Hacio’r Iaith 2019 – Sesiwn 2: Lleoleiddio Android ar ffonau symudol

Aled Powell yn esbonio sut mae’n newid ffonau Android i’r Gymraeg. Mae’n defnyddio system weithredu LineageOS. Mae 60% o’r gwaith cyfieithu wedi’i wneud (gallwch helpu drwy fynd i crowdin). Dangos sut mae LineageOS 15.1 yn edrych. Mae gan Aled amryw o ffonau sydd wedi’i llwytho gyda’r fersiwn Cymraeg i’w gwerthu. Bydd yn cynnal sesiwn demo… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2019 – Sesiwn 2: Lleoleiddio Android ar ffonau symudol

Orbot

Gyda’r holl sôn am NSA a GCHQ, efallai y byddwch am ystyried defnyddio Orbot a’i borwr Orweb os oes dyfais Android gyda chi: https://guardianproject.info/apps/orbot/ Ac, yn amserol iawn ar ôl cofnod Aled am borth ieithoedd Microsoft, efallai y byddwch am gyfrannu at ei gyfieithu i’r Gymraeg: https://www.transifex.com/projects/p/orbot/

Firefox Android Cymraeg

Mae Mozilla wedi bod yn edrych ar y dull gorau o ddosbarthu’r cyfieithiadau o Firefox Android sydd ganddynt ar Google Play. Mae’r ‘prif ieithioedd’ eisoes ganddynt ar gael. Mae’n edrych nawr fel eu bod yn barod i symud ymlaen gyda’r grŵp nesaf o ieithoedd. Hyd yma mae’r ieithoedd wrth gefn wedi bod ar gael ar… Parhau i ddarllen Firefox Android Cymraeg

Labordy dyfeisiau agored ym Mhen-y-Bont gyda @cover_up

Mae amrywiaeth eang o ddyfeisiau symudol. Os wyt ti’n creu aps symudol neu gwefannau ac eisiau profi dy feddalwedd ar ddyfeisiau gwahanol mae’r cwmni Cover-Up ym Mhen-y-Bont yn cynnig labordy gyda llyfrgell o dua 100 dyfais gwahanol. Hefyd maen nhw yn hapus i groesawi unrhyw un am ddim – i gyd sydd angen ydy cofrestru… Parhau i ddarllen Labordy dyfeisiau agored ym Mhen-y-Bont gyda @cover_up

Lansiad dau ap symudol hanfodol: bysellfwrdd Literatim ac Ap Geiriaduron

Literatim (Android) Yn ein pabell yn Steddfod Gen eleni cyflwynodd David Chan ei brosiect newydd, bysellfwrdd darogan Cymraeg ar Android. Mae fe wedi bod yn gweithio’n galed ar y meddalwedd fel menter annibynnol llawrydd. Roedd ambell i berson yn y pabell mis Awst yn dweud bod nhw yn fodlon symud o ffonau eraill i Android… Parhau i ddarllen Lansiad dau ap symudol hanfodol: bysellfwrdd Literatim ac Ap Geiriaduron

Replicant: adeiladu fersiwn o Android sydd yn hollol rydd

Dyma cyfweliad diddorol iawn am brosiect Replicant ar gyfer ffonau/tabledi gan gynnwys sgwrs am breifatrwydd/rheolaeth go iawn. http://www.techworld.com.au/article/417902/replicant_developer_interview_building_truly_free_android/? Maen nhw yn chwilio am bobol i gyfrannu. Mae modd cyfrannu ein cyfieithiadau Cymraeg o graidd Android i Replicant hefyd. Gyda llaw mae cyfle busnes yma i rywun sydd yn gallu gosod Android Cymraeg neu Replicant Cymraeg… Parhau i ddarllen Replicant: adeiladu fersiwn o Android sydd yn hollol rydd

Rhedeg Android ar Ubuntu (cofnod o Ubuntu Cymraeg)

Os wyt ti eisiau datblygu rhaglenni neu apps ar gyfer ffônau symudol neu liniaduron sy’n rhedeg system Android, neu eisiau gweld system Android ar waith, mae modd i ti lwytho Pecyn Datblygu Meddalwedd (SDK) Android ar Ubuntu. Wedi i ti osod yr SDK, bydd angen mynd ati i ychwanegu platfform: Android 2.3 (Gingerbread) yw’r un… Parhau i ddarllen Rhedeg Android ar Ubuntu (cofnod o Ubuntu Cymraeg)

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post Cofnodion wedi'u tagio ,

60 o apps symudol Cymraeg?

http://ap-webber.blogspot.com/2011/04/rhestr-llawn-o-apps-cymraeg-effallai.html Mae Marc Webber yn honni bod yna dros 60 o apps ar y platfformau iphone ac Android. Oes na rai sydd ddim ar y rhestr? Ond y cwestiwn pwysig – oes na lawer o apps o wir werth yno? Dwi’n defnyddio app Cyw bob dydd, a dwi wedi defnydio Dr. Cocos yn aml…ond beth… Parhau i ddarllen 60 o apps symudol Cymraeg?

cyfieithiad Android i’r Gymraeg

Ydy unrhyw un yn gweithio ar gyfieithiad Android? Siarada nawr! Os nad oes neb, dyn ni’n dechrau cyfieithu wythnos yma! Gyda llaw, gadawa sylw os ti eisiau cyfrannu i’r cyfieithiad, diolch.