Tagiwyd fel: digwyddiadau haciaith cymru Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Rhodri ap Dyfrig 5:54 PM ar 11 October 2017 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau: digwyddiadau haciaith cymru, , haciaith2018   

    NODYN CALENDR: Hacio’r Iaith *27 Ionawr 2018* 

    Dalier sylw! 

    Ar wahoddiad S4C bydd Hacio’r Iaith 2018 yn cael ei gynnal yn Tramshed Tech, Stryd Pendyris, Grangetown, Caerdydd.

    Felly rhowch ddydd Sadwrn y 27 Ionawr yn eich dyddiaduron, bwciwch lety / ffoniwch ffrind sydd efo soffa a dechreuwch feddwl am rywbeth i’w gyflwyno / rhannu / esbonio / rhoi demo ohono ar y dydd!

    Bydd rhagor o fanylion gan gynnwys Google Doc i drafod syniadau a thudalen gofrestru yn cael eu postio yma cyn bo hir, ond os oes na unrhyw syniadau cyn hynny yna plis rhowch nhw yn y sylwadau neu ar #haciaith ar Twitter.

    Edrych mlaen yn barod at drafod popeth sy’n newydd ym myd tech digidol Cymraeg!

     
    • Leia 2:34 PM ar 13 Hydref 2017 Dolen Barhaol

      Whoo! Edrych ymlaen.

    • Huw 12:33 PM ar 18 Hydref 2017 Dolen Barhaol

      Hen bryd i bobl wneud pethe dros eu hunain!

      Felly be am ddysgu sut i gychwyn gyda Python a/neu R (Anaconda a R Studio), i drawsnewid a delweddu data?

  • Carl Morris 4:09 PM ar 23 July 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , , digwyddiadau haciaith cymru, ,   

    Hacio’r Iaith – Eisteddfod Genedlaethol 2010, Glyn Ebwy 

    Hacio’r Iaith – Eisteddfod Genedlaethol 2010, Glyn Ebwy

    Nos Fawrth 3 Awst 2010
    5:00PM – 8:00PM
    The Picture House
    Market Street, Glyn Ebwy, NP23 6HP
    Di-wifr ar gael

    Dewch i siarad gyda ni am:
    blogio / technoleg / y we / Cymraeg / fideo / cyfryngau newydd / pynciau amrywiol

    #haciaith
    haciaith.com

    Mynediad am ddim. Croeso i bawb!

    Wedyn… dyn ni’n gallu mynd i’r noson comedi yng Nghlwb Rygbi Glyn Ebwy.
    (Mawrth 3 Awst, “Y Babell Wên”: £4
    Noson Stand-yp dan ofal Elidir Jones
    Noel James / Gez Couch
    Iestyn Jones / DJ Hefin Jones
    a gwesteion arbennig o’r byd llenyddol
    ar y cyd â Tu Chwith)

    Digwyddiadau Hacio’r Iaith eraill
    http://hedyn.net/digwyddiadau

    Gyda llaw mae pobol yn cwrdd yng Nghwyl Arall, 24ain mis Gorffenaf 2010 hefyd

     
    • Carl Morris 4:44 PM ar 23 Gorffennaf 2010 Dolen Barhaol

      Dw i’n hapus i wneud gweithdy WordPress os mae bobol eisiau dysgu cam-wrth-gam.

      “FyWordPressCyntaf.com – does dim angen profiad o flaen llaw”

    • Rhys 1:05 PM ar 29 Gorffennaf 2010 Dolen Barhaol

      Dw i am ddod, ond bydd hi wedi 6:00 arna i’n cyrraedd. bydda i’n gwerthfgawrogi unrhyw genhadwri ar greu blog ar WordPress – dw i eisoes wedi sortio hy hosting ayyb.

    • Gethin 3:53 PM ar 24 Medi 2010 Dolen Barhaol

      Os wyt ti eisiau hacio’r iaith, beth am sillafu Glynebwy yn gywir Carl yn lle’r cyfieithiad slafaidd o’r Saesneg.

    • Carl Morris 4:24 PM ar 24 Medi 2010 Dolen Barhaol

      Peidiwch â gwastraffu ynni gyfaill

c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel