Lle i fynd i lawrlwytho rhai o’r adnoddau seilwaith technoleg iaith diweddara’ ar gyfer Hacio Bach

Gyda Hacio’r Iaith yn cyflwyno: Hacio Bach, dan ofal Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor ar 14 Tachwedd 2020, dyma restr o rai o’r adnoddau seilwaith technoleg iaith all helpu i roi syniadau ichi o haciau Cymraeg gallwch chi ddatblygu. Mae prifysgolion yng Nghymru wedi bod yn flaengar wrth ddatblygu adnoddau technoleg iaith a seilwaith ieithyddol… Parhau i ddarllen Lle i fynd i lawrlwytho rhai o’r adnoddau seilwaith technoleg iaith diweddara’ ar gyfer Hacio Bach

Gweithdy Codio Eisteddfod 2013

Cafwyd pnawn difyr yn edrych ar greu app mapio syml. Roedden ni’n edrych ar elfenau codio gyda’r iaith Javascript. Gan ddefnyddio HTML, CSS a ychydig o god agored a rhad ac am ddim, roedden gennym ni app syml a edrychon ni ar sut i’w ymestyn i greu rhywbeth mwy estynedig. Yn ysbryd rhannu a meddalwedd… Parhau i ddarllen Gweithdy Codio Eisteddfod 2013

Dr Jeremy Evas – Y Gymraeg mewn oes ddigidol (Recordiad)

Y mis diwethaf es i i weld cyflwyniad gan Dr Jeremy Evas o’r enw Y Gymraeg mewn oes ddigidol. Mae Jeremy wedi rhannu’r cyflwyniad, yr awdio a’r ddogfen sydd yn mynd gyda phopeth. Diolch Jeremy. Dyma’r awdio ar Soundcloud. Dyma’r ddogfen gyda gwybodaeth cefnogol ar Scribd: Y Gymraeg mewn oes ddigidol/Welsh in a digital Age… Parhau i ddarllen Dr Jeremy Evas – Y Gymraeg mewn oes ddigidol (Recordiad)

Hacio’r Iaith 2013 – beth sy’n digwydd? (Diweddariad byw)

Newyddion diweddaraf: 8am dydd Sadwrn [blackbirdpie url=”https://twitter.com/Nwdls/status/292554001692643328″] [blackbirdpie url=”https://twitter.com/Nwdls/status/292553404943851520″] Byddwn ni dal yn mynd yn ein blaenau heddiw ond mae na dipyn o rew felly peidiwch teimlo bod rhaid dod. Well bod chi’n cadw’n saff. Newyddion diweddaraf: 12pm dydd Gwener Ar ôl trafod fan hyn ac edrych ar y tywydd a’r traffig, y cyngor i… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2013 – beth sy’n digwydd? (Diweddariad byw)

Hacio'r Iaith 2013 – manylion pwysig i bobl sy'n dod

Dw i newydd anfon y manylion canlynol i bawb sy’n dod i Hacio’r Iaith 2013 dydd Sadwrn. Dw i wedi copïo’r testun yma rhag ofn bod rhywun wedi methu’r e-bost. O ran cofrestru, mae ychydig o lefydd ar gael ar hyn o bryd ond dim llawer. Helo Diolch am gofrestru ar gyfer Hacio’r Iaith 2013.… Parhau i ddarllen Hacio'r Iaith 2013 – manylion pwysig i bobl sy'n dod

Hacathon! Papurau Newydd Hanesyddol – Aberystwyth, mis Ionawr 2013

Dw i’n edrych ymlaen yn arw at y digwyddiad yma: Hacathon! Papurau Newydd Hanesyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru Penglais SY23 1BU Aberystwyth Dydd Gwener 18fed mis Ionawr 2013 09:30 i 19:00 Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi digido bron i filwn o dudalenni o bapurau newydd hanesyddol Cymru, i’w lawnsio ym mis Mawrth 2013. Dyma gyfle i… Parhau i ddarllen Hacathon! Papurau Newydd Hanesyddol – Aberystwyth, mis Ionawr 2013

Open Rights Group: digwyddiad am breifatrwydd yng Nghaerdydd, 28ain mis Tachwedd 2012

Mae’r Grŵp Hawliau Agored ar daith i siarad am y peryg o golli preifatrwydd personol ar y rhyngrwyd. Bydd cyfarfod yng Nghaerdydd ar ddydd Mercher 28ain mis Tachwedd 2012. Mae’r grŵp wrthi’n ymgyrchu yn erbyn y Siarter Ysbiwyr, sef bil drafft gan y llywodraeth clymblaid yn San Steffan i orfodi darparwyr rhyngrwyd, platfformau rhwydwaith cymdeithasol a darparwyr eraill… Parhau i ddarllen Open Rights Group: digwyddiad am breifatrwydd yng Nghaerdydd, 28ain mis Tachwedd 2012

Hacio’r Iaith 2013, Aberystwyth: cofrestrwch lle

Rydyn ni wrthi’n drefnu Hacio’r Iaith 2013 yn Aberystwyth am y pedwerydd tro ac mae’n fraint i ddweud bod modd cofrestru lle am ddim heddiw! Manylion Dydd Sadwrn 19fed mis Ionawr 2013 9:30YB – 5:00YH (amser cau i’w gadarnhau) Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth, Ceredigion, Cymru Diolch i Illtud Daniel a phobl Llyfrgell Genedlaethol Cymru am… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2013, Aberystwyth: cofrestrwch lle