Tagiwyd fel: addysg Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Gorwel Owen 1:14 PM ar 5 September 2017 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau: addysg, addysg agored,   

    Testunlyfrau agored a’r cynffon hir 

    Tro cyntaf i mi gyfrannu: gobeithio bod y pwnc yn berthnasol.

    Cefais fy ysbrydoli gan y cofnod blog yma gan Robin DeRosa sy’n disgrio’r broses o greu testunlyfr ar gyfer cwrs llenyddiaeth yr oedd yn ei ddysgu. Efallai bod yma syniadau sy’n berthnasol i’r cyd-destun Cymraeg, felly meddwl baswn i’n ei rannu. Mae enghreifftiau arbennig o destunlyfrau Cymraeg wedi ymddangos yn ddiweddar, wrth gwrs, ond pan dwi’n meddwl am glasuron fel ‘Cyflwyniad i gerddoriaeth John Cage’ a ‘Golwg ffeministaidd ar gerddoriaeth electroneg’ dwi’n teimlo mod i tuag at derfyn y gynffon hir.

    Trio osgoi ei myfyrwyr rhag prynu testunlyfr drud oedd bwriad DeRosa pan aeth ati i greu detholiad amgen o lenyddiaeth gynnar yr UDA.  Drwy gasglu testynnau perthnasol, gwahodd (a thalu) myfyrwyr i sgwennu cyflwyniadau i’r gwahanol destunau, a thrafod efo’i gilydd, fe grëwyd The Open Anthology of Earlier American Literature. Ond, fel mae hi’n dweud ‘the $85 dollars that I saved for each of my students seemed to be the least of what was exciting to me about the open anthology […] Boy, did I underestimate the power of the open textbook’ (DeRosa).

    Dydi’r llyfrau uchod am John Cage a cherddoriaeth electroneg ddim yn bodoli, gyda llaw, a dwi’m yn rhagweld nhw’n bodoli yn y dyfodol agos chwaith, ond efallai bod prosiect DeRosa yn cynnig syniadau ynglŷn â sut y gallant nhw fodoli. Ond, yn fwy pwysig, mae’r syniadau addysgol a ddaeth i’r golwg wrth greu’r llyfr, y broses o gyd-ddysgu a chyd-greu, yn hynod o gyffroes, dwi’n meddwl.

    Falch o dderbyn unrhyw sylwadau.

    (Debyg mai ‘gwerslyfr’ ydi’r term mwyaf cyffredin ar gyfer ‘textbook’ ond dydi’r syniad o wers ddim yn eistedd yn iawn i mi efo addysg agored. Felly, es i am ‘testunlyfr’ GPC.)

     
    • Carl Morris 1:52 PM ar 5 Medi 2017 Dolen Barhaol

      Diolch am godi hyn. Mae llawer iawn o botensial i addysg Gymraeg yma, ffurfiol ac anffurfiol.

      Mae hi’n wych bob tro rydyn ni’n gweld sefydliad yn rhyddhau adnoddau o dan drwydded Comin Creu BY-SA neu’r parth cyhoeddus. Mae hi’n lot haws ailgylchu ac ailddefnyddio wedyn, ac yn amlwg yn llai o straen na chynhyrchu pethau gwreiddiol neu gyfieithu trwy’r amser.

      Mae gan Wicipedia Cymraeg, Wiciddata, ayyb rôl i’w chwarae yma yn amlwg, fel llefydd i ffeindio cynnwys ond hefyd llefydd ar gyfer cydweithredu.

      Y cynffon hir sydd efallai yn cyfleu her yn y Gymraeg oherwydd y nifer cymharol is o gyfranwyr mewn unrhyw niche penodol. Ond dw i hefyd yn gweld lot o frwdfrydedd.

      Dw i’n credu yn gryf bod angen lot mwy o gydweithio a ‘chanoli’ er mwyn gwneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael ac osgoi gwastraffu amser ac ymdrechion.

      Dyna oedd rhai o’r egwyddorion tu ôl i Hedyn ar gyfer cydweithio ar god a chynhyrchu apiau/gwefannau (yn hytrach nag addysg fel y cyfryw, ond mae’r egwyddorion yn debyg iawn).

      Er enghraifft dyma dudalen WordPress.

      Dyma enghraifft sydd yn fwy perthnasol i addysg: rhestr gychwynnol o lyfrau Cymraeg sydd ar gael ar-lein, a thrwyddedau.

      Tybed os fyddi di a phobl eraill am gydweithio gyda fi ar Hedyn i ddechrau rhestru adnoddau, prosiectau, ayyb sy’n perthnasol i addysg, fel man cychwyn? Dw i newydd greu tudalen cychwynnol ar gyfer meddyliau/nodiadau ta waeth. 🙂

    • Gorwel Owen 3:30 PM ar 5 Medi 2017 Dolen Barhaol

      Diolch Carl,

      Mae ‘na lawer o ffiniau hyblyg yn fyma, does: rhwng addysg ffurfiol ac anffurfiol; rhwng addysgwyr a myfyrwyr; rhwng rhywbeth fel cofnod mewn Wicipedia a phennod mewn llyfr, beth bynnag yn union ydi ‘llyfr’ unwaith mae o mewn ffurf ddigidol. Mae’r ffiniau yma yn hyblyg yn ddiddorol ond mae hefyd yn gwneud hi’n anodd cadw rheolaeth hefyd. Un rheswm, dwi’n meddwl, pam fod prosiect DeRosa wedi bod mor llwyddiannus ydi bod i wedi ei leoli tu fewn i gyd-destun penodol iawn: o ran cynnwys ac o ran grŵp o gyfranwyr… math o ‘ganoli’?

      Ia, mae’r gynffon hir yn her, yn sicr, ond hefyd yn gyfle, dwi’n meddwl, a dwi’n cytuno am y brwdfrydedd. Ia, ‘cydweithio a “chanoli”’ mor bwysig, yn enwedig cael y cydbwysedd yn iawn. mae’r prosiect wedi’i fabwysiadu gan gorff mwy rŵan, sef Rebus Community. Bydd yn ddiddorol gweld os ydi symud i leoliad efo cymuned mwy, ac un mwy ffurfiol, yn golygu bod myfyrwyr ychydig yn fwy cyndyn i gymryd rhan.

      Diolch am y dolenni. Llawer o bethau diddorol iawn yma! Mi wnâi drio ychwanegu cwpl o bethau. Roeddwn i wedi bod yn meddwl sbel yn ôl am greu porth termau cerddoriaeth, neu, termau dyniaethau, a gweld rŵan bod gen ti adran ‘Termau technolegol/arbennig’.

  • Rhys Wynne 10:56 AM ar 15 February 2014 Dolen Barhaol
    Tagiau: addysg, , rhywdweithiau cymdeithasol   

    BLOG BYW – SESIWN 2: academia.edu 

    CarysMoseley yn trafod nodweddion academia.edu, rhywdwaith cymdeithasol ar gyfer academwyr.Rhyngwyneb yn Saesneg yn unig (a ddim yn anhebyg i Facebook – dilyn, postio ayyb), ond mae modd rhannu Paurau academaidd a gosod hysbyseb swyddi.

    Grwpiau am y Gymraeg arno, tua 60 aelod yn y grwp.

    Tudalennau ar gyfer sefydliadau hefyd ac mae hwythau yn gallu gosod cofnodolion arno (hint hint Coleg Cymraeg Cenedlaethol!)

    Potensial i ddarganfod arholwyr Cymraeg (o du allan i Gymru) mewn pynciau prin – prinder sy’n bygwth y gallu i gynnal arholoiadau yn Gymraeg mewn rhai pynciau. Ni ellir dibynnu

     
  • Rhys Wynne 1:22 PM ar 4 October 2013 Dolen Barhaol
    Tagiau: addysg, , , ,   

    Cynhadledd EduWiki 2013 (Wikipedia mewn Addysg): Caerdydd, 1 a 2 Tachwedd 

    Mae bellach modd cofrestru ar gyfer cynhadledd EduWiki 2013, sef ail gynhadledd Wikimedia UK i drafod prosiectau addysgol.

    Cynhelir y gynhadledd yng Nghaerdydd ar y 1 a 2 o Dachwedd a bydd yn trafod ystod eang o bynciau o Adnoddau Dysgu Agored, Rhaglen Addysgol Wikipedia, asesu ac achredu, tybiaeth feirniadol, llythrennedd digidol a llythrennedd Wikipedia.

    Mae tocynnau ar gyfer y gynhadledd gyfan yn costio £40 neu £20 am un diwrnod. Bydd rhai ysgoloriaethau ar gael.

    Mae’r amser (drafft) yn edrych fel hyn, ac fe allwch gyfrannu at drefnu’r digwyddiad yma.

    Byddai’n wych cael cynrychiolaeth Cymraeg yno, ac rwyf wedi ysgrifennu rhai myfyrdodau ar y posibiliadau o gydweithio rhwng sefydliadau addysg Gymraeg a’r Wicipedia Cymraeg er mwyn ehangu a gwella chynnwys Cymraeg ar-lein.

     
  • Rhodri ap Dyfrig 3:00 PM ar 19 January 2013 Dolen Barhaol
    Tagiau: addysg, , , cymorth, , , nudge theory, uchelgais, y we gymraeg   

    Sesiwn 2a : Gareth Morlais – Chwe uchelgais ar-lein i’r iaith Gymraeg 

    Wedi ei groesbostio o flog Gareth:

    1. Hidl iaith wrth bori a chwilio rhestri o lyfrau, elyfrau, cerddoriaeth, ayb mewn siopau ar-lein

    2. Y Gymraeg yn ‘iaith chwylio’

    3. Cynnig yr opsiwn o’r Gymraeg wrth fewnlwytho meddalwedd pan mae’r iaith ar gael (gweler traethawd Jeremy Evas ar Nudge Theory)

    4. Cynnig cymorth neu rhoi pwysau ar gwmniau pan nad oes mynediad i’r Gymraeg.

    5. Gwersi ac adnoddau codio drwy gyfrwng y Gymraeg.

    6. Mwy o wefannau Cymraeg.

    Nodiadau o’m cyflwyniad yn Hacio’r Iaith #haciaith 2013 http://haciaith.com/

    Beth hoffech chi ei weld?

     
  • Rhodri ap Dyfrig 10:24 PM ar 22 November 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: addysg, hwb,   

    ‘Hwb’ ar ei ffordd i addysg yng Nghymru 

    Chydig o newyddion gan y Llywodraeth am ddatblygiadau defnydd technolegau newydd ym myd addysg Cymru:

    Ym mis Mawrth 2012, cyhoeddwyd adroddiad y grŵp (Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Addysgu Digidol yn yr Ystafell Ddosbarth), ‘Canfod, gwneud, defnyddio, rhannu: dysgu yn y Gymru ddigidol’, a oedd yn cynnwys deg argymhelliad pwysig.

    Er mwyn sicrhau bod strategaeth TGCh integredig a chydlynol yn sail i ddysgu ac addysgu yng Nghymru, rydym yn cymryd nifer o gamau, gan gynnwys:

    • lansio rhith-amgylchedd dysgu i Gymru gyfan (Hwb) ym mis Rhagfyr 2012;
    • lansio sianel iTunes U i Gymru o’r enw Addysg Cymru ym mis Rhagfyr 2012;
    • cynnal Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol ym mis Mehefin 2013;
    • cyflwyno rhaglen datblygu proffesiynol, a ariennir yn ganolog, ar gyfer athrawon ac aelodau perthnasol eraill o staff, o fis Medi 2013.

    Gallwch chi weld manylion pellach am Hwb a’r Sianel iTunes ar y ddogfen PDF yma sydd ar gael o’r dudalen newyddion hon.

    Dyma’r disgrifiad byr o Hwb:

    Beth yw Hwb?

    Platfform dysgu ar-lein yw Hwb. Mae’n seiliedig ar dechnoleg Learning
    Possibilities, LP+, sydd wedi ennill gwobrau. Trwy ddefnyddio Hwb,
    bydd pob athro a dysgwr 3-19 yng Nghymru yn gallu manteisio ar
    gyfoeth o ddeunyddiau addysgu a dysgu sydd wedi’u caffael gan
    Lywodraeth Cymru.

    Prif fantais y wefan yw ei gallu i hwyluso cydweithio o fewn ysgolion,
    awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol a hefyd rhwng y
    sefydliadau hyn. Bydd deunyddiau a allai fod yn batrwm i eraill yn cael
    eu nodi a’u rhannu ar draws Cymru gyfan.

    Fasa’n ddiddorol gwybod beth mae addysgwyr haciaith yn meddwl o’r datblygiadau. Fyddan nhw’n gwneud gwahaniaeth i addysg yn eich ysgolion chi?

     
    • Leia 1:25 PM ar 23 Tachwedd 2012 Dolen Barhaol

      Dw i’n credu bydd yr un problem gyda Hwb, fel pob VLE – y problem o wneud e mwy na jest “lle i rhoi pethau…” Mae mwy na digon o ‘leyfeydd i rhoi pethau’ arlein yn barod (a mae nifer fawr am ddim ac yn agor!) Dw i’n disgwyl yn hyderus i weld tua 10% neu llai o athrawon yn defnyddio yr amrywiaeth llawn o offer rhyngweithiol ac yn cyfrannu cynnwys, gyda ‘falle 50% arall yn defnyddio fe fel “lle i gael pethau i gadw y plant yn brysur pan dyn ni’n yn yr ystafell TGCh” ac y gweddill yn anwybyddu ar ôl y Dydd Inset cyntaf.

      Hoffwn i bod yn anghywir, ond…

    • Rhys Wynne 3:57 PM ar 23 Tachwedd 2012 Dolen Barhaol

      Yr union beth y mae Leia newydd ddweud aeth drwy fy meddwl innau. Mond ychydig ddyddiau’n ôl y postiodd NIc Dafis am ei brofiad o, er ei bod yn ddyddiau cynnar, o drio cael cyfranwyr cynnwys at Y Bont, sef gwefan i diwtoriaid a myfyrwy Cymraeg i Oedolion – er, tydi’r ffaith mai Moodle yw’r platffrom ddim yn help yn yr achos hynny! Mae yna lot o stwff defnyddiol ar wefan GCaD Cymru, jyst bod o ddim yn hygyrch ofnadwy.

      O ddarllen y manylion ar y PDF, roedd yn ddiddorol darllen am Microsoft Office 365:

      Mae Hwb yn caniatáu i aelodau o staff a disgyblion ddefnyddio gwasanaethau sydd ar gael ar y rhyngrwyd fel Microsoft Office 365. Mae hynny’n darparu fersiynau ar-lein o OneNote a Lync a Word, PowerPoint ac Excel Microsoft Office, gan sicrhau bod cyfleusterau
      Microsoft Office ar gael i bob aelod o staff a phob disgybl p’un a yw’r cyfleusterau hynny wedi eu gosod ar ei gyfrifiadur ai peidio.

      Sy’n golygu na fydd rhaid i bawb fod efo’r fersiwn diweddaraf o MS adre ar eu cyfrifiadur neu ddim copi o gwbl hyd yn oed, sy’n amlwg yn beth da! Ond wedi darllen linell gyntaf erthygl Wikipedia am Microsoft 365, sef:

      Office 365 primarily denotes a set of subscription based software services that require monthly or periodic payment of fees to Microsoft Corporation

      Ydy hynny felly’n golygu y bydd rhaid i Lywodraeth y Cynulliad dalu am drwydded Microsoft dros pob disgybl ac athro drwy Gymru os ydynt ei ddenfyddio neu beidio sgwn i?

    • John Shimmin 9:47 AM ar 25 Tachwedd 2012 Dolen Barhaol

      System talu am ddefnyddwyr cydamserol, falle? Dyma’r ffordd dan ni’n prynu e-gyfnodolion o ran dewis. Ond, oni fydd y rheini’n defnyddio Office am ddim hefyd felly? Dwi’m yn credu bydd MS yn hapus efo hynny…

    • Rhodri ap Dyfrig 3:32 PM ar 26 Tachwedd 2012 Dolen Barhaol

      Ie, dwi’n edrych ar MOOCS (dyma farn Shirky ar MOOCS – h.y. ma’r academi’n ffycd!) a VLEs efo dos iach o amheuaeth. Fy unig brofiad ydi o ddefnyddio Blackboard sydd yn ryngwyneb mor ofnadwy o anhylaw a hyll ma’n gneud i fi feddwl os oes na unrhyw waith dylunio UI neu UX wedi mynd mewn iddo. Ta ydyn nhw’n trio dylunio nhw’n brofiadau boring, rhwystredig?

      Ar y cefndir hwn mae darlithoedd yn y cnawd am barhau i fod yn ffyrdd da o ddod â gwybodaeth a dysg yn fyw am beth amser eto.

    • Carl Morris 5:04 PM ar 26 Tachwedd 2012 Dolen Barhaol

      Er bod i’n cytuno taw darlithoedd (a seminarau, sesiynau eraill) yn ddull effeithiol mae angen ystyried pa mor gynaliadwy yw’r costau cyrsiau i fyrfyrwyr achos dyma beth sydd yn bwysig. Y her gyntaf i brifysgolion yw’r cyrsiau ymarferol/galwedigaethol lle does dim gymaint o werth yn yr enw. Os oes modd dysgu’r un gwybodaeth tu allan i’r brifysgol ac os oes cyflogwyr yn fodlon ystyried pobl heb radd pam fydd unrhyw un ar y cyrsiau galwedigaethol eisiau treulio gymaint o amser?

      Pan dw i’n gweld rhywbeth fel Udacity dw i eisiau gweld rhywbeth tebyg yn y Gymraeg er mwyn gwneud cymhariaeth deg. Oes cwrs llawn trwy gyfrwng y Gymraeg – unrhyw pwnc – ar y we unrhyw le, unrhyw beth sydd yn edrych fel un o’r cyrsiau ar Udacity?

    • Carl Morris 11:24 PM ar 28 Tachwedd 2012 Dolen Barhaol

      Mae Udacity yn cynnig cyfieithu torfol bellach.

    • Hywel 1:07 AM ar 29 Tachwedd 2012 Dolen Barhaol

      Rwyf wedi dilyn dau gwrs MOOC hyd yn hyn (a’u gorffen) drwy Coursera (https://www.coursera.org/) ac wedi edrych ar rai Udacity. O’r ddau gwrs a wnes gyda Coursera, roedd un (a ddarparwyd gan Stanford) yn wych, a’r llall (gan John Hopkins) yn eitha da. Roedd y ddau ohonynt yn well na llawer o gyrsiau eraill rwyf wedi eu dilyn yr oedd yn rhaid talu’n ddrud amdanynt. Er na ches gymhwyster swyddogol cydnabyddiedig, teimlaf yn sicr fy mod wedi ymelwa’n fawr o gwrs Stanford. Rwy’n ffan mawr o MOOCS felly. Gellwch ddilyn eich diddordebau, am ddim, ar adegau cyfleus i chi (ond mae angen fod yn hunan-ddisgybledig iawn i ddilyn cwrs i’w ben). Os yw’r cwrs yn anniddorol, gellwch roi’r gorau iddo’n ddi-gost.

      Gyda chyrsiau Udacity, does dim hyd yn oed rhaid i chi gofrestru ar-lein yn swyddogol. Gellwch weld y cwrs i gyd, gwylio’r fideos sydd o ddiddordeb, a cheisio’r profion hyd yn oed. Os yw’r cwrs yn hawdd i chi, gellwch rasio drwyddo heb gael eich dal yn ôl gan rywun arall; os yw’n anodd gellwch symud mor araf ag y dymunwch, heb ddal neb arall yn ôl. Ffantastig.

    • Rhodri ap Dyfrig 10:26 PM ar 3 Rhagfyr 2012 Dolen Barhaol

      Bydd MOOCS yn siwtio rhi mathau o wybdoaeth yn well nac eraill yn sicr. Bosib taw adrannau cyfrifiadureg fydd yn cael eu heffeithio waethaf i ddechrau – ond dwi’n enghraifft o berson sydd angen amgylchedd addysg i weithio ar fy ngorau. Mae’n rhoi disgyblaeth well gan fod elfen o gyd-ddysgu a dysgu oddi wrth eich gilydd. Faint o hyn allwch chi gael o MOOCS sgwn i? Wn i ddim chos dwi heb wneud un (ond dwi wedi rhoi’r gorau i ddysgu Javascripy ar Code Academy – sdim extrinsic motivation gen i, a dim digon o intrinsic!).

      Dyma ongl arall ar MOOCS o flog O’Reilly: http://radar.oreilly.com/2012/12/the-mooc-movement-is-not-an-indicator-of-educational-evolution.html

      Cwestiynu ai MOOCS sydd yn arloesi mewn ffurfiau newydd o addysgu neu eraill?

    • David 4:07 PM ar 28 Ionawr 2013 Dolen Barhaol

      Dydy o ddim yn ymddangos bydd modd newid iaith y rhyngwyneb. “Cwestiynau Cyffredin Hwb”, tudalen 33:

      “A fydd Microsoft Office 365 ar gael yn Gymraeg?

      Bydd. Bydd angen i ysgolion benderfynu ar yr adeg darparu pa iaith a ddefnyddir ar gyfer Microsoft Office 365. Nid oes swyddogaeth togl ar hyn o bryd ym Microsoft Office 365, felly unwaith y bydd defnyddiwr yn dewis iaith benodol, ni ellir addasu’r dewis hwn.”

      Mae hynny’n “show-stopper” mewn gwlad ddwyieithog. Bydd Saesneg yn cael ei dewis “rhag ofn”. Rhag ofn bydd angen help technegydd di-Gymraeg. Rhag ofn bydd angen gweithio gyda person di-Gymraeg. Rhag ofn bydd rhyw derm technegol anghyfarwydd yn y fersiwn Cymraeg … ayb.

      Dolen:

      https://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?A3=ind1211&L=WALES-LTF&E=base64&P=711474&B=–_005_0219E08D3E5AD34F915466470BC857532337C585D4exchangeserve_&T=application%2Foctet-stream;%20name=%22Welsh%20Government%20Hwb%20FAQs%20November%202012%20Welsh%20Version.pdf%22&N=Welsh%20Government%20Hwb%20FAQs%20November%202012%20Welsh%20Version.pdf&attachment=q&XSS=3

    • Carl Morris 11:54 PM ar 29 Ionawr 2013 Dolen Barhaol

      Cytuno. Pa mor anodd yw ‘newid iaith’ fel nodwedd meddalwedd erbyn hyn?!

  • Carl Morris 4:23 PM ar 6 September 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: addysg, , , , , , ,   

    Raspberry Pi: gynhyrchwyd yng Nghymru 

    Mae’r sefydliad nid-ar-elw tu ôl Raspberry Pi wedi datgan heddiw bod nhw wedi comisiynu’r ffatri Sony ym Mhencoed i gynhyrchu cyfrifiaduron Raspberry Pi yna. Mae’r stori ar BBC Newyddion a Wales Online hefyd.

    Mae’n siwr fydd mwy o lwyddiant na chyfrifiaduron eraill y gynhyrchwyd yng Nghymru fel y Sam Coupé a’r Dragon 32. Mae sawl cyfle i ddefnyddio’r ddyfais mewn ysgolion a cholegau – ac yn y Gymraeg. Bydd busnesau yn manteisio ar yr ‘ecosystem’ posib o gwmpas y ddyfais, yn bendant. Pwy fydd y Red Hat o’r Raspberry Pi? Efallai rhywun yng Nghymru…

    Rydyn ni wedi siarad am y Raspberry Pi yma o’r blaen. Gwylia’r fideo isod (o fis Mai eleni) os dwyt ti ddim yn gyfarwydd ar y ddyfais.

     
  • Rhys Wynne 12:13 PM ar 16 August 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: addysg, Lego, Prifysgol Glyndŵr, Techniquest   

    Arbenigedd cyfrifiadurol Prifysgol Glyndŵr i lunio cenhedlaeth newydd o raglenwyr 

    Dyma stori o adran newyddion gwefan Prifysgol Glyndŵr:

    Bydd gwyddonwyr cyfrifiadurol o Brifysgol Glyndŵr yn dysgu rhaglennu cyfrifiadurol i ddisgyblion o saith ysgol yng ngogledd Cymru ar ôl ennill gwobr addysg o fri. 

    Mae’r brifysgol yn un o ddim ond 31 corff yn y DU, a’r unig un yng Nghymru, i dderbyn Bwrsari Addysg gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS).

    Eleni fe ymgeisiodd dros 200 o sefydliadau addysg am un o’r bwrsarïau, a lansiwyd gan y BCS i nodi canmlwyddiant genedigaeth Alan Turing, un o sefydlwyr cyfrifiadureg.

    Bydd y wobr, sy’n werth £1000, yn ariannu rhaglen allanol a fydd yn gweld ysgolheigion o’r brifysgol yn ymweld ag ysgolion yn Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint mewn partneriaeth â Techniquest Glyndŵr.

    Gan ddefnyddio robotiaid Lego o Techniquest, bydd disgyblion yn cael eu dysgu am hanfodion gorchmynion cyfrifiadol ac yn gweld sut mae codau cyfrifiaduron yn effeithio’r modd y mae robotiaid yn gweithredu a symud.

    Yna gosodir her i’r disgyblion dros hyn a hyn o wythnosau, gyda’r cyfle i ddiweddaru eu gwaith a dilyn eu cynnydd trwy wefan a fydd yn cydfynd â’r prosiect.

    Meddai’r Athro Vic Grout, arweinydd academaidd ar gyfer cyfrifiadura ym Mhrifysgol Glyndŵr: “Mae gwobrau gan y BCS yn eithriadol o anodd i’w cael gan fod y cystadlu mor ffyrnig, felly mae hyn yn newyddion ardderchog i’r brifysgol.”

    Bydd y prosiect yn cydfynd â rôl Prifysgol Glyndŵr fel canolfan gogledd Gymru ar gyfer Cyfrifiadura mewn Ysgolion, cynllun wedi’i gefnogi gan y BCS gyda’r nod o hyrwyddo dysgu cyfrifiadureg mewn ysgolion.

    Yn ddiweddar, cyhoeddodd yr ysgrifennydd addysg Michael Gove archwiliad radical o’r cwricwlwm cyfrifiadura mewn ysgolion, gyda phwyslais cryfach ar gyfrifiadureg yn hytrach na thechnoleg gwybodaeth.

    Ychwanegodd yr Athro Grout: “Am yr 20 mlynedd diwethaf nid ydym wedi bod yn dysgu cyfrifiadureg iawn mewn ysgolion ac mae wedi bod yn drychinebus. Mae’r DU ar ôl gweddill y byd yn hyn o beth. Yn awr ein bod yn gweithio tuag at ddysgu rhaglennu a sgiliau cyfrifiadura allweddol eraill ar lefel TGAU, bydd y diwydiant i gyd yn elwa.

    “Bydd gan ddisgyblion sgiliau uwch yn lefel-A hefyd, ac yna, pan fyddant yn dod atom ni, byddwn yn gallu dysgu sgiliau lefel uwch eto – cynhyrchu graddedigion profiadol â’r cymwysterau cywir, ac yn barod ar gyfer y gweithle.”

     

     
  • Rhys Wynne 2:58 PM ar 9 August 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: addysg, , Coleg Llandrillo, , , gweithdy, , Ysgol Botwnnog, Ysgol Glan y Môr   

    Myfyrwyr Smart Pen Llŷn a gweithdai app #steddfod2012 

    Dyma stori wedi ei chymryd o adran newyddion gwefan Coleg Llandrillo:

    Myfyrwyr Smart

    Yn ddiweddar, treuliodd grŵp o ddisgyblion blwyddyn naw Ysgol Glan y Môr ac Ysgol Botwnnog ddiwrnod ar gampws Coleg Meirion- Dwyfor ym Mhwllheli yn cymryd rhan mewn gweithdy technoleg unigryw.

    Cafodd y myfyrwyr ddysgu am hanfodion creu apiau ar gyfer ffonau a thabledi smart, a chawsant roi cynnig ar greu rhai eu hunain.

    Dywedodd Eifion Owen, Pennaeth Astudiaethau Galwedigaethol ym Mhwllheli:

    “Roedd cynnal gweithdy apiau yn ffordd ryngweithiol o gyflwyno un yrfa bosibl yn y sector technoleg gwybodaeth i ddisgyblion ysgol. Yn sgil y datblygiadau parhaus a welir mewn ffonau a thabledi smart, roedd yn rhaid i’r diwydiant addasu ac ymateb. Mae Cyfrifiadura a Thechnoleg Gwybodaeth yn ddiwydiant cyffrous i weithio ynddo, ac mae’r newidiadau a’r datblygiadau newydd yn ei wneud yn faes hynod ddiddorol o safbwynt gyrfa. Hoffem ddiolch i’r cynllun Ymgyrraedd yn Ehangach am y cymorth ariannol i gynnal y gweithdy ac am y cyfle i roi profiad newydd i’r disgyblion ysgol.”

    Mae’n dda clywed bod cyfleoedd fel hyn yn cael eu cynnig i ddisgyblion ysgol a myfyrwyr addysg bellach yng Nghymru. Byddai’n wych cael gwybod beth oedd ffrwyth y gweithdy.

    Dyma gyfle hefyd i mi roi plyg i’r gweithdy creu app sy’n cael ei gynnal bore fory (Dydd Gwener 10fed o Awst) ym mhabell Cefnlen ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym mro Morgannwg. Bydd gweithdy gan Mei Gwilym (manylion y gweithdy yma) ac hefyd cyflwyniad gan David Chan am yr apiau ffôn symudol sy wrthi’n eu datblygu gan Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor

     
  • Bryn Salisbury 10:48 AM ar 25 May 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: addysg, , , , , , ,   

    [Sut?] GMail yn y Gymraeg 

    Fideo bach i ddangos sut mae gosod GMail i fod yn y Gymraeg!

     
    • Aled 12:51 PM ar 25 Mai 2012 Dolen Barhaol

      A dim ond “Search, Lluniau, Cyfieithu, Blogger” yn ymddangos ar ben y sgrin (gan golli YouTube, Calendr, Mapiau, Dogfennau, etc.)… tybed sut i gael y rheiny yn ôl…

  • Carl Morris 3:25 PM ar 1 May 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: addysg, , , Gwerddon, PDF, Skeuomorph   

    Gwerddon: cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

    Mae rhywun yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi gofyn i fi pasio’r neges isod ymlaen:

    Ron i’n gweld dy fod yn cymell pob academydd i gael gwefan fel Bobi Jones ac felly roeddwn yn meddwl efallai y byddai gennyt ddiddordeb yn http://www.gwerddon.org sef cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol?

    ‘Da ni’n lawnsio gwefan hollol newydd sy’n defnyddio CMS Cymraeg cwmni Terminal 4 yn yr Eisteddfod ac mae’r lawnsiad ar Ddydd Mawrth, y 7fed o Awst ym Mhabell y Coleg Cymraeg am 11.00.

    O hyn allan, yn lle ymddangos ar ffurf html, bydd erthyglau’n ymddangos mewn PDF troi-tudalen (flipping pages) ac hefyd ar ffurf ePub…mae’r penderfyniad terfynol ar hyn eto i’w wneud a dim fi (wele’r Ôl-nodyn isod) fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol!

    Bydd diwyg ac arddull y wefan newydd yn dipyn gwell (wel yn fy marn cwbl oddrychol J).

    Byddwn hefyd yn lawnsio Rhifyn dwbl (Rhifyn 10 o Gwerddon) yn yr Eisteddfod. Mae croeso i ti ddod ac i ti sôn wrth eraill am y lawnsiad!

    Os wyt ti eisiau rhagor o fanylion e-bostia gwybodaeth@gwerddon.org

    Hmm. Ydy PDF troi-tudalen ac ePub yn well na HTML? Gawn ni weld… Ym mhersonol dw i ddim yn deall y cysyniad o ‘rhifynau’ ar we chwaith. Mae troi tudalennau a rhifynau yn edrych fel ymdrech i symud terfynau y byd corfforol i’r we sydd yn fformat gwahanol. (Beth yw ‘skeuomorph’ yn Gymraeg?)

    Gyda llaw dyma fy nghofnod blog o 2011 am wefan Bobi Jones.

     
    • Rhys 9:36 PM ar 1 Mai 2012 Dolen Barhaol

      Mae yna stwff rili da ar y wefan, a dw i ddim yn gweld beth sy’n bod ar y diwyg. Dw i’n hoffi fel mae modd clicio ar broffeil awdur y erthygl a gweld pob erthygl arall mae o neu hi wedi eu cyfranu. Unif wendid wela i ydy nod oess RSS i hysbysu am erthyglau newydd. Byddai’r gallu i adael sylw yn braf, ond deallaf na fasai’n flaenoriaeth na falle’n addas.

      O hyn allan, yn lle ymddangos ar ffurf html, bydd erthyglau’n ymddangos mewn PDF troi-tudalen

      Rhaid bod nhw’n tynnu dy goes di – ar Ebrill y 1af dderbyniaist i’r e-bost? Fydd yna URL’s unigryw wedyn ar erthyglau penodol sgwn i? Os ddim, fydd dim modd i bobl (megis blogwyr neu newyddiadurwyr Golwg360) roi dolenni o gofnodion blog/erthygl newyddion at erthygl penodol ar Gwerddon na fydd?

    • Rhys 4:45 PM ar 5 Mawrth 2013 Dolen Barhaol

      Mae’r FlipBook yn horrible, bydd rhaid lawrlwytho’r PDF rwan os oes eisiau darllen y gwaith

      Fydd yna URL’s unigryw wedyn ar erthyglau penodol sgwn i?

      I ateb cwestiwn fy hun, na.

      Hefyd, biti na drafferthwyd creu ailgyfeiriadau at yr hen rifynnau, er mai mond naw ohonynt oedd
      http://www.gwerddon.org/9_llais_y_dysgwr-176.aspx (sydd oedd wedi cael dolen ato o sawl gwefan)

    • Rhodri ap Dyfrig 11:32 PM ar 5 Mawrth 2013 Dolen Barhaol

      Newydd gael cip a rhaid i fi gytuno fy mod yn ffeindio meddalwedd cylchgrawn fel Flipbook yn ofnadwy ar gyfer darllen arlein. Pa mor hygyrch ydi hyn mewn gwirionedd? Mae’n debyg fod y dull ‘fflipio’ yn gweithio’n weddol drwy lywio gyda sgrin gyffwrdd, ond mae llywio tudalen fel hyn gyda llygoden neu trackpad yn boen.

      Hefyd, mae’n gwestiwn a ydi’r fformat yn gwneud dyfynnu’n fwy anghyfleus na HTML? Oni fyddai’n dda i geisio cael dolenni i gyfeirio at erthyglau, neu well fyth, allu cyfeirio at rannau o erthyglau er mwyn rhoi’r annogaeth mwya ar gyfer eu trafodaeth ehangach. Mae diffyg URL unigryw yn gwneud dyfynnu ar-lein a mewn erthyglau sydd efo dolenni byw yn llai uniongyrchol yn sicr.

      Beth yw goblygiadau’r newid hwn ar gyfer peiriannau chwilio? Ydi’r deunydd yn cael ei indecsio (mynegeio?!) gan Google yn y ffordd orau? Dwi’n gwybod bod tags h1, h2 a strwythr taclsu HTML yn helpu Google i wneud synnwyr o dudalennau er mwyn eu rancio’n well dydi. Arbenigwr SEO nid wyf cofiwch…

      Mae llawer iawn o gyfnodolion arlein yn cynnig dau opsiwn: HTML a pdf. Wrth bori mi a’i am y fersiwn HTML, ar gyfer erthygl dwi am fynd nol ato dro ar ol tro, mi a’i am y pdf.

      Dwi’n falch iawn bod cyfnodolyn Cymraeg ar gael arlein, a dwi ddim isio swnio fel gor-gwynwr achos fel na ma ymateb fel hyn am swnio ma’n debyg, ond trio cynnig sylwebaeth adeiladol er mwyn gwella’r defnydd ohono ydw i yn y bôn.

      Ond dwi dal yn casau flipbooks/issuu!

    • Carl Morris 11:40 PM ar 5 Mawrth 2013 Dolen Barhaol

      Yn fy mhrofiad i mae sefydliadau yn bostio ffeiliau PDF fel sgil gynnyrch o broses print yn hytrach nag ymdrech difrifol i greu pethau sydd yn addas ar y we.

    • Rhys 12:10 AM ar 26 Awst 2013 Dolen Barhaol

      Er gwybodaeth, dw i newydd ddarganfod bod modd darllen pob rhifyn drwy ferswin HTML cyffredin (neu ‘basic’). Mae hyn yn ei wneud yn lot haws i’w ddarllen a’i gyrchu yn fy marn.

      Mae hefyd modd rhoi dolen at dudalennau unigryw o leiaf.

      Darganfyddais hyn wrth i rhywun osod dolen ar Wicipedia, ac fel y gwelwch, mae dolen ar y ‘Full version’ sef y flipbook yno, ond hyd y gwela i does dim dolen amlwg at y fersiwn HTML o’r fersiwn flipbook.

    • Mari 12:35 PM ar 22 Gorffennaf 2015 Dolen Barhaol

      Helo Rhys, Carl a Rhodri

      Dw i’n gweithio ar Gwerddon ac mae’ch sylwadau uchod yn ddefnyddiol dros ben. ‘Dan ni’n ystyried ailwampio diwyg y PDF dros y misoedd nesaf, ac mae angen i ni benderfynu beth i’w wneud gyda’r HTML. Os oes gennych chi amser/mynedd, beth ydy’ch barn ar y canlynol, tybed?

      1. Oes angen fersiwn HTML o’r erthyglau? Pam?
      2. Os oes, a chan gofio mai adnoddau go gyfyng sydd gan Gwerddon, pa ffurf HTML fyddai’n gweithio orau?

      ‘Dyn ni ddim am stopio defnyddio PDF am sawl rheswm, ond mae ‘na le i ystyried beth ‘dyn ni’n drio’i gyflawni (os unrhywbeth!) efo HTML.

      Mawr werthfawrogi unrhyw farn neu adborth pellach! Diolch!

      Hwyl
      Mari

    • Carl Morris 12:38 PM ar 23 Gorffennaf 2015 Dolen Barhaol

      Mari

      1. HTML yw’r fformat mae gwefannau yn defnyddio o Gynulliad Cymru i Lyfrgell Genedlaethol i’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r safonau tu ôl i HTML yn agored a chyhoeddus. Mae lot mwy o feddalwedd yn gallu darllen HTML. Mae modd darparu tudalen HTML yn ogystal â ffeiliau eraill er mwyn cynnig dyluniad ymatebol sy’n addasu ei hun i fathau gwahanol o ddyfais fel ffonau, cyfrifiaduron ayyb.

      Mae fformat HTML yn eiddo i bawb, does ‘na ddim cwmni sy’n berchyn arno fe. Ond mae PDF yn eiddo i gwmni o’r enw Adobe Systems Incorporated.

      2. Bydd angen i chi fod yn unol ag ymarfer da yn y maes gwefannau. Dylech chi ofyn i dylunydd proffesiynol am faterion cysodi/gweledol. Mae hi’n haws gwneud HTML yn hygyrch i bobl gydag anableddau megis pobl dall na fformat PDF.

      Dw i’n gobeithio bod hyn i gyd o gymorth.

    • Mari 5:01 PM ar 23 Gorffennaf 2015 Dolen Barhaol

      Help mawr Carl – digon i gnoi cil arno! Diolch yn fawr am yr arweiniad.

c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel