Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Hacio’r Iaith yn cynnal Hacathon Hanes yng Nghaerdydd.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gweithio, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, ar brosiect sy’n ceisio mesur effaith rhannu data agored gydag Wikimedia. Bydd prosiect Wicipobl yn canolbwyntio ar ddarparu amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys rhannu delweddau digidol ar drwydded agored, gweithio gydag ysgolion ar ddigwyddiadau estyn allan, creu erthyglau  Wicipedia Cymraeg newydd, rhannu metadata’r Llyfrgell… Parhau i ddarllen Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Hacio’r Iaith yn cynnal Hacathon Hanes yng Nghaerdydd.

Cwrw a thafarndai mwyaf poblogaidd Caerdydd (yn ôl Untappd)

Mae gwefan BarDiff yn dangos pob math o ystadegau am gwrw a yfir yng Nghaerydydd yn seiliedig ar ‘checkins’ ar Untappd. Mae’n cynnwys y cwrw unigol mwyaf poblogaidd (gweler y graff isod), y math o gwrw sy’n cael ei yfed, o ba fragdai, ym mha dafarndai ac ar ba adegau o’r dydd. Mae’r graff yn dangos y… Parhau i ddarllen Cwrw a thafarndai mwyaf poblogaidd Caerdydd (yn ôl Untappd)

Wicigyfarfod Caerdydd, 22 Chwefror 2015

Mae tudalen ar Meta-wiki am y pedwerydd Wicigyfarfod yng Nghaerdydd: Wicigyfarfod Caerdydd Rhif 4 Dydd Sul 22 Chwefror 2015 — 12:00 ymlaen Lleoliad: The Central Bar (Wetherspoons), 39 Plas Windsor CF10 3BW #cdfwiki Mae wicigyfarfod yn gyfle i ddefnyddwyr prosiectau Wikimedia gwrdd â’i gilydd a… Sgwrsio am Wicipedia, Wikimedia, cynnwys agored neu unrhyw bwnc arall… Parhau i ddarllen Wicigyfarfod Caerdydd, 22 Chwefror 2015

Hacio’r Iaith Bach – Caerdydd 28ain Hydref 2014

Beth yw Hacio’r Iaith Bach? Cyfarfododd bychain (fel arfer mewn tafarn!) ble mae criw o rhwng (4 a 20+) yn cwrdd am drafodaethau rownd y bwrdd. Beth fyddwch yn ei drafod? Unrhyw beth, ond mae’n bosib y trafodwn data, ymgyrchu, diflaniad Geiriadur y BBC, gemau a chant a mil o bethau eraill. Dyma flas o… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith Bach – Caerdydd 28ain Hydref 2014

Cwrs Hyfforddi’r Hyfforddwyr, Caerdydd. 1-2/2/2014

Mae Wikimedia UK yn cynnig cwrs hyfforddiant deuddydd o’r enw Hyfforddi’r Hyfforddwyr yng Nghaerdydd ar benwythnos y 1af a’r 2il o Chwefror yng Nghaerdydd. Cwrs cyffredinol ar fod yn hyfforddwr ydyw, ac nid ar sut i olygu’r Wicipedia. Darperir yr hyfforddiant drwy gyfrwng y Saesneg, ond rhoddir blaenoriaeth i siaradwyr Cymraeg er mwyn gallu cynorthwyo gyda proseictau… Parhau i ddarllen Cwrs Hyfforddi’r Hyfforddwyr, Caerdydd. 1-2/2/2014

WiciGyfarfod, Caerdydd. Nos Wener 1/11/13

Gyda chynhadledd Edu Wiki 2103 yn cymryd lle yr un pryd dyma feddwl am drefnu WiciGyfarfod (tebyg i Hacio’r Iaith Bach) ar y nos Wener. Mae’n gyfle anffurfiol i sgwrsio gyda wicipedwyr hen a newydd o Gymru a thu hwnt. Y gobaith yw y bydd Alex Hinojo yno ar ran Wicipedia Catalonia hefyd. Mae Alex yn gwneud gwaith anhygoel yng… Parhau i ddarllen WiciGyfarfod, Caerdydd. Nos Wener 1/11/13

Cynhadledd EduWiki 2013 (Wikipedia mewn Addysg): Caerdydd, 1 a 2 Tachwedd

Mae bellach modd cofrestru ar gyfer cynhadledd EduWiki 2013, sef ail gynhadledd Wikimedia UK i drafod prosiectau addysgol. Cynhelir y gynhadledd yng Nghaerdydd ar y 1 a 2 o Dachwedd a bydd yn trafod ystod eang o bynciau o Adnoddau Dysgu Agored, Rhaglen Addysgol Wikipedia, asesu ac achredu, tybiaeth feirniadol, llythrennedd digidol a llythrennedd Wikipedia.… Parhau i ddarllen Cynhadledd EduWiki 2013 (Wikipedia mewn Addysg): Caerdydd, 1 a 2 Tachwedd

Cyfarfod i drafod ‘Y Dinesydd 24/7’, yn Chapter, Caerdydd 7/4/13

Efallai i chi gofio i ni drefnu Hacio’r Iaith Bach: Newyddion lleol yn y ddinas ym mis Mai 2012. Roedd hi’n noson dda. I’r rhai a fynychodd y noson honno, efallai bydd y canlynol o ddiddordeb i chi: Newyddion a Chwaraeon Lleol Blogiau Adolygiadau Bwytai a Thafarndai Cymdeithasau a Mudiadau Rhwydweithiau Cymdeithasol Busnesau Lleol Digwyddiadur… Parhau i ddarllen Cyfarfod i drafod ‘Y Dinesydd 24/7’, yn Chapter, Caerdydd 7/4/13

Open Rights Group: digwyddiad am breifatrwydd yng Nghaerdydd, 28ain mis Tachwedd 2012

Mae’r Grŵp Hawliau Agored ar daith i siarad am y peryg o golli preifatrwydd personol ar y rhyngrwyd. Bydd cyfarfod yng Nghaerdydd ar ddydd Mercher 28ain mis Tachwedd 2012. Mae’r grŵp wrthi’n ymgyrchu yn erbyn y Siarter Ysbiwyr, sef bil drafft gan y llywodraeth clymblaid yn San Steffan i orfodi darparwyr rhyngrwyd, platfformau rhwydwaith cymdeithasol a darparwyr eraill… Parhau i ddarllen Open Rights Group: digwyddiad am breifatrwydd yng Nghaerdydd, 28ain mis Tachwedd 2012