BuddyPress – unrhyw wedi gwneud cyfieithiad Cymraeg?

Ydy unrhyw wedi gwneud cyfieithiad o BuddyPress (yr ategyn WordPress) i’r Gymraeg? Rhannwch y ffeil .po os oes fersiwn os gwelwch yn dda, hyd yn oed rhywbeth anghyflawn! O’n i eisiau gofyn cyn bwrw ymlaen gyda fe. Annhebyg bydd gyda fi amser/egni/termau i wneud y cwbl lot ond dw i’n bwriadu cyfieithu’r pethau ar y… Parhau i ddarllen BuddyPress – unrhyw wedi gwneud cyfieithiad Cymraeg?

Prosiect rhyngwyneb Reddit Cymraeg

Mae’r platfform sgwrs/rhannu dolenni Reddit newydd lansio prosiect cyfieithu’r rhyngwyneb i sawl iaith gwahanol gan gynnwys Cymraeg. Os wyt ti’n chwilfrydig am Reddit ac eisiau cael profiad cyntaf mae is-reddit o’r enw Cymru.

Sut i ychwanegu geiriaduron ieithoedd eraill i InDesign CS5.5

Neges a chwestiwn gan Huw “Prestatyn” Jones o neges ebost (gyda’i chaniatâd): Newydd weld hwn ar wefan Adobe – sut i ychwanegu geiriaduron ieithoedd eraill i InDesign CS5.5 http://blogs.adobe.com/typblography/2011/11/how-to-enable-more-languages-in-indesign-cs5-5.html#comment-2127 Yn anffodus dim ond CS4 sydd gan cwmni ni – sy’n bechod ofnadwy – tasa help enfawr cael sbel-cheicio Cymraeg yn inDesign. Os mae unrhywun arall… Parhau i ddarllen Sut i ychwanegu geiriaduron ieithoedd eraill i InDesign CS5.5

Help! Cyfieithu doodle.com

Beth yw Doodle? Mae trefnu cyfarfodydd gallu bod yn her weithiau. Os wyt ti’n trefnu cyfarfod gydag un person mae’n hawdd – ffonio a threfnu dyddiad. Ond bob tro rwyt ti’n ychwanegu person arall ac yn trio trefnu trwy ebost mae’n lletchwith. Dyma pryd mae Doodle.com yn defnyddiol iawn – mae un person yn gosod yr… Parhau i ddarllen Help! Cyfieithu doodle.com