Tagiwyd fel: bbc Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Carl Morris 11:49 AM ar 8 February 2017 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau: bbc, dementia, iechyd   

    Defnyddio archif cyfryngol i gefnogi pobl gyda dementia a gofalwyr 

    Dw i newydd glywed am brosiect archif y BBC i gefnogi pobl gyda dementia a’i gofalwyr.

    Mae’n swnio fel ffordd dda o sbarduno sgyrsiau mewn ffordd naturiol gyda phobl drwy fanteisio ar hen glipiau mewn system atgofion (gadewch sylw isod os oes term gwell na ‘system atgofion’).

    Dyma’r esboniad o’r wefan:

    Welcome to the BBC Reminiscence Archive. This archive provides access to a selection of content from the BBC Archives, designed to support reminiscence therapy.

    The principle of reminiscence therapy is to assist people who have dementia to interact and converse in a natural way by stimulating their long-term memory with material from the past. It is often the case that long-term memory can still function when the person’s working (short-term) memory is degraded. Tapping into long-term memory can make it possible once again for them to enjoy interacting with others, through their stories.

    A number of reminiscence systems have been developed for people with dementia, based on photographs, photo books, boxes of objects and materials and interactive computer applications. The BBC wants to contribute to this growing set of supports for people with dementia and their carers by drawing on the enormous fund of photos, videos, and sound clips in its archives.

    Dw i heb weld unrhyw gynnwys yn y Gymraeg ar y wefan. Tybed os oes modd ychwanegu cynnwys Cymraeg? Fel arall mae hi’n eithaf hawdd dychmygu prosiect tebyg yn Gymraeg.

    Mae’r sôn am systemau atgofion eraill yn ddiddorol – ydy gwaith ar hyn wedi bod yn y Gymraeg?

     
    • Edith Hughes 3:19 PM ar 9 Chwefror 2017 Dolen Barhaol

      Helo – dwi wrthi’n gweld beth sy’n ymarferol bosib yn yr iaith Gymraeg – mwy i ddilyn pan fydd gen i fwy o fanylion. Pa fath o glipiau fyddech chi’n hoffi eu gweld? Gyrrwch eich syniadau!

    • Carl Morris 3:31 PM ar 9 Chwefror 2017 Dolen Barhaol

      Byddai hi’n braf cael gweld pethau o adloniant a diwylliannau Cymraeg y 60au a 70au yn yr oes cyn S4C, pethau fel Ryan a Ronnie, Fo a Fe, Pobol y Cwm hynafol, cerddorion, beirdd, ac ati.

      Efallai bod ‘na syniadau eraill yma.

      Dw i’n siŵr bod pobl o gwmpas sy’n cofio’r oes yn well na fi! 🙂

    • Edith Hughes 3:37 PM ar 9 Chwefror 2017 Dolen Barhaol

      Diolch yn fawr Carl. Croeso mawr i bawb arall gynnig syniadau hefyd.

  • Carl Morris 4:27 PM ar 22 October 2014 Dolen Barhaol
    Tagiau: bbc,   

    BBC yn lladd Geiriadur Ar-lein 

    rip-bbc-geiriadur

    Mae BBC newydd dynnu eu geiriadur Cymraeg-Saesneg i lawr. Mae’n anodd deall y rhesymeg tu ôl i’r penderfyniad yma, sef diffyg gallu i gefnogi’r technoleg yn y cefndir. Mantais y geiriadur BBC oedd y rhyngwyneb syml. Dw i’n ymwybodol bod cyfieithwyr proffesiynol a defnyddwyr amatur yn ogystal yn ei ddefnyddio fel ffynhonnell ddibynadwy trwy’r dydd.

    Ddylen ni’n cymryd bod ‘technoleg’ yn golygu bach o perl neu rywbeth tebyg? Ta waeth, pe tasai’r geiriadur yn bwysig i’r BBC byddan nhw wedi ffeindio ffordd o’i gefnogi.

    Mewn newyddion eraill, mae’r hen geiriadur.net – gwefan Prifysgol y Drindod Dewi Sant – wedi diflannu oddi ar y we ers wythnos ar ôl 12 mlynedd o wasanaeth. Mae’n edrych fel bod rhywun wedi methu adnewyddu’r enw parth – yn ddamweiniol neu yn bwrpasol. Dw i wedi gofyn iddynt ond doedd dim ymateb.

    Dw i’n tueddol o ddefnyddio Geiriadur Prifysgol Cymru sydd yn adnodd da er bod y rhyngwyneb a dyluniad yn lletchwith yn fy marn i. Gallwn i ddweud yr un peth am Geiriadur yr Academi. Mae Ap Geiriaduron ar y ffôn ac mae Termau.org yn ddefnyddiol ar gyfer termau arbenigol.

    Ond mae’r bysoedd yn dal i fethu’r geiriaduron sydd wedi diflanni y mis hwn.

    Mwy o eiriaduron

     
    • Dafydd Tomos 7:43 PM ar 22 Hydref 2014 Dolen Barhaol

      Rhaid dweud nad ydw i wedi defnyddio geiriadur.net ers blynyddoedd nac un y BBC i ddweud y gwir (ers dyfodiad GyA a GPC). Yr unig fantais i un y BBC yw fod e’n gwbl hygyrch a felly mae’r geiriau yn ymddangos yng nghanlyniadau peiriannau chwilio, a dyna’r unig adeg oeddwn i’n cyrraedd geiriadur y BBC. Roedd e weithiau yn ddefnyddiol i fynd o saesneg -> Cymraeg.

      Doedd y casgliad o eiriau ddim o dan drwydded agored beth bynnag a dwi ddim yn credu fod e’n cael eu ddiweddaru (yn anffodus, ydi’r un peth yn wir am Eiriadur yr Academi?)

      Fel rhywun sy wedi gorfod cynnal gwefannau sy’n fwy na degawd oed (rhai wedi eu dal at ei gilydd gyda Perl a darnau o gortyn) mae gen i gydymdeimlad o ran gorfod cynnal y gwasanaeth. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer platfform sydd ddim yn cael eu gefnogi, o ran diogelwch ac ati.

      Ar hyn o bryd dwi’n gorfod adeiladu system pen-blaen newydd i ‘guddio’ hen system etifeddol (sydd mond yn 8 mlwydd oed!). Wedi dweud hynny mae’n system llawer mwy cymleth na jyst chwilio am eiriau.

    • Rhys Wynne 10:14 PM ar 22 Hydref 2014 Dolen Barhaol

      Ro’n i’n ei ddefnyddio tipyn (defnyddiais i o bore ‘ma, cyn iddo diflannu). Yn ogystal a’r ffaith bod modd chwilio o Gymraeg i Saesneg, roedd geiriau arno na sydd ar GyA, yn arbennig pethau cyfoes, fel ‘gwefan’ er enghraifft (!) ac roedd yn handi wedyn i wirio cenedl gair yn Gymraeg. Nodwedd defnyddiol arall oedd wrth i chi ddechrau teipio gair, roedd yn dyfalu gweddill y gair, eto defnyddiol os nad oeddech yn sicr o’r sillafiad ac sy’n un o’r amryw nodweddion sydd ddim gan GyA.

      O ran yr ochr dechnegol, mae’n siwr bod cynnyws mewn ieithoedd eraill yn cael eu colli o safleodd y BBC am yr un rheswm (wyddwch chi am esiampl?), a dwi’n gwybod y nesaf peth i ddim am yr ochr hyn, ond dychmygaf mai dyma un o wasanaethau Cymraeg y BBC oedd yn cael dipyn o ddefnydd, ac ysgwn i a roddwyd unrhyw ystyriaeth i’w ail-lansio ar sail y dechnoleg ddiweddaraf sy’n gyrru gwefannau BBC? Neu ai esgus cyfleus yw hyn i gwtogi ar y Gymraeg ymhellach gan y gorfforaeth?

    • Eirwen 10:52 PM ar 22 Hydref 2014 Dolen Barhaol

      Bum yn gweithio ar y geiriadur ac roedd hi’n anffodus ei fod wedi ei greu cyn i’r BBC adnewyddu eu systemau arlein canolog. Byddai’n gret petai BBC Cymru Arlein yn gofyn an arian prosiect i greu fersiwn newydd gan mai hwn oedd yr unig adnodd oedd yn dweud os oedd gair yn fenywaidd/gwrywaidd (help mawr pan yn sortio treigladau), rhedeg berfau ac yn cynnig clipiau sain. Werth holi Huw M yr Is Olygydd am fersiwn newydd.

    • Robyn 2:23 PM ar 23 Hydref 2014 Dolen Barhaol

      Erbyn hyn rwy’n dibynnu ar y Gweiadur (www.gweiadur.com) – mae’n rhoi cenedl enwau, rhedeg berfau ac arddodiad a chymharu ansoddeiriau yn ogystal â rhoi clipiau sain ar gyfer llawer o’r geiriau. Yn ogystal, mae’n diffinio pob gair sydd yn llawer o help wrth ddewis y gair Saesneg cyfatebol mwyaf priodol. (Rwy’n mynd at GPC a GyA pan nad yw’r gair yn y Gweiadur, ond gyda band-eang cefn gwlad, dwi’n ffeindio’r ddau yn araf iawn i lwytho!)

    • Carl Morris 2:39 PM ar 23 Hydref 2014 Dolen Barhaol

      @dafyddtomos

      Dw i’n siŵr bod ‘na trafferthion i’r gweithwyr.

      Ond o ran y Gorfforaeth, dw i ddim yn meddwl bod y rheswm swyddogol yn iawn.

      BBC, dwedwch os nad ydych chi’n meddwl bod angen darparu Geiriadur bellach oherwydd opsiynau eraill ar y we. Neu os nad yw’r trwydded ar gyfer y cynnwys ar gael rhagor. Dyma i chi resymau da. Maent yn cyfeirio at bethau allanol.

      Mae’r prosiect Geiriadur yma yn fach iawn. BBC wnaeth datblygu iPlayer a sawl prosiect uchelgeisiol arall. Mae arian i’w fuddsoddi/wastraffu ar DMI ond oedd ‘na unrhyw ymdrech i chwilio am gynllun amgen ar gyfer prosiect Cymraeg?

    • Iwan S 2:59 PM ar 23 Hydref 2014 Dolen Barhaol

      Yn ogystal â’r Geiriadur, mae Vocab di mynd hefyd (teclyn i gyfieithu geiriau o fewn tudalen). Yn sicr roedd o’n hen dechnoleg ac angen ei adnewyddu (mae na ffyrdd lot gwell o wneud yr un peth erbyn hyn) ond mae’n edrych fel bod y BBC jysd di tynnu’r plwg heb drafferthu ddweud wrth y bobl eraill oedd yn ei ddefnyddio, gan dorri gwefannau allanol.

      Mae’n wir bod y BBC wedi symud at system wedi seilio ar PHP ar gyfer y brif safle, ac roedd y Geiriadur a Vocab yn rhaglenni Perl (datganiad diddorddeb: fi codiodd y ddau), felly fyddai wedi bod yn anodd eu cynnal yn eu ffurf bresennol.

      Ond petai ewyllys yna i’w cadw neu eu haildatblygu, gellid fod wedi gwneud, wrth gwrs.

      Mae safle enfawr Genome newydd y BBC wedi codio’n Perl, felly yn amlwg fyddai ddim yn amhosib.

      http://www.bbc.co.uk/blogs/internet/posts/Genome-behind-the-scenes

      Felly esgus ydi’r lein am dechnoleg. Diffyg diddordeb ydi’r gwir rheswm am wn i.

      Ond mae yn edrych yn od bod holl adnoddau dysgu Cymraeg y BBC yn cael eu cau neu’u harchifio, tra bod y bosys yn dweud bod angen denu mwy o rai llai hyderus eu Cymraeg i ddefnyddio’r gwasanaethau.

    • Dafydd Tomos 7:03 PM ar 23 Hydref 2014 Dolen Barhaol

      “Mae’r prosiect yn fach iawn”. A dyna pam y byddai yn isel iawn ar restr y byddai’r BBC eisiau cynnal. Cywirwch fi os dwi’n anghywir ond os oedd na waith (gwefannau) technegol wedi ei wneud o fewn BBC Cymru yn y gorffennol, dyw hynny ddim yn wir bellach. Mae Vocab wedi diflannu hefyd er enghraifft, union 10 mlynedd ar ôl lansio (oedd yna gyfyngiad ar y drwydded geiriadur?)

      Yn hytrach na ail-greu gwasanaeth gan y BBC gyda data caeëdig eto, efallai fase’n syniad edrych ar be sy’n bosib gwneud gyda data agored. Mae’n debyg fod grantiau ar gael ar gyfer y math yma o beth.

    • Rhodri 11:18 PM ar 23 Hydref 2014 Dolen Barhaol

      Dwi’n meddwl ei bod yn wir i ddweud bod adnoddau y BBC i gyd wedi eu canolbwyntio ar Cymru Fyw erbyn hyn o ran gwaith arlein. Does dim adran neu staff mewnol yn gweithio ar ddatblygu pethau fel hyn hyd y gwn i. Mae hyn yn spillover o DQF a’r lleihau ar yr hyn oedd yn cael ei weld fel ‘mission creep’ y Bîb ar y we. Dwi’n gweld y safbwynt taw nid rili lle y BBC yw darparu geiriadur arlein, ond dwi’n gweld hefyd bod DQF yn amherthnasol pan ti’n sôn am gynnwys Cymraeg, lle mae pob atodiad i’r hyn sydd ar gael yn werthfawr. Dyna pam bod y drafodaeth yma’n digwydd, er bod geiriaduron eraill i’w cael.

      Dwi’n credu bod na bwynt ehangach yma hefyd, sef y dylai bod sefydliadau sydd â rôl fawr i’w chwarae yn nhirlun digidol Cymru fod yn cydweithio er mwyn cynllunio prosiectau Cymraeg all weithio i wella sefyllfa pawb. Mae na bethau sydd yn rhan o isadeiledd y we mewn ieithoedd gwahanol ac mae adnoddau iaith yn rhan o hynny, fel y mae tech adnabod iaith – y blociau adeiladu. Os nad ariannu un ar eu gwefan eu hunain, dylai PSB Cymraeg olygu ariannu’r math hyn o beth hefyd, hyd yn oed os mae’n bodoli rhywle arall.

    • Colin 3:49 PM ar 28 Hydref 2014 Dolen Barhaol

      Sgwrs ddiddorol. Jyst eisiau ail-bwysleisio pwynt Robyn – mae gweiadur.com yn dda iawn, ac ar gael am ddim. Mae hefyd yn cynnwys adran gyda rhediad berfau. Mae BBC Vocab yn adnodd defnyddiol iawn – dyw hynny ddim wedi diflannu hefyd nag yw e? Cytuno gydag Iwan S hefyd bod hwn yn gwbl groes i strategaeth Radio Cymru o ran denu’r dysgwyr i’r gwasanaeth.

    • Dafydd Tomos 8:34 PM ar 28 Hydref 2014 Dolen Barhaol

      Mi wnes i ddarganfod y wefan hwn heddiw gyda llaw http://www.verbix.com/languages/welsh.shtml
      Dwi’n gwybod fod pobl eisiau i BBC ‘gefnogi’r Gymraeg’ ond y mwya allwn ni beidio dibynnu ar fehemoth gwe y BBC y gorau.

    • Carl Morris 2:35 PM ar 5 Tachwedd 2014 Dolen Barhaol

      @colinnosworthy
      Mae sawl gwasanaeth BBC wedi diflannu yn sgil y Geiriadur gan gynnwys Vocab a’r rhedwr berfau a mwy.

      Gyda llaw mae Geiriadur.net wedi dod yn ôl (ond peidiwch ag anghofio’r www).

    • Shimmin Beg 11:32 AM ar 7 Tachwedd 2014 Dolen Barhaol

      Mae geiriadur.net yn fyw, oni mod i’n breuddwydo?

      Efallai nid syniad newydd ydi hi, ond mi ro’n i’n meddwl, beth am prosiect rhyng-geltaidd i ddatblugu cyfiethiwr porwr? Wrth gwrs, cynnwys anhebyg sydd ar angen i’r geiriadur, ond dwi’n credu bod problemau tebyg iawn ganddyn nhw: mae’n rhaid i’r technoleg nabod arddodiadau, treigladau, ayyb.

    • Carl Morris 7:38 PM ar 27 Tachwedd 2014 Dolen Barhaol

      Dyma ohebiaeth gyda’r BBC er gwybodaeth.

      Annwyl BBC

      Fel defnyddiwr brwd o wefan BBC hoffwn i ofyn cwestiwn i chi.

      Allech chi adael i mi wybod pa wasanaethau ar-lein sydd wedi dod i ben yn ddiweddar os gwelwch yn dda?

      Rwy’n ymwybodol bod rhai wedi gorffen fel canlyniad o’r penderfyniad i ddiffodd y cysylltiad i weinyddion ATOS gan gynnwys y Geiriadur, VOCAB a’r Rhedwr Berfau ac wedi clywed bod ambell i gêm wedi gorffen hefyd.

      Diolch yn fawr iawn i chi

      Carl

      Annwyl Carl,

      Diolch am eich ymholiad am wasanaethau ar-lein y BBC.

      Dros y misoedd diwethaf, mae’r BBC yn ei gyfanrwydd wedi ymgymryd â phrosiect eang i edrych ar ein cynnwys ar y we, yn enwedig hen wefannau. Fel rhan o’r prosiect, rydym wedi mudo cynnwys i’n tudalennau cyfredol yn ogystal â chau ac archifo peth o’n cynnwys nad yw’n gyfredol bellach neu lle mae’r dechnoleg yn rhy hen i’w gynnal. Lle mae hyn wedi digwydd, mae baner ar y dudalen i nodi ei fod una’i wedi ei archifo neu ei gau.

      Fe sonioch yn benodol am VOCAB, y geiriadur a’r Rheolwr Berfau. Fe ddatblygwyd y rhaglenni hyn tua deng mlynedd yn ôl, fel adnoddau ar-lein i helpu defnyddwyr y we oedd yn dysgu Cymraeg. Bellach, nid yw’r dechnoleg sy’n sail i’r rhaglenni yma yn gyfredol, felly nid oes modd ei gynnal. Fel y byddwch yn ymwybodol, dros y blynyddoedd, mae’r ddarpariaeth o safbwynt adnoddau ar-lein i ddefnyddwyr y Gymraeg wedi ehangu’n sylweddol gydag adnoddau eraill ar gael erbyn hyn sydd yn gwneud gwaith tebyg. Am restr ewch i http://m.bbc.co.uk/cymrufyw/29173236

      Gan fod adnoddau ar-lein i ddefnyddwyr y Gymraeg wedi ehangu’n sylweddol dros y blynyddoedd, a geiriaduron ac adnoddau eraill ar gael, rydym yn edrych ar ein darpariaeth ym maes dysgu Cymraeg yn fwy cyffredinol ac ar hyn o bryd yn ymgynghori gydag unigolion sydd yn gweithio yn y maes yma. Ein bwriad fydd lansio elfennau newydd o’n gwasanaeth yn y misoedd nesaf fel rhan o’n gwasanaeth ar-lein newydd, Cymru Fyw.

      O ran y gemau, mae nifer fach o’r gemau oedd yn defnyddio’r dechnoleg CGI wedi eu cau gan nad oes modd cynnal y dechnoleg. Rydym yn ymwybodol o broblemau technegol dros dro gyda rhai o’r gemau sy’n defnyddio Flash, wrth i’r gwaith o gysoni’r we fynd rhagddo ac yn gweithio i adfer y rhain ar hyn o bryd.

      Diolch i chi eto am gysylltu.

      Gwasanaethau’r Gynulleidfa, BBC Cymru
      03703 500 700
      BBC Cymru
      http://www.bbc.co.uk/cymru

    • Rhys Wynne 10:36 PM ar 29 Tachwedd 2014 Dolen Barhaol

      Falle nid yn wasanaeth, ond mae gwybodaeth ddefnyddiol (YFMI) am y Gymraeg, ond yn Saesneg wedi diflannu, sef ‘What’s in a name?’ (gweler hen URL: http://www.bbc.co.uk/wales/whatsinaname/sites/placenames/pages/alltwalis.shtml). Nid rheswm technegol sydd tu cefn i hyn hyd y gwelaf i, gan bod fersiwn Cymraeg yn dal i fodoli.

      Yn 2007, blogiais am gyfres arbennig o ddathliladau gan Radio Cymru/BBC Cymru i ddathlu 50 mlynedd ers cyhoeddi Wythnos yng Nhgymru Fydd. Roedd is safle ar wefan BBC ar ei gyfer gyda thipyn o gynnwys. Gallaf ddeall y gall bod problem trwydded gyda rhan o’r cynnwys, ond yn roedd y wefan yr is wefan i’w gweld 5 mis yn ddiweddarach o leiaf: https://web.archive.org/web/20071021082303/http://www.bbc.co.uk/cymru/radiocymru/safle/wythnos/
      Eto nid gwasanaeth oedd hwn, ond roedd o’n adnodd addysgol defnyddiol a rhywbeth dwi wedi cyferio dysgwyr ato yn y gorffenol gan bod y llyfr wedi ei addasu ar gyfer dysgyr ac mae’n/roedd yn ffordd dda o roi ychydig o gyd-destun i bobl sy’n anghyfarwydd a diwylliant/hanes/gwleidyddiaeth Cymru a’r Gymraeg yn ogystal a bod yn un o nofelau amlycaf ein llên.

    • Delyth Prys 4:44 PM ar 1 Rhagfyr 2014 Dolen Barhaol

      Erbyn hyn mae Geiriadur y BBC nôl yn fyw dan ei enw newydd Geiriadur Bangor. Mae wedi’i letya ar wefan Prifysgol Bangor ar http://geiriadur.bangor.ac.uk/. Cyfuniad yw e mewn gwirionedd o eiriadur cyffredinol Cysgair, sy’n rhoi geirfa gyffredin y Gymraeg a’r Saesneg, a Y Termiadur Addysg, sy’n rhoi termau wedi’u safoni ar gyfer addysg ysgol a cholegau addysg bellach.

      Roeddwn i’n betrus iawn am eu cyfuno, fel a wnaed yn ein gwaith gwreiddiol i’r BBC. Roedd hyn am ein bod yn ceisio cael pobl i ddeall y gwahaniaeth rhwng geiriadur disgrifiadol fel Cysgair ar y naill law (lle mae rhyddid i bobl ddewis eu geirfa allan o holl gyfoeth yr iaith), a geiriadur rhagnodol fel Y Termiadur Addysg ar y llaw arall (lle mae angen safoni termau technegol er mwyn cyfathrebu clir).

      Ond mae’r ymateb ers i’r BBC dynnu’r geiriadur wedi dangos fod yna le i eiriadur gyda rhyngwyneb hawdd ei ddefnyddio fel hwn, sy’n gyfuniad o eiriau cyffredin a’r eirfa dechnegol ddiweddaraf yn yr iaith. Byddwn ni yn yr Uned Technolegau Iaith yn ceisio’i gynnal a’i ddiweddaru o hyn allan felly o’n hadnoddau ein hunain. Diolch i Dewi a Gruff o’r Uned am eu holl waith yn ei adfer a’i roi ar lein.

  • Carl Morris 2:53 PM ar 29 September 2013 Dolen Barhaol
    Tagiau: bbc, , ,   

    Datblygu radio personol, osgoi'r Archers a mwy 

    archers-avoider

    Dyma cofnod blog difyr am ddefnydd o Raspberry Pi a chod agored i hacio meddalwedd/caledwedd radio personol at eu gilydd.

    Maent yn datblygu botwn i osgoi’r Archers ond mae modd gwneud newidiadau i’r prototeip. Felly os oes elfen fach o BBC Radio Cymru sydd ddim at eich dant, dyma’r dyfais radio i chi. 🙂

     
  • Carl Morris 4:26 PM ar 29 July 2013 Dolen Barhaol
    Tagiau: bbc   

    Cymru Fyw: gwasanaethau BBC ar-lein newydd 

    BBC heddiw yn dweud:

    BBC Cymru Wales yn cyhoeddi cynlluniau i ddatblygu “Cymru Fyw” – gwasanaeth ar-lein newydd yn Gymraeg fydd yn gyfoes ac unigryw

    Mae BBC Cymru Wales heddiw wedi cyhoeddi buddsoddiad newydd sylweddol yn eu gwasanaethau digidol ar-lein yn Gymraeg gyda chynlluniau i ddatblygu gwasanaeth newydd o’r enw Cymru Fyw.

    Bydd y gwasanaeth, fydd yn dechrau fel cynllun peilot am ddwy flynedd, ar gael ar bob llwyfan – cyfrifiaduron desg, ffônau symudol a thabledi – a bydd yn cyfuno newyddion byw a nifer o elfennau eraill. Prif nodweddion Cymru Fyw fydd:

    • y straeon newyddion diweddaraf ar draws Cymru
    • ffrwd blog byw gyda’r manylion diweddaraf am newyddion o Gymru, chwaraeon, y celfyddydau, diwylliant poblogaidd, gwleidyddiaeth a thywydd, yn ogystal â llwyfan i ryngweithio gyda defnyddwyr trwy gyfryngau cymdeithasol
    • porth i’r cynnwys ar-lein gorau yn Gymraeg gan gyflenwyr eraill – gan ddefnyddio pŵer brand y BBC i helpu defnyddwyr i ddod o hyd i gynnwys perthnasol ar draws y rhyngrwyd
    • eitemau nodwedd ac erthyglau barn
    • llwyfan ar gyfer pob gwasanaeth byw a chyfredol ar-lein arall sydd ar gael yn Gymraeg gan y BBC, e.e. BBC Radio Cymru, BBC iPlayer, Democratiaeth Fyw, Tywydd a Theithio

    Bydd Cymru Fyw yn cael ei ddatblygu a’i lansio dros y misoedd nesaf, a bydd y BBC yn cryfhau’r tîm sy’n gweithio yn yr iaith Gymraeg, gan greu chwech o swyddi ychwanegol.

    Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru Wales, mai bwriad y datblygiad yw ehangu apêl a chyrhaeddiad gwasanaethau Cymraeg ar-lein:

    “Mae’n rhaid i wasanaethau ar-lein, rhyngweithiol yn Gymraeg gystadlu gyda chyfryngau byd-eang, a dyna un o’r heriau mwyaf sylweddol sy’n wynebu’r iaith. Er ein bod yn darparu rhai o’r gwefannau mwyaf poblogaidd yn Gymraeg ers nifer o flynyddoedd, rydyn ni eisiau creu mwy o argraff ar ein cynulleidfa,” meddai Sian.

    “Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae nifer y defnyddwyr sy’n defnyddio gwefannau Cymraeg y BBC wedi cynyddu dros 50% – ond rydyn ni’n hyderus bod yna le i dyfu ymhellach wrth i’r defnydd o ffônau symudol a thabledi gynyddu. Rydym yn awyddus i adeiladu ar y llwyddiant hyd yma er mwyn cyrraedd 50,000 o ddefnyddwyr unigryw bob wythnos.

    “Mae Cymru Fyw yn fuddsoddiad cyffrous a sylweddol mewn gwasanaeth ar-lein yn Gymraeg a bydd yn cynnig darpariaeth mwy amserol ac unigryw i ddefnyddwyr. Mae angen i ni gydweithio gyda chyhoeddwyr ar-lein eraill yn y Gymraeg er mwyn sicrhau ein bod yn creu mwy o argraff. Bydd Cymru Fyw yn helpu defnyddwyr i wneud y gorau o’r cynnwys sydd ar gael yn yr iaith Gymraeg, ac adnoddau eraill sy’n berthnasol iddynt, ar draws y rhyngrwyd.”

    Yn dilyn adolygiad o’r gwasanaethau digidol yn Gymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r BBC hefyd wedi penderfynu canolbwyntio’r buddsoddiad newydd ar bump maes fydd yn cael blaenoriaeth ar gyfer datblygiad rhyngweithiol/ar-lein. Yn ogystal â’r elfennau a restrwyd uchod ar gyfer Cymru Fyw ceir:

    • BBC Radio Cymru ar-lein – sy’n cynnig cynnwys am wasanaeth BBC Radio Cymru, fel gwybodaeth am raglenni, blogiau a chlipiau, yn ogystal â’r gallu trwy BBC iPlayer Radio i wrando yn fyw ac i wrando nôl ar raglenni o’r 7 diwrnod diwethaf
    • BBC iPlayer – mae rhaglenni teledu Cymraeg BBC Cymru Wales ar S4C ar gael ar BBC iPlayer
    • Dysgu – mae hwn yn cynnwys yr holl adnoddau dysgu yn Gymraeg, e.e. BBC Bitesize, yn ogystal â chynnwys dysgu arall yn Gymraeg
    • CBeebies – rydym wedi bod yn gweithio gyda CBeebies i ddatblygu cynnwys iaith Gymraeg o amgylch brandiau allweddol y sianel fel Tree Fu Tom, ynghyd â 16 o gemau yn y Gymraeg ar gyfer ystod ehangach o sioeau megis Numtums, Timmy Time, Nina and the Neurons, Everthing’s Rosie, Kerwhizz a Driver Dan ac rydym yn bwriadu datblygu cynnwys newydd yn y dyfodol.

    Datganiad llawn

    Dw i heb gael siawns i fyfyrio am y peth heddiw ond maent yn cynllunio’r ‘porth i’r cynnwys ar-lein gorau yn Gymraeg gan gyflenwyr eraill’ ers sbel. Ac byddai fe’n rhywbeth i’w groesawi. Mwy o sylw a chynulleidfa i flogwyr annibynnol (fel chi) yw’r gobaith.

     
    • Gareth Morlais 10:18 AM ar 30 Gorffennaf 2013 Dolen Barhaol

      Mae hwn yn swnio’n wych: lincio allan mwy a rhagor o staff yn gweithio ar y gwasanaeth Cymraeg. Newyddion ardderchog.

  • Rhodri ap Dyfrig 3:05 PM ar 9 May 2013 Dolen Barhaol
    Tagiau: bbc, , ,   

    #creadigidol – Dadansoddiad Mewnol-Allanol (SWOT) o’r Cyfryngau Cymraeg Digidol 

    Dwi yng nghynhadledd #creadigidol yng Nghaernarfon heddiw (ond mae ar y we ac yng Nghaerdydd hefyd). Dwi newydd gyflwyno ar y pwnc uchod felly meddwl baswn i’n postio dolenni i’r cyflwyniad yma.

    Mae wedi bod yn ddiwrnod diddorol iawn a dwi’n falch iawn o weld bod lot o’r pryderon oedd gen i yn y cyflwyniad wedi eu hateb neu’n dechrau cael eu hateb gan S4C. Dyddiau cyffrous yn sicr, a dwi’n siwr bydd lot o sdwff da’n dod allan dros y blynyddoedd nesaf.

    http://www.apdyfrig.com/wp-content/uploads/2013/05/SWOT-digidolcymraeg.docx

     
  • Carl Morris 11:47 PM ar 22 August 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: , bbc, Pobol Y Cwm, ,   

    Pobol y Cwm a digidol 

    Beth mae pobl yn meddwl o’r datganiad S4C heddiw? Dw i newydd sgwennu cofnod ar fy mlog, BBC + S4C + Ti == PYC.

     
  • Rhodri ap Dyfrig 9:00 AM ar 21 May 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: bbc, , ,   

    “A oes data?” “…data?!” 

    Am ryw reswm dwi wedi cael rhyw chwilen yn fy mhen am ddarllen barddoniaeth yn ddiweddar. Dwi rioed wedi o’r blaen, ond mae prinder amser a wedi arwain fi i ddechrau chwilota. Fy mhroblem i ydi, a dwi di cael yr un broblem gyda jazz o’r blaen, ydi bod darganfod beth dwi’n lecio chydig yn annodd. Mi allwn i holi Twitter am argymhellion, ond mae’n rhaid bod na ffyrdd gwell o wneud hynny, efallai gan ddefnyddio algorithmau.

    Ond wrth feddwl am hyn, nesh i feddwl oes na’r data ar gael i wneud rhedeg unrhyw algorithm yn werth chweil? Oes data gan Gwales efallai am bryniannau? Oes data gan S4C am Clic? Oes data gan Golwg360 am ddarllenwyr? Dwi’n amau taw na yw’r ateb gan nad oes gan yr un (heblaw falle Gwales?) systemau sydd yn tracio dewisiadau defnyddwyr.

    Nid yn unig byddai hyn o werth wrth feddwl am ba gynnwys sy’n gweithio, mae’n hollbwysig ar gyfer personoleiddio cynnwys. Mae data defnyddwyr yn rhan greiddiol o strategaeth Channel 4, a’r BBC trwy BBC ID.

    Gan nad oes neb wedi cymryd cam i’r cyfeiriad hwn eto, beth am gynnig syniad: be am gael rhyw fath o system defnyddwyr (fel OpenID efallai) sydd yn gallu cael ei osod fel dull mewngofnodi ar draws y we Gymraeg. Byddai wedyn ffordd o gael data meintiol mawr am ddefnyddwyr, a fyddai nid yn unig yn arf marchnata grymus (faint o bobol sydd ddim yn prynu deunydd Cymraeg am nad ydyn nhw wedi ffeindio’r peth ma nhw isio?), ond yn bwysicach yn arf ar gyfer hybu diwylliant drwy ffeindio ffyrdd newydd o gael pobol at be ma nhw isio.

    Be chi’n feddwl? Breuddwyd ffwl?

     
    • Nudd 10:59 AM ar 21 Mai 2012 Dolen Barhaol

      Rhodri,

      Rwy’n credu dy fod ti wedi rhoi dy fys ar real sanctaidd marchnata digidol! Y data hyn yw’r celloedd coch yng ngwaed Amazon, Yahoo, Google ac ati – h.y. ystadegau am dueddiadau ac arferion defnyddwyr sy’n caniatáu iddyn nhw ychwanegu gwerth at eu data ffeithiol drwy bersonoleiddio profiad y defnyddiwr ar un llaw, a thargedu hysbysebion atynt ar y llaw arall.

      Gymaint ag y byddwn i’n hoffi gweld dy syniad di’n casglu momentwm, rwy’n ofni fod hyd yn oed cwmnïau Cymru yn rhy fasnachol i fuddsoddi mewn systemau i gasglu’r data hyn ac yna ei rannu’n gyhoeddus.

    • Owain Schiavone 9:48 AM ar 22 Mai 2012 Dolen Barhaol

      Data ynglyn a defnyddwyr ti’n meddwl yn hytrach na gwybodaeth gyffredinol ynglyn a pha dudalennau mae pobl yn eu darllen ia (h.y. yng nghyd destun G360)?

      Fel mae’n digwydd rydan ni wedi bod yn sbio ar Open ID yn ddiweddar ac yn gobeithio ei gyflwyno fel rhan o gynllun ehangach (newyddion lleol a ballu).

    • Rhodri ap Dyfrig 12:38 AM ar 23 Mai 2012 Dolen Barhaol

      @Nudd faswn i ddim o reidrwydd isio i’r cwmniau ei rannu’n gyhoeddus – dim ond efo’i gilydd! Ella bod hynny r’un mor annodd 😉

      @Owain Ia, data ynglyn â defnyddwyr o’n i ar ei ol. Arferion darllen, gwylio, prynu yn gymysg efo data dyfnach demograffyddol. Falch bod chi’n ystyried rhyw fath o gyfrifon defnyddwyr. Mae S4C hefyd dwi’n meddwl. Fasa hi ddim yn braf gallu cael cyfrifon sydd yn gweithio ar draws G360, S4C a chyrff eraill Cymraeg sy’n derbyn nawdd cyhoeddus? Fasa’n broffidiol i chi gyd dwi’n meddwl.

    • Owain Schiavone 12:21 PM ar 23 Mai 2012 Dolen Barhaol

      Dwi’n meddwl mai Open ID neu debyg ydy’r cyfle gorau i gasglu’r math yma o wybodaeth – mae pobl yn fwy parod y rannu gwybodaeth bersonol ar gyfryngau fel Facebook a Twitter. Rydan ni hefyd yn edrych ar apps Open Graph Facebook i weld os ydy’n werth i ni ystyried mynd ar ol hyn.

    • Marc Thomas 8:24 PM ar 23 Mai 2012 Dolen Barhaol

      Mae gwefan Lleol.net wedi yn caniatau mewngofnodi drwy ddefnyddio Open ID. Efallai dylswn ni ychwanegu neges yn esbonio’r gwasanaeth yma. Fyddai’n braf cydweithio gyda gwefannau eraill er mwyn gwneud rhyw fath o hysbysebu’r rhwydwaith yma ar y cyd.

  • Carl Morris 12:07 PM ar 10 April 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: bbc, , ,   

    Adeiladu platfformau sydd yn hybu creadigrwydd gan @davidgauntlett 

    Dyma cofnod blog diddorol gan David Gauntlett gydag wyth egwyddor bwysig os wyt ti eisiau adeiladu/defnyddio platfform ar-lein i sbarduno creadigrwydd.

    http://www.digitaltransformations.org.uk/building-platforms-for-creativity-eight-principles/

    Daeth David Gauntlett i ambell i gyfarfod Fforwm Cyfryngau Newydd gyda ni llynedd. Mae fe’n awdur y llyfr Making Is Connecting.

     
  • Carl Morris 11:49 PM ar 6 March 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: bbc,   

    RIP BBC Cylchgrawn 

    Mae prinder o stwff diwylliannol ar y we Gymraeg fel y mae. Roedd BBC Cylchgrawn yn adran o ansawdd gydag amrywiaeth o stwff.

    Nawr mae BBC newydd lladd yr adran. Mae cyfrannwr yn dweud:

    Ers cyhoeddi’r lluniau llawen uchod, derbyniais air gan fy ngolygydd ar wefan BBC Cylchgrawn, Glyn Evans, yn diolch am fy nghyfraniad ac i fy hysbysu mai fy adolygiad o Hunky Dory fydd yr olaf i gael ei chyhoeddi, gan fod y gwybodusion wedi penderfynu yn dilyn y toriadau ariannol nad oes lle mwyach i BBC Cylchgrawn.

    Bydd rhyw fath o ddatganiad swyddogol yn neis, hyd yn oed rhywbeth sy’n cyfeirio at y ‘diffyg galw’ fel pob un arall. Oes cynllun i ddarparu mwy mewn adran arall?

    Ym mis Chwefror 2011 daeth BBC Chwaraeon i ben, fel newyddion rhyngwladol yn Gymraeg cyn hynny.

    Mewn gwirionedd roedden nhw tri yn enghreifftiau o adrannau BBC dan-y-cownter. Maen nhw yn rhedeg ar hen systemau ac yn dioddef o ddiffyg cariad. Er enghraifft ar hyn o bryd rwyt ti’n gallu clicio I rannu dy hoff erthyglau Cylchgrawn ar Digg, Newsvine a NowPublic tra bod blaenoriaethau eraill fel Newyddion Arabeg yn mwynhau triniaeth llawn ar blatfformau cyfoes fel YouTube.

    Pa mor wych fydd y wasanaeth pe tasen nhw yn rhoi mwy o gymorth a dolenni i adrannau Cymraeg?

    Gweler y cartwn yma o 1968. Plus ça change, plus c’est la même chose.

     
    • Rhys Wynne 8:54 AM ar 7 Mawrth 2012 Dolen Barhaol

      Ie, gwelais i hynna ar flog Lowri hefyd. Dw i wedi bod yn chwilio am ddatganiad hefyd. Mae’n adran gynhwysfawr iawn. Os mai diffyg galw ydy’r rheswm, sgwn i faint o defnydd sy’n cael ei wneud o dudalennau cyfatebol, sef Wales Arts ar wefan BBC Wales? Nid mod i eisiau gweld dirywiad yn y ddarpariaeth hynny chwaith, ond gweld mai ychydig iawn o sylwadau sy’n cael eu gadael ar y blogiau yno hefyd.

      Sylwais ar y golygiad yma ar erthygl un o’r papurau bro ar y Wicipedia yr wythnos yma, ble mae’r golygydd (di-enw) wedi gadael y sylw canlynol i esbonio’r golygiad:

      Lic (sic) wedi newid o bbc i facebook. Doedd bbc ddim yn diweddaru y dudalen

      Dw i’n cymryd bod y golygydd yr erthygl uchod yn rhywbeth i’w wneud gyda’r papur bro dan sylw. Sgwn i os ydyn nhw wedi bod yn gofyn i’r BBC ddiweddaru eu tudalennau nhw ar adran BBC Lleol i Mi ac wedi darparu’r cynnwys, a bod y BBC yn gwrthod gwneud?

    • Carl Morris 6:53 PM ar 11 Mawrth 2012 Dolen Barhaol

      BBC wedi cadarnhau y penderfyniad, does dim cynllun B eto chwaith: http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/67505-adran-arall-o-wefan-gymraeg-bbc-yn-mynd

c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel