Cyfarfod Blynyddol Ubuntu Cymru

Helo! Rwy’n Mark, y Pwynt Cyswllt ar gyfer Ubuntu Cymru, a’r cyfieithydd arweiniol ar gyfer Ubuntu yn Gymraeg. Mae Ubuntu Cymru yn cynnal ei gyfarfod blynyddol ar ryw adeg ym mis Hydref (ar ôl i mi ddychwelyd o ymweliad teulu i Llandudno), ac rydym yn mynd i gynnal y cyfarfod ar Google+, Nid oes agenda… Parhau i ddarllen Cyfarfod Blynyddol Ubuntu Cymru

Twitter yn ychwanegu Cymraeg i'r prosiect cyfieithu rhyngwyneb

Heddiw mae Twitter wedi anfon negeseuon preifat i ddefnyddwyr sydd wedi gwneud cais am ryngwyneb Cymraeg. Mae’r prosiect ar agor i bawb gyda chyfrif Twitter sydd yn fodlon gwirfoddoli. Mae Cymraeg ar y rhestr ymhlith lot o ieithoedd eraill. 1. Cer i http://translate.twttr.com ar dy gyfrifiadur os wyt ti eisiau cymryd rhan. (Dw i ddim… Parhau i ddarllen Twitter yn ychwanegu Cymraeg i'r prosiect cyfieithu rhyngwyneb

Cyfieithu ‘checkin’ i’r Gymraeg

Dwi’n chwilio am drosiad o’r ferf ‘to check in’ a’r enw ‘checkin’. Mae ‘cofnodi’ / ‘cofnodyn’ yn apelio i fi ar hyn o bryd, ond efallai gallai dryswch godi gyda mwy nag un cofnodyn (cofnodau) sydd yn debyg i gofnod blog. Dyma rai o’r syniadau hyd yn hyn. Be di’ch barn chi? http://storify.com/nwdls/cyfieithu-r-term-checkin-i-r-gymraeg

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post Cofnodion wedi'u tagio ,

Newydd diweddaru gwefan Hacio’r Iaith

Tudalennau Dw i newydd diweddaru’r tudalennau isod. Mae croeso i ti ei wella (os oes gyda ti cyfrif). Beth yw Hacio’r Iaith? What is Hacio’r Iaith? (English) Gyda llaw mae unrhyw un sy’n dod i’r digwyddiad yn Aberystwyth mis yma yn gallu cael cyfrif i flogio ayyb. Thema Mae’r wefan yn defnyddio thema plentyn ar… Parhau i ddarllen Newydd diweddaru gwefan Hacio’r Iaith

Lleoleiddio Evernote i’r Gymraeg

Mae Evernote yn wasanaeth cwmwl ar gyfer cymryd nodiadau, lluniau a storio dogfennau rhwng yn sydyn rhwng dyfeisiau. Dwi’n ei ddefnyddio’n achlysurol os dwi isio cymryd nodyn sydyn pan dwi allan. Mae Evernote wedi agor eu rhyngwyneb i gael ei gyfieithu i wahanol ieithoedd ac fel dwi’n deall mae’n bosib ei leoleiddio i’r Gymraeg os… Parhau i ddarllen Lleoleiddio Evernote i’r Gymraeg

Help! Cyfieithu doodle.com

Beth yw Doodle? Mae trefnu cyfarfodydd gallu bod yn her weithiau. Os wyt ti’n trefnu cyfarfod gydag un person mae’n hawdd – ffonio a threfnu dyddiad. Ond bob tro rwyt ti’n ychwanegu person arall ac yn trio trefnu trwy ebost mae’n lletchwith. Dyma pryd mae Doodle.com yn defnyddiol iawn – mae un person yn gosod yr… Parhau i ddarllen Help! Cyfieithu doodle.com