Tagiwyd fel: haciaith2017 Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Sioned Mills 12:03 PM ar 2 February 2017 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau: , haciaith2017, , ,   

    55: Nerdageddon yn Hacio’r Iaith 2017 

    Unwaith y flwyddyn mae nerds tech-ieithyddol Cymru yn cwrdd fyny mewn digwyddiad brawychus fel the Purge… Ond yn lwcus iawn nid dyna oedd Hacio’r Iaith 2017, mae’r purge wythnos nesa. Ymunwch â Sions, Bryn a Iestyn yn fyw ar leoliad o riviera trofannol Bangor!

    Ffansi gadael i ni wybod os chi’n joio? Gadewch review i ni yn iTunes, ffankiw!

     
    • Carl Morris 4:36 PM ar 2 Chwefror 2017 Dolen Barhaol

      Dw i’n mwynhau’n fawr hyd yn hyn. Mae’r rhifyn yn bwysicach ac yn lot mwy perthnasol i bawb nag y mae’r disgrifiad ‘nerdaidd’ yn awgrymu – yn fy marn i! Gwaith da iawn bobl.

  • Carl Morris 6:13 PM ar 23 January 2017 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau: haciaith2017,   

    Llywodraeth, digidol ac arloesedd – fideo o gyflwyniad gan Leighton Andrews 

    Diolch i bawb am gymryd rhan yn Hacio’r Iaith 2017 ac i Ganolfan Bedwyr a chanolfan Pontio am ein croesawu!

    Dyma i chi fideo o gyflwyniad agoriadol Leighton Andrews yn Hacio’r Iaith 2017.

    Mae rhestr o fideos eraill o’r Cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg ddydd Gwener hefyd (diolch Stefano).

    Mae croeso i unrhyw gyfranog[wraig|wr] bostio meddyliau a nodiadau ar flog Hacio’r Iaith yma. Byddai hi’n braf cael gweld unrhyw ddeunydd sy’n deillio o’r sesiynau. Gad i mi wybod os ydych chi eisiau cyfrif.

    Dw i’n edrych ymlaen yn arw at glywed yr Haclediad nesaf sy’n cynnwys darnau sain o’n hanghynhadledd.

     
  • Carl Morris 2:30 PM ar 16 January 2017 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau: haciaith2017   

    Hacio’r Iaith 2017 ym Mangor: cipolwg ar sesiynau 

    Mae Hacio’r Iaith 2017 yn agosáu!

    Bydd croeso cynnes i bawb a mynediad am ddim (nid y band) ddydd Sadwrn yma. Ond mae angen cofrestru nawr…

    Cofrestru

    Mae angen cofrestru os ydych chi am fynychu a chymryd rhan (yn Adeilad Pontio, Bangor, ar Sadwrn, 21 Ionawr 2017).

    Mae llawer o lefydd wedi mynd eisoes ac mae rhai ar ôl.

    Sesiynau

    Dyma rai o’r sesiynau sydd ar yr amserlen eisoes:

    • Newyddiaduraeth Ddigidol yn Gymraeg (gydag Ifan Morgan Jones)
    • Tech S4C – tech gwahanol mae S4C wedi eu gwneud; pethau plant, pethau eraill.
    • Cyflwyniad am waith y Llyfrgell Genedlaethol efo Wikidata
    • Gweithdy ymarferol ar sut i greu bot Cymraeg awtomatig ar Twitter
    • Diogelwch ar y We – pa rhaglenni i’w defnyddio
    • Prentisiaeth TGCh (technoleg gwybodaeth a chyfathrebu) Dwyieithog – camau cyntaf a heriau
    • Y Bywiadur – cip ar 8000 o luniau ar Eiriadur Rhywogaethau Cymdeithas Edward Llwyd
    • Araith Leighton Andrews am ‘Llywodraeth, digidol ac arloesi’
    • Lansiad papur trafod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am ddatganoli darlledu

    Hefyd…

    • UNRHYW BETH am y cyfryngau digidol a’r Gymraeg sydd o ddiddordeb i chi. Bydd slotiau gwag ar yr amserlen.

    Amserlen

    Rydym hefyd yn bwriadu llenwi amserlen y bore gyda sesiynau cyn y gynhadledd gan adael y prynhawn yn rhydd ar gyfer unrhyw sesiynau sydd heb eu trefnu o flaen llaw.

    Felly os ydych chi eisiau cynnal sgwrs, cyflwyniad, dangos eich gwaith, neu weithdy ymarferol cysylltwch â Carl neu Rhodri trwy’r cyfryngau cymdeithasol arferol neu rhowch wybodaeth mewn ar y Google Doc yma.

    Gwnewch bethau’n haws drwy rannu’ch syniad o flaen llaw – os yn bosib!

    Bydd tri ardal yn Pontio gyda thri math gwahanol o sesiwn:

    • Y Bocs Sebon – gofod cyflwyno, sdeil-theatr
    • Y Gweithdy – ardal ar gyfer sesiynau mwy ‘hands-on’
    • O Gylch y Tân – cylch ar gyfer cynnal trafodaeth a sgwrs

    Cynhadledd dydd Gwener

    Cofiwch fod yna Gynhadledd Technoleg a’r Gymraeg hefyd ym Mangor ar ddydd Gwener 20 Ionawr 2017 (y diwrnod cyn Hacio’r Iaith). Bydd rhai ohonom ni yn mynychu’r gynhadledd yn ogystal â Hacio’r Iaith. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar eu gwefan.

    Llety

    Rydyn ni wedi cael disgownt o rhyw 10% gan y Ganolfan Rheolaeth i bobl sy’n dyfynnu #techiaith wrth fwcio (yr un peth ag ar gyfer cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg).

    Ewch yma am fanylion archebu llety.


    Diolch o galon i’r Ganolfan Technoleg Iaith a Chanolfan Bedwyr am gyd-drefnu a noddi’r bwyd ar gyfer Hacio’r Iaith.

     
  • Rhodri ap Dyfrig 8:00 AM ar 2 December 2016 Dolen Barhaol
    Tagiau: haciaith2017   

    Leighton Andrews i annerch Hacio’r Iaith 2017 

    Am y tro cyntaf a 7fed mlwyddyn Hacio’r Iaith bydd gennym ni siaradwr gwadd i ddechrau’r diwrnod , a rydym yn falch iawn i gyhoeddi y bydd Leighton Andrews, cyn Weinidog Llywodraeth gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg a thechnoleg Cymraeg yn rhoi ei farn ar y pwnc ‘Llywodraeth, digidol ac arloesi’.

    Byddwch yn barod am gyflwyniad difyr a phryfoclyd gyda’r cyfle i ofyn cwestiynau.

    leighton_andrews-1

    Cofrestru

    Peidiwch ag anghofio cofrestru am Hacio’r Iaith 2017, fydd yn digwydd yn Adeilad Pontio, ar Sadwrn, 21 Ionawr 2017.

    Bydd mynediad am ddim i bob cyfranogwraig/cyfranogwr ac mae croeso cynnes i bawb (gan gynnwys plant – ac mae rhagor i ddilyn am sesiynau penodol i blant a phobl ifanc).

    Sesiynau eraill

    Rydym hefyd yn bwriadu llenwi amserlen y bore gyda sesiynau cyn y gynhadledd gan adael y prynhawn yn rhydd ar gyfer unrhyw sesiynau sydd heb eu trefnu o flaen llaw.

    Felly os ydych chi eisiau cynnal sgwrs, cyflwyniad, dangos eich gwaith, neu weithdy ymarferol (da ni’n hoffi pethau ymarferol!) cysylltwch â Carl neu Rhodri trwy’r cyfryngau cymdeithasol arferol neu rowch yr wybodaeth mewn ar y Google Doc yma.

    Bydd tri ardal yn Pontio gyda thri math gwahanol o sesiwn:

    • Y Bocs Sebon – gofod cyflwyno, sdeil-theatr
    • Y Gweithdy – ardal ar gyfer sesiynau mwy ‘hands-on’
    • O Gylch y Tân – cylch ar gyfer cynnal trafodaeth a sgwrs

    Cynhadledd dydd Gwener

    Cofiwch fod yna Gynhadledd Technoleg a’r Gymraeg hefyd ym Mangor ar ddydd Gwener 20 Ionawr 2017 (y diwrnod cyn Hacio’r Iaith). Bydd rhai ohonom ni yn mynychu’r gynhadledd yn ogystal â Hacio’r Iaith. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar eu gwefan.

    Llety

    Rydyn ni wedi cael disgownt o rhyw 10% gan y Ganolfan Rheolaeth i bobl sy’n dyfynnu #techiaith wrth fwcio (yr un peth ag ar gyfer cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg).

    Ewch yma am fanylion archebu llety.


    Diolch yn fawr iawn i’r Ganolfan Technoleg Iaith a Chanolfan Bedwyr am gyd-drefnu a noddi’r bwyd ar gyfer Hacio’r Iaith. “Daw bola’n gefen ar gyfer trafod y rhyngrwyd”, fel dywed y Cardi modern. 🙂

    Mae Carl, Delyth a finnau (a’r criw o ffyddloniaid) yn edrych mlaen yn arw i roi croeso i unrhyw eneidiau newydd sydd eisiau dod am y tro cyntaf. Mae wastad yn lot o sbort.

    Welwn ni chi ym Mangor!

     
  • Carl Morris 5:13 PM ar 13 October 2016 Dolen Barhaol
    Tagiau: , haciaith2017   

    Bydd Hacio Iaith 2017 ar ddydd Sadwrn 21 Ionawr yng Nghanolfan Pontio, Bangor 

    garry

    Dyma neges fach sydyn i ddatgan ein bod ni wedi cadarnhau dyddiad a lleoliad Hacio’r Iaith 2017!

    Bydd croeso cynnes i bawb fynychu a chymryd rhan mewn cyfres o sesiynau, gweithdai, trafodaethau a chyflwyniadau am ddefnydd o’r Gymraeg yn y cyfryngau digidol.

    Bydd rhagor o fanylion gan gynnwys cofrestru cyn hir.

    Yn y cyfamser cadwch y dyddiad isod yn rhydd.


    Hacio’r Iaith 2017
    Dydd Sadwrn 21 Ionawr 2017
    Pontio, Bangor, Cymru, Ewrop

    Mae sôn hefyd gan un o ein ffrindiau am gynhadledd mwy ‘ffurfiol’ er diddorol am stwff digidol ar ddydd Gwener 20 ym Mangor gyda rhagor o fanylion am hyn i’w dilyn hefyd.

     
  • Carl Morris 1:01 PM ar 14 September 2016 Dolen Barhaol
    Tagiau: , haciaith2017   

    Hacio'r Iaith 2017? Angen adborth 

    bangor-ffilter

    Tri chynnig:

    1. Oes gennych chi awydd mynychu a chymryd rhan mewn digwyddiad Hacio’r Iaith yn 2017? Dyma fydd yr wythfed digwyddiad mawr o’r fath – digwyddiad anffurfiol ar Gymraeg a thechnoleg i oddeutu 60 o bobl. Byddai croeso cynnes i bawb.

    2. Rydyn ni’n edrych at Fangor fel lleoliad y tro yma. Rydyn ni wedi derbyn braslun o gynnig eithaf da wrth leoliad yn ninas dysg.

    3. Rydyn ni hefyd yn ystyried dydd Sadwrn 21 Ionawr 2017 fel dyddiad. Nodwch fod y dyddiad mewn pensel, i’w gadarnhau unwaith rydyn ni’n gallu bod yn sicr bod digon o ddiddordeb. (I’r rhai sydd eisiau gwybod dw i ddim yn credu bod ‘na unrhyw gemau mawrion ar y dyddiad hwnnw.)

    Gadewch i mi (a phawb) wybod os ydych chi am gymryd rhan yn y sylwadau.

    Mae popeth uchod i’w gadarnhau ac mae’r cyfan yn dibynnu ar eich cefnogaeth, mewnbwn, a brwdfrydedd.

    x

     
    • Rhodri ap Dyfrig 5:15 PM ar 14 Medi 2016 Dolen Barhaol

      1. Ydw, ydw ydw!
      2. Bangor yn leoliad campus.
      3. Swnio fel dyddiad da i mi. Gorau po gynta ein bod ni’n cadarnhau fel gallwn ni gael siap ar y digwyddiad.

    • Sara Huws 6:37 PM ar 14 Medi 2016 Dolen Barhaol

      Ie plis! Dyddiad a lleoliad yn gret

    • Rhys 9:33 PM ar 14 Medi 2016 Dolen Barhaol

      1. Oes
      2. Wastad yn hoffi dychwelyd i Fangor
      3. Dyddiad yn y dyddiadur – s’byth gemau mawrion adeg yma o’r flwyddyn ta beth, mond gemau rygbi…

    • Robin 12:09 AM ar 15 Medi 2016 Dolen Barhaol

      Ai!
      Ymlaen!

    • Leia 9:55 AM ar 15 Medi 2016 Dolen Barhaol

      Hapus i fynd i Fangor!

    • Gareth Morlais 11:26 AM ar 15 Medi 2016 Dolen Barhaol

      Edrych ymlaen

    • Sioned 5:16 PM ar 15 Medi 2016 Dolen Barhaol

    • Dafydd 7:02 PM ar 15 Medi 2016 Dolen Barhaol

      Swnio’n grêt!

    • Carl Morris 2:40 PM ar 11 Hydref 2016 Dolen Barhaol

      Rydyn ni newydd gadarnhau’r dyddiad uchod ar gyfer Hacio’r Iaith 2017 ym Mangor!

      Bydd rhagor o fanylion cyn hir.

      Yn y cyfamser dylech chi ystyried dechrau meddwl am ba fath o sesiynau/sesiwn rydych chi am weld yn Hacio’r Iaith 2017 – pa bethau sydd o ddiddordeb i chi?

      x

c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel