae The Welsh Vocabulary of the Bangor District gan Fynes Clinton yn glasur o lyfr am dafodiaeth a datblygiad iaith

    • Carl Morris 1:39 PM ar 9 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Alwyn, dw i wedi ffeindio’r llyfr mewn sawl fformat yma:

      The Welsh Vocabulary of the Bangor District gan Fynes Clinton

      gan gynnwys PDF 46Mb (cymryd tipyn o amser i lwytho felly cadw ffeil yn well)

  • Carl Morris 6:41 PM ar 12 November 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , , llyfrau   

    Amazon yn gwrthod cyhoeddi llyfrau Malteg. Amser boicot byd-eang? 

    Amazon, Kindle a’i fformat caeëdig KDP yn gwrthod derbyn iaith arall:

    […] Chris Gruppetta, director of publishing at Merlin Publishers, said he approached amazon.com in July, expressing his interest and querying whether it was possible to publish Kindle e-books in Maltese. Mr Gruppetta was aware that till then they only published in six main languages: Spanish, French, German, Italian, Portuguese and English.

    A representative of amazon.com wrote back saying if the Maltese language consisted only of Latin alphabet and unicode – which it does – “you can certainly publish it through KDP”.

    On hearing this, Merlin publishers immediately started working with an IT company to convert three of their top-selling titles – Trevor Zahra’s Penumbra and Nanna Genoveffa and Pierre Mejlaq’s Lejl – into professional Kindle e-books.

    “For the first time ever, Maltese readers anywhere in the world would have been able to read great fiction in Maltese just by clicking on amazon.com,” said Mr Gruppetta.

    Amazon.com would have kept 65 per cent of the income generated through sales of the e-books. The publishers would have pocketed less than 35 per cent as they would have had to deduct the EU VAT rate as well as the US income tax, since amazon.com sales are generated in the US.

    “Admittedly production costs of e-books are lower because you’re doing away with printing, however, there are other costs, such as programming, marketing and so on,” said Mr Gruppetta.

    Within a few weeks, all the technology was in place and the trial runs worked smoothly. However, a few days away from the official launch, Mr Gruppetta was contacted by a representative of amazon.com and was told he had been given “incorrect information”.

    “We will not be publishing your book. Please be sure to check back in the coming months as we’re working to support titles in more languages,” the representatives said.

    […]

    Mr Gruppetta said representatives of amazon.com told him at the Frankfurt Book Fair that unless someone within amazon.com company spoke the language they would not publish books in that language. “Apparently, this is to ensure there’s no pornographic or otherwise objectionable content,” said Mr Gruppetta. […]

    http://www.timesofmalta.com/articles/view/20111110/local/No-Maltese-thank-you-Amazon-tells-publisher.393051 (trwy @iestynx)

    Dyma beth sy’n digwydd gyda waliau a pham dw i’n meddwl bod systemau agored yn well. Tasai Kindle yn agored basai’n bosib defnyddio llyfrau yn unrhyw iaith arno fe ac yn werthu llyfrau ar gyfer Kindle yn uniongyrchol (ac yn gadw mwy o’r elwau) neu trwy siop annibynnol. Mae’r sefyllfa yma yn cam yn ôl o’r rhyddid ni wedi cael gyda llyfrau print ers 1546 o leiaf, nid gwelliant.

    Yn fy marn personol i, dylen ni boicotio Amazon yn ein llyfrgelloedd, ysgolion a chartrefi ac yn mabwysiadu dyfeisiau sydd yn gallu derbyn Cymraeg fel default, e.e. Sony a Barnes&Noble ac yn brynu’n e-lyfrau a llyfrau printiedig trwy siopau eraill. Dw i’n siwr bydd cefnogaeth i’n boicot ymhlith ieithoedd eraill o gwmpas y byd.

     
    • Carl Morris 11:17 AM ar 15 Tachwedd 2011 Dolen Barhaol

      Un o’r amcanion tu ôl y boicot fydd creu gofod i siopau eraill yn meddyliau pobol. Dw i wir yn meddwl bydd rhyddid mynegiant nawr ac yn y dyfodol yn dibynnu ar amrywiaeth yn y farchnad e-lyfrau.

    • Rhodri ap Dyfrig 1:08 PM ar 15 Tachwedd 2011 Dolen Barhaol

      Rydych chi’n rhydd; i ddarllen beth rydyn ni’n dweud wrthych chi am ddarllen!

      Nid dim ond Amazon yw y broblem. Mae sawl corfforaeth dechnolegol yn elyniaethus i amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol gan gynnwys y BBC. Eraill fel Google, yn agnostig, gan arwain at yr un canlyniad gwael i’r defnyddiwr (dwi wedi gorfod newid gosodiad Google nôl i’r Saesneg am fod y gwasanaeth Cymraeg mor israddol). Eraill fel Microsoft, yn gwneud gwaith clodwiw, ond eto angen rhagor o waith.

      Oes angen ymgyrch ehangach na dim ond Amazon yma? O’n i’n pendroni a ydi hyn yn ffitio dan briff yr Open Rights Group neu Gymdeithas yr Iaith Gymraeg?

      Ydi hawliau ieithyddol arlein yn gydnaws ag agenda ‘agored’ ORG a’r Internet Society? Ydi pethau fel ymyrraeth farchnad gan lywodraeth i roi cymorth i hyrwyddo cynnwys a defnydd o’r Gymraeg arlein yn tynnu’n groes i ysbryd ‘rhyddid arlein rhyngwladol’ (h.y. free market libertarianism technolegol). Os ddim ai Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw’r man ar gyfer ymgyrch o’r fath? Oes angen mudiad ymgyrchu Cymraeg newydd sydd yn lobio dros, tynnu sylw at a hyrwyddo defnydd da o’r we a meddalwedd yn Gymraeg?

      Dwi wedi holi os yw Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau (mae rhifyn diwethaf eu cylchgrawn yn digwydd bod ar lenyddiaeth Malta) yn gallu edrych ymhellach ar y sefyllfa Malteg/Cymraeg/eraill, ond llenyddol yn unig yw eu ffocws. Bosib bod rôl trawsffiniol i sefydliadau fel Mercator / CIEMEN yn hyn o beth? Beth am ein Comisiynydd Iaith newydd? Ai Meri Hughes ddylai fod yn erlid y corfforaethau Americanaidd?

      Yr unig beth sydd yn sicr ydi nad yw Llywdoraeth Cymru, na Phrydain, yn meddwl bod unrhywbeth fel hyn yn bwysig. Yr ail beth sy’n sicr hefyd yw bod lleoliad y corfforaethau hyn y tu allan i’r DU a hyd yn oed yr UE yn ei gwneud yn annodd eu lobio a’n sicr yn annod i’w cael i symud mlaen.

    • iestyn 4:01 PM ar 16 Tachwedd 2011 Dolen Barhaol

      Ebost gafodd y Lolfa ychydig diwrnodau yn ôl gan Amazon:

      I am sorry but I do not have a resolution available just yet. I have been doing a lot of work with the US to see if we can find a way to support this that is going to be able to be made available to all publishers of Welsh content rather than putting in any more workarounds that go outside of all of our systems. One big concern is that if we start pulling in one or two titles manually we really need to make available for all and to make sure our systems are fully able to support this and ensure that this is a great customer experience. The US team have agreed to do a full review with regard to a number of languages including Welsh but this will not be completed for a while yet. I assure you that I am doing my best to get this new functionality available so please bear with me.

    • Rhodri 3:18 PM ar 18 Tachwedd 2011 Dolen Barhaol

      Cwpwl o ddolenni perthnasol:

      “The e-book market in Europe”
      http://www.infotoday.eu/Articles/ReadArticle.aspx?ArticleID=78268

      Arolwg gan O’Reilly o’r farchnad ryngwladol ar gyfer e-lyfrau:
      http://radar.oreilly.com/2011/10/survey-global-ebook-market.html

  • Carl Morris 2:05 PM ar 5 September 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , , , llyfrau,   

    Academydd o Gaerdydd yn rhyddhau llyfr dan Creative Commons 

    Mae Martin Weller, academydd sydd yn byw yng Nghaerdydd, newydd rhyddhau ei llyfr The Digital Scholar dan Creative Commons (NC, anfasnachol) gyda’r cwmni Bloomsbury Academic (braich o’r un cwmni cyhoeddi sydd yn rhyddhau llyfrau JK Rowling).
    http://nogoodreason.typepad.co.uk/no_good_reason/2011/09/would-you-buy-a-book-from-this-man.html

    Weller yw’r athro Technoleg Addysgol yn y Brifysgol Agored. Mae’r llyfr yn trafod sut mae teclynnau digidol ac arferion agored yn creu cyfleoedd i ymchwil ac addysg. Mae fersiynau papur a digidol ar gael.

    Blog Martin Weller

    MWY: cyfweliad (2008) gyda Frances Pinter o Bloomsbury Academic

     
  • Carl Morris 1:14 PM ar 26 August 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , , llyfrau,   

    Problemau @ylolfa gydag Amazon Kindle 

    Cael trafferth perswadio Amazon i werthu llyfrau Cymraeg ar y Kindle. Y llyfr yma wedi llithro drwy’r rhwyd. http://t.co/kxJIu2m

    @YLolfa

    Y Lolfa

    @ “this book is in an unrecognised language” yw’r ateb ni’n cael wrth drio llwytho llyfrau ar y kindle.

    @YLolfa

    Y Lolfa

    @ Ddim yn hawdd delio gydag Amazon. Mae angen pestro’r diawled. Falle bydde Prys yn gallu ein helpu i gael y maen i’r wal.

    @YLolfa

    Y Lolfa

    Gawn ni mwy o wybodaeth plîs? Ydy Amazon yn gwrthod gwerthu elyfrau Cymraeg yn gyffredinol?

    Roedd stori amdano fe ar Radio Cymru ond dw i’n methu ei ffeindio ar hyn o bryd (bore yma?).

    Beth ydy’r sefyllfa gyda chwmniau eraill fel Sony a Barnes & Noble?

     
    • Dafydd Tomos 7:10 PM ar 26 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Mae’n siwr fod ti wedi gweld y stori ar lein nawr.

      Dwi ddim yn credu allwn ni wir alw llyfrau electronig yn gam ymlaen nes fod y systemau cyhoeddi yr un mor ‘rhydd’ a’r rhai ar gyfer llyfrau papur lle gall unrhyw gyhoeddwr gyhoeddi unrhyw lyfr ar unrhyw ddyfais heb fynd drwy borth canolog, caeëdig yn cael ei rhedeg gan gwmniau cyfalafol.

    • Carl Morris 2:37 AM ar 27 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Yn union, mae diffyg rhyddid.

      Mae Amazon yn chwarae’r tric un fath â Apple iTunes – annog cyhoeddwyr (labeli) i fabwysiadu DRM a phlatfform monolithig (cloi-mewn, diffyg rhyddid i ffans) er mwyn adeiladu monopoli.

      Dylai BBC a Golwg ac ati ymchwilio mwy na chwmnïau enwog; pa dewis fydd yn rhoi rhyddid i ni – yn gynnwys rhyddid ieithyddol.

    • Rhys Wynne 4:39 PM ar 14 Medi 2011 Dolen Barhaol

      Dw i wedi synnu mai mond heddiw y daeth Amazon.es (fesrwin Sbaenaidd/Sbaeneg) i fodolaeth. Mae 18,000 o lyfrau yn yr iaith Fasgeg ar werth arno.

      Yn wahanol i Amazon.co.uk, mae Amazon.es yn galluogi chi i chwilio yn ol iaith. Dyma sydd gan y wefan .co.uk i’w ddweud:

      Searches for Books in Languages Other Than English

      Our catalogue lists books in languages other than English, and although a large proportion of these are in French or Spanish, a number of other languages are represented.

      Unfortunately, it’s not possible to search by language, but you can search for specific books in the same way as you would search for any English language book using an Author or Title search.

      Ond ar Amazon.es, mae modd chwilio yn ol iaith, ac mae yna hefyd ddewislen arbennig:

      Libros: otros idiomas que te pueden interesar
      Castellano
      Catalán
      Gallego
      Euskera

      sef….

      Llyfrau: Ieithoedd eraill a all fod o ddiddordeb i chi

      Castilieg
      Catalaneg
      Galisieg
      Basegeg

      Pam y gwahanaiethu yma rhwng darllenwyr y DG? Llai o lyfrau mewn ieithoedd eraill yn cael eu prynnu?

      Pam trin ieithoedd lleafrifol o fewn gwladwriaeth Sbaen yn wahanol i’r Gymraeg? Mwy o ddylanwad gan eu llywodaraethau datganoledig?

      Parthed Kindle, yn ol yr erthygl ar eitb.com;

      For the time being, clients making purchases via Amazon.es will not have access to the Kindle application, which is available via the company’s main US site.

      Bydd yn ddidorol gweld os caiff cyhoeddwyr Gwlad y Basg yr un draffion ag y mae Y Lofa yn eu hywnebu.

c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel