Hacio'r Iaith yn cyflwyno: Hacio Bach, gyda'r Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor

Yn amlwg does dim digwyddiadau Hacio’r Iaith yn y cnawd ar hyn o bryd, felly diolch i Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor am gynnig darparu hanner diwrnod o sgwrsio, dysgu, a chwarae ar-lein. Bydd croeso cynnes i bawb. Rydyn ni’n mynd i gynnal digwyddiad bach ar-lein – rhyw fath o Hacio Bach – ar y… Parhau i ddarllen Hacio'r Iaith yn cyflwyno: Hacio Bach, gyda'r Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor

Dewch i’r Hacathon Hanes, 11 Chwefror 2020, Aberystwyth

Es i i’r Hacathon Hanes diwethaf ac roedd hi’n diwrnod ardderchog ac ysbrydoledig – o ddatblygwyr, pobl data, haneswyr, ymchwilwyr, pobl chwilfrydig, ac eraill yn dod at ei gilydd i geisio canfod dulliau o ddarganfod a chyfleu hanes mewn ffyrdd newydd. Mae trefnwyr yr Hacathon Hanes wrthi eto, yn Aberyswyth y tro hwn, ac wedi… Parhau i ddarllen Dewch i’r Hacathon Hanes, 11 Chwefror 2020, Aberystwyth

Common Voice, adnabod lleferydd, cyfieithu a mwy… Gweithdy ar y Porth Technolegau Iaith

Bydd rhai eisoes wedi gwylio’r rhaglen ddifyr ar S4C DRYCH: Achub Llais John am un o brosiectau’r Uned Technolegau Iaith ym Mangor. Gwyliwch y rhaglen os nad ydych chi wedi cael siawns eto. Dyma ddigwyddiad difyr yn Aberystwyth mae’r uned yn trefnu ym mis Mehefin – at sylw unrhyw un sydd eisiau cael profiad o… Parhau i ddarllen Common Voice, adnabod lleferydd, cyfieithu a mwy… Gweithdy ar y Porth Technolegau Iaith

Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Hacio’r Iaith yn cynnal Hacathon Hanes yng Nghaerdydd.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gweithio, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, ar brosiect sy’n ceisio mesur effaith rhannu data agored gydag Wikimedia. Bydd prosiect Wicipobl yn canolbwyntio ar ddarparu amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys rhannu delweddau digidol ar drwydded agored, gweithio gydag ysgolion ar ddigwyddiadau estyn allan, creu erthyglau  Wicipedia Cymraeg newydd, rhannu metadata’r Llyfrgell… Parhau i ddarllen Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Hacio’r Iaith yn cynnal Hacathon Hanes yng Nghaerdydd.

Diwrnod Ada Lovelace 2018 ar ddydd Mawrth 9fed Hydref #ALD18

Dydd Mawrth 9fed Hydref eleni fydd Diwrnod Ada Lovelace 2018, diwrnod o flogio a thrydar er mwyn tynnu sylw at lwyddiannau menywod mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Am ba fenyw ydych chi am flogio neu drydar? Chwiliwch am ‘Diwrnod Ada Lovelace’ ar y we neu ar Twitter i weld hen eitemau er mwyn cael bach o… Parhau i ddarllen Diwrnod Ada Lovelace 2018 ar ddydd Mawrth 9fed Hydref #ALD18

Hacio’r Iaith 2019: Canolfan Yr Egin, Caerfyrddin, 9fed Chwefror

Mae hi’n bleser gen i ddweud ein bod ni wedi cadarnhau dyddiad a lleoliad Hacio’r Iaith 2019! Fe fydd croeso cynnes i bawb fynychu a chymryd rhan mewn cyfres o sesiynau, gweithdai, trafodaethau a chyflwyniadau am ddefnydd o’r Gymraeg yn y cyfryngau digidol. Fe fydd rhagor o fanylion gan gynnwys cofrestru cyn hir (achos mae… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2019: Canolfan Yr Egin, Caerfyrddin, 9fed Chwefror

Y Gymraeg mewn technoleg – ble nesaf? (Dydd Gwener 10 mis Awst 2018)

Dewch am weithdy ymarferol lle byddwn yn trin a thrafod y cwestiynau isod: Sut mae mynd i’r afael a’r llu o heriau i’r Gymraeg ar-lein ac mewn meddalwedd? Beth sydd angen yn y maes technoleg Cymraeg? Beth ydyn ni am weld yn ystod y flwyddyn nesaf? Beth am y degawd nesaf? Ym mha achosion ydyn… Parhau i ddarllen Y Gymraeg mewn technoleg – ble nesaf? (Dydd Gwener 10 mis Awst 2018)

Ail sesiwn Anturiaethau Mewn Cod 19/4/2018

Anturiaethau Mewn Cod yn dychwelyd i’ch dangosydd Dw i’n falch iawn o ddweud bod ein hail sesiwn am raglennu wedi ei chadarnhau: Anturiaethau Mewn Cod dros Telegram ar nos Iau 19 Ebrill 2018 rhwng 7yh a 9yh Croeso cynnes i BAWB Mae angen gosod client Telegram ar eich peiriant (neu ganfod ffordd arall o fynd… Parhau i ddarllen Ail sesiwn Anturiaethau Mewn Cod 19/4/2018

Anturiaethau Mewn Cod: sesiwn arbrofol ar-lein i drin a thrafod rhaglennu 29/3/2018

Helo bobl Pwy sydd awydd cynnal sesiwn ymarferol o: raglennu datblygu hacio dangos apiau a sgriptiau cyfnewid dolenni i brosiectau? Rydyn ni am gael sesiwn o Anturiaethau Mewn Cod dros blatfform sgwrsio Telegram. Fe fydd croeso cynnes iawn i bawb. Sesiwn gyntaf Fe fydd y sesiwn gyntaf ar: nos Iau 29 Mawrth 2018 7yh tan… Parhau i ddarllen Anturiaethau Mewn Cod: sesiwn arbrofol ar-lein i drin a thrafod rhaglennu 29/3/2018