S4C Clic yn darparu API o ddata rhaglenni

Wyddoch chi fod S4C Clic yn darparu API, ers sbel nawr? Mae’n cynnig ffordd hawdd o gael metadata am sioeau mewn fformat JSON. Dyma fanylion ar Hedyn ar sut i ddefnyddio’r API. Gadewch wybod os ydych chi’n creu unrhyw beth gyda fe, neu os oes gennych syniad. Er enghraifft mae’r bot Twitter newydd Clic Off… Parhau i ddarllen S4C Clic yn darparu API o ddata rhaglenni

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post Cofnodion wedi'u tagio , ,

Cwrw a thafarndai mwyaf poblogaidd Caerdydd (yn ôl Untappd)

Mae gwefan BarDiff yn dangos pob math o ystadegau am gwrw a yfir yng Nghaerydydd yn seiliedig ar ‘checkins’ ar Untappd. Mae’n cynnwys y cwrw unigol mwyaf poblogaidd (gweler y graff isod), y math o gwrw sy’n cael ei yfed, o ba fragdai, ym mha dafarndai ac ar ba adegau o’r dydd. Mae’r graff yn dangos y… Parhau i ddarllen Cwrw a thafarndai mwyaf poblogaidd Caerdydd (yn ôl Untappd)

Hacathon! Papurau Newydd Hanesyddol – Aberystwyth, mis Ionawr 2013

Dw i’n edrych ymlaen yn arw at y digwyddiad yma: Hacathon! Papurau Newydd Hanesyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru Penglais SY23 1BU Aberystwyth Dydd Gwener 18fed mis Ionawr 2013 09:30 i 19:00 Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi digido bron i filwn o dudalenni o bapurau newydd hanesyddol Cymru, i’w lawnsio ym mis Mawrth 2013. Dyma gyfle i… Parhau i ddarllen Hacathon! Papurau Newydd Hanesyddol – Aberystwyth, mis Ionawr 2013

Gofyn sut i roi’r hacio mewn Hacio’r Iaith

Roedd sgwrs am ddigwyddiadau hacio ar ebost gyda phobol Hacio’r Iaith heddiw. Rydyn ni’n chwilio am fformat sydd yn debyg i Hacio’r Iaith gydag elfen ymarferol. O’n i jyst eisiau rhannu fy meddyliau yma achos does dim rheswm pam dylen nhw fod yn breifat mewn ebost. Os wyt ti’n licio’r syniadau mae croeso i ti… Parhau i ddarllen Gofyn sut i roi’r hacio mewn Hacio’r Iaith

Directgov – API newydd ar gael, am eu cynnwys

Directgov unveils syndication API Fy hoff darn Reckon you can do a better job of presenting Directgov’s content, in terms of search or navigation? Or maybe you’d prefer a design that wasn’t quite so orange? – go ahead. Want to turn it into a big commentable document, letting the citizens improve the content themselves? –… Parhau i ddarllen Directgov – API newydd ar gael, am eu cynnwys

Cod post API

Ewch i’r tudalen openlylocal.com/areas/postcodes/DY_CÔD_POST_YMA am wybodaeth ddefnyddiol yn dy ardal. Defnyddiwch priflythyren neu lythrennau bach. Dim gofod. e.e. http://openlylocal.com/areas/postcodes/CF51QE (Chapter Caerdydd, lleoliad Hacio’r Iaith Bach mis yma) Ychwanegwch .xml neu .json am fersiwn XML/JSON. Peidiwch anghofio lledred a hydred. Mwynhewch.

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post Cofnodion wedi'u tagio , ,