Haclediad 42 – Minilediad Haciaith 2015

Rhifyn byr a bachog o’r Haclediad sydd i’w gael y mis hwn, wedi i’r ffliw daro Iestyn, bydd Bryn a Sioned yn mentro i gwblhau podlediad mewn amser record Byd! Bydd sôn am Haciaith ’15 ym Mangor a llwyth o fwydro amserol technolegol – mwynhewch!

Ar agor: Cynllun Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg 2015-16

Mae’r Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg 2015-2016 Llywodraeth Cymru  ar agor i geisiadau rhwng nawr a’r 30ain o Ionawr 2015. Mae’r grantiau yn cefnogi amcanion y cynllun gweithredu Technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg. Pwrpas y cynllun gweithredu yw annog gweithgareddau sy’n hybu ac yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg trwy dechnoleg a chyfryngau digidol. Prif… Parhau i ddarllen Ar agor: Cynllun Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg 2015-16

Haclediad #40 — Bywyd yn dechrau yn Ddeugain!

Ydan, ry’n ni wedi cyrraedd 40 rhifyn o’r Haclediad — diolch am sticio efo ni! Yn y bennod hyd-yn-oed-llai-ffurfiol nac arfer bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn dathlu pedair blynedd o’u hoff dechnoleg, DDIM yn trafod ‘bendgate’ yr iPhone 6 a thrio deall os yw Windows wedi anghofio sut i gyfri wrth fynd yn syth… Parhau i ddarllen Haclediad #40 — Bywyd yn dechrau yn Ddeugain!

Haclediad #39 – Cacen Sali Mali, Hack(en) Bryn Salisbury a mwy o Nest Test Iest

Croeso i rifyn 39 (bron y 4-0 fawr) o’r Haclediad – byddwn ni’n trafod syniadau Cymdeithas yr Iaith am ariannu darlledwr amlgyfrwng newydd i Gymru, e-lyfrau plant Cymraeg yn dod i iBooks, Bryn yn hacio weiars a checkio nôl mewn gyda system reoli tŷ Iestyn wrth i’r tywydd oeri. Joiwch, a chofiwch, sdim sôn am… Parhau i ddarllen Haclediad #39 – Cacen Sali Mali, Hack(en) Bryn Salisbury a mwy o Nest Test Iest

Haclediad #36: Yr un hwyrach na Office i’r iPad

Ar rifyn yma’r haclediad bydd y criw yn cadw’u pennau yn y cymylau – wrth rêtio a slêtio systemau gweithio cwmwl rhai o’r cwmnïau mwyaf allan yna. Gyda Microsoft Office yn cyrraedd yr iPad (o’r diwedd), pa ddewisiadau arall sy’na i drefnu’ch taenlenni marwolaethau Game of Thrones? Byddwn yn sbecian ar sefyllfa Facebook yn prynu… Parhau i ddarllen Haclediad #36: Yr un hwyrach na Office i’r iPad

Haclediad #34: Youview, nhw-view a Haciaith 2014

Ar y rhifyn cyn-Haciaith 2014 yma bydd y Iestyn, Bryn a Sioned yn rhoi croeso gwresog i S4C i blatfform Youview; croeso a rhybydd i CEO newydd Microsoft, ac wrth gwrs cyffroi’n wirion cyn digwyddiad byw Hacio’r Iaith 2014 ym Mangor ar Chwefror y 15fed… welwn ni chi yno! Dolenni S4C ar Youview WebOS ar… Parhau i ddarllen Haclediad #34: Youview, nhw-view a Haciaith 2014