Diweddariadau Gareth Morlais Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Gareth Morlais 3:03 PM ar 13 September 2017 Dolen Barhaol | Ateb  

    Hoff adnodau digidol tiwtoriaid #DysguCymraeg2017 

    Mewn gweithdy yng Nghynhadledd Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion https://dysgucymraeg.cymru/ yng Nghaerdydd yn yr haf, dyma oedd dewisiadau technoleg fwyaf handi’r tiwtoriaid.
    Mae’r rhif ar ddiwedd pob lein yn dangos faint o bleidleisiau (dotiau coch) cafodd pob adnodd:

    Duolingo – ap/gwefan – 33
    Geiriaduron – gwefan – ap – 30
    SSIW – ap/gwefan – 30
    Quizlet – ap – 17
    Cysgair – meddalwedd – 16
    S4C – gwefan – 16
    YouTube – ap/gwefan – 16
    BBC Cymru Fyw (a vocab) – ap – 15
    Ebost – meddalwedd – 12
    Ap Geiriaduron – ap – 11
    Chromebook – teclyn – 10
    Laptop – teclyn – 10
    Cymru Fyw (a Vocab) – gwefan – 9
    Facebook – ap /gwefan – 9
    Ffonau clyfar – teclyn – 9
    Moodle – meddalwedd – ap – 8
    Radio Cymru – gwefan – 8
    Ap Mynediad – ap – 7
    Blackboard – meddalwedd – 7
    Dal Ati – ap – 7
    Learn Cymraeg Gogledd Canolradd, Mynediad, Sylfaen – ap – 7
    Ap Treiglo – ap – 6
    Big Welsh Challenge – gwefan – 6
    Twitter – gwefan – ap – 6
    Whatsapp – ap – 6
    Skype – meddalwedd – 5
    Ap Sylfaen – ap – 4
    Byrddau gwyn rhyngweithiol – meddalwedd – 4
    Camera digidol – teclyn – 4
    Clic Clonc – gwefan – 4
    Golwg 360 – gwefan – ap – 4
    Google Classroom – meddalwedd – 4
    Hwb – gwefan – 4
    Nearpod – meddalwedd – 4
    Welsh With Us Morgannwg – gwefan – 4
    Y Bont – gwefan – 4
    Ap Gofal – ap – 3
    CorCenCC – gwefan – 3
    grwpiau sgyrsio – meddalwedd – 3
    iTunes U – meddalwedd – 3
    Meddalwedd adnabod llais – meddalwedd – 3
    Memrise – gwefan – 3
    Audacity – meddalwedd – 2
    CBAC Gloywi’r Iaith – gwefan – 2
    Eisteddfod – ap – 2
    Hwyl ar Holi – gwefan – 2
    iPads – teclyn – 2
    Lecturecapture – meddalwedd – 2
    Magi Ann – ap – 2
    Mentrau Iaith – gwefan – 2
    CBAC Mynediad a Sylfaen – ap – 2
    Telesgop – gwefan – 2
    ToBach – meddalwedd – 2
    Uchelseinydd – meddalwedd – 2
    Wlpan ar y We – gwefan – 2
    Yr Urdd – ap – 2
    Adobe – meddalwedd – 1
    Ap Cyw – ap – 1
    Ap Sglein – ap – 1
    Ap Tywydd – ap – 1
    Apiau Amgueddfeydd – ap – 1
    Apiau gemau addysgiadol – ap – 1
    Barn – gwefan – 1
    Canolfan Bedwyr – gwefan – 1
    Canolradd – ap – 1
    CiT – ap – 1
    Clecs – ap – 1
    Clwb Malu Cachu – gwefan – 1
    Colin & Cumberland – gwefan – 1
    Cyw – gwefan – 1
    Google Drive – meddalwedd – 1
    Google Translate – gwefan – 1
    Gwefan.org – gwefan – 1
    Gweiadur – gwefan – 1
    Hedyn – gwefan – 1
    Hwyangerddi – gwefan – 1
    Ivona – gwefan – 1
    Kahoot – ap – 1
    Llwybr yr Arfordir – ap – 1
    Llyfrgell Genedlaethol Cymru – gwefan – 1
    Microsoft Office – meddalwedd – 1
    Mwnci Bach – ap – 1
    Papurau Bro – gwefan – 1
    Powerpoint – meddalwedd – 1
    Reddit – gwefan – 1
    Spotify – gwefan – 1
    Taflunwyr – teclyn – 1
    Termiadur – gwefan – 1
    Wicipedia Cymraeg – gwefan – 1
    Y Banc – gwefan – 1
    Y Cymro – gwefan – 1
    Y Ganolfan Dysgu Cymraeg – gwefan – 1
    Y Tiwtor – gwefan – 1

    Cawsom drafodaeth am ba adnoddau sydd angen ac, wrth ateb y cwestiwn “Beth sydd ar goll?”, daeth yr awgrymiadau hyn:

    • Android Cymraeg
    • Gwirydd sillafu Cymraeg i Gmail ar Chromebook – mae llawer o diwtoriaid yn defnyddio Chromebooks
    • Rhyngwyneb Cymraeg i ap Facebook (mae yna un i wefan Facebook)
    • Mwy o adnoddau Cymraeg i blant gydag aspergers / awtistiaeth
    • Mwy o isdeitlau i ddysgwyr ar raglenni S4C
    • Gosod Windows yn Gymraeg mewn canolfannau cyhoeddus (ysgolion, canolfannau cymunedol, ayb)
     
  • Gareth Morlais 2:46 PM ar 13 July 2016 Dolen Barhaol  

    Caerdydd Creadigol: Dangos a Dweud. 18/07/16 Hen Lyfrgell Caerdydd 

    Mae rhwydwaith creadigrwydd Prifysgol Caerdydd – Caerdydd Creadigol – yn cynnal noson i ddangos prosiectau Cymraeg yn yr Hen Lyfrgell, Caerdydd, 18:30 – 20:00 ar y 18fed o Orffennaf 2016.  Dyma’r arlwy:

    Huw Marshall  – Awr Cymru

    Cai Morgan – PUMP

    Daf Prys – FIDEO8

    caerdydd creadigol

    Dyma’r manylion o wefan Caerdydd Creadigol:

    “Mae ‘Dangos a Dweud’ Caerdydd Creadigol yn ddigwyddiad chwarterol sy’n rhoi platform i amrywiaeth gyffrous o bobl a phrosiectau creadigol y ddinas. Mae’n dod â chymuned greadigol Caerdydd at ei gilydd o dalent sefydledig i dalent newydd, i glywed am eu huchelgeisiau a’u prosiectau cyfredol.

    “Bydd pob un o’r siaradwyr yn rhoi cyflwyniad brys o 10 munud ac yn dod â gwrthrych gyda nhw. Gallai’r gwrthrych fod yn ffynhonnell eu hysbrydoliaeth, offeryn gwaith neu rywbeth sy’n eu cysuro. Bydd y siaradwyr yn rhannu eu gwaith ac yn esbonio pwysigrwydd eu gwrthrych.

    “Cyflwynir y digwyddiad hwn yn Gymraeg a bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.”

    Tocynnau am ddim o fan hyn.

     
  • Gareth Morlais 1:49 PM ar 20 November 2015 Dolen Barhaol  

    Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes am gyflogi Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol 

    Dwi’n postio’r swydd yma ar ran Dawn Knight, CorCenCC. Y dyddiad cau yw 24/11/15

    ‘CorCenCC – Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes: Dull cymunedol o adeiladu corpws ieithyddol’
    corcencc
    Gwahoddir ceisiadau ar gyfer Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol i ymuno â phrosiect rhyngddisgyblaethol ac aml-sefydliadol fydd yn creu corpws ffynhonnell agored o Gymraeg cyfoes ar raddfa eang (CorCenCC). Nod y prosiect yw ailddiffinio cwmpas, dyluniad a seilwaith methodoleg datblygu corpws, yn ogystal â chreu adnodd Cymraeg o bwys i’w ddefnyddio mewn lleoliadau cymunedol, masnachol, addysgol a llywodraethol.

    Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gefndir mewn ieithyddiaeth gyfrifiadurol, ieithyddiaeth corpws, rhaglennu a/neu ddatblygu meddalwedd. Mae gallu cydweithio yn elfen allweddol o’r rôl hon; bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda thimau o wyddonwyr cyfrifiadurol ac ieithyddion cymhwysol. Mae sgiliau cyfathrebu rhagorol a gallu bodloni terfynau amser yn hanfodol, ac mae gwybodaeth am y Gymraeg yn ddymunol. Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo i ddatblygu set tagiau ac offer codio, yn ogystal â llunio rhaglen gwybodaeth dorfol a meddalwedd corpws digidol. Mae arbenigedd technegol perthnasol yn hanfodol, a byddai profiad o ddadansoddi data meintiol a chyfrifiadurol â meddalwedd mynegeiriau yn fanteisiol.

    Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) sy’n ariannu’r prosiect hwn sy’n para 3½ mlynedd. Dawn Knight, o Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu Prifysgol Caerdydd, sy’n ei arwain. Mae tîm y prosiect academaidd hefyd yn cynnwys Tess Fitzpatrick, Irena Spasic a Jeremy Evas (Prifysgol Caerdydd); Steve Morris a Mark Stonelake (Abertawe); Paul Rayson (Prifysgol Lancaster) ac Enlli Thomas (Prifysgol Bangor).

    Bydd y swydd hon ym Mhrifysgol Caerdydd a bydd yn amser llawn am gyfnod sefydlog o 3½ mlynedd. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau ei swydd ar 1 Mawrth 2016 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny. Cynhelir y cyfweliadau ar 7 Rhagfyr 2015.

    Gellir dod o hyd i fanylion ymgeisio am y swydd hon ar http://www.cardiff.ac.uk/jobs/ rhwng 26/10/15 a 24/11/15. Cyfeirnod y swydd hon yw 4001BR.
    Os oes gennych ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â Dr Dawn Knight (KnightD5 MALWEN caerdydd.ac.uk).

     
  • Gareth Morlais 12:21 PM ar 27 November 2014 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , ,   

    Ar agor: Cynllun Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg 2015-16 

    Llun o Raspberry Pi gan Jan Grosser

    Llun o Raspberry Pi gan Jan Grosser

    Mae’r Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg 2015-2016 Llywodraeth Cymru  ar agor i geisiadau rhwng nawr a’r 30ain o Ionawr 2015.

    Mae’r grantiau yn cefnogi amcanion y cynllun gweithredu Technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg.

    Pwrpas y cynllun gweithredu yw annog gweithgareddau sy’n hybu ac yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg trwy dechnoleg a chyfryngau digidol. Prif ffocws y grant fydd cefnogi gweithgareddau sy’n:

    • codi ymwybyddiaeth o, neu hybu’r defnydd o feddalwedd, aps, gwasanaethau ar-lein, a theclynnau creu cynnwys Cymraeg – a chynnwys digidol Cymraeg.
    • cefnogi datblygiad meddalwedd a gwasanaethau digidol Cymraeg
      ar-lein
    • cynyddu faint o gynnwys Cymraeg sydd ar gael ar-lein.

    Croesawir ceisiadau gan gyrff o’r trydydd sector, y sector breifat a’r sector gyhoeddus ar gyfer gweithgareddau nad ydynt yn ddarostyngedig i’w Cynlluniau Iaith Gymraeg statudol.

    Gweithgareddau cymwys

    Dyma rai o’r gweithgareddau sy’n gymwys i’w hariannu dan y cynllun:

    • Datblygu gwasanaethau rhyngweithiol Cymraeg ar-lein newydd;
    • Yr isadeiledd digidol sydd ei angen er mwyn rhoi sylfaen i’r Gymraeg yn y maes digidol. E.e. llais i destun a deallusrwydd artiffisial;
    • Mapiau rhyngweithiol yn y Gymraeg lle gellir mewnosod mapiau gyda labeli ac enwau llefydd Cymraeg ar dudalennau we;
    • Prosiectau i gynyddu faint o gynnwys digidol yn y Gymraeg sydd ar gael ar-lein. Mae cynigion cynnwys sy’n ysbrydoli eraill i gyfrannu ac ehangu ar y cynnwys yn debygol o sgorio’n uwch na phrosiectau sy’n cyflwyno cynnwys gorffenedig;
    • Mentrau hyfforddi a chyrsiau codio, gan gynnwys hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc;
    • Mentrau i godi ymwybyddiaeth a hybu’r defnydd o feddalwedd, cynhyrchion seilwaith, cymwysiadau, gwasanaethau ar-lein, ac offer creu cynnwys Cymraeg – a chynnwys Cymraeg digidol;
    • System rheoli digwyddiadau ar lein a all hwyluso’r broses o drefnu digwyddiad, gwahodd/dosbarthu tocynnau a hyrwyddo’r digwyddiad ar draws y cyfryngau cymdeithasol;
    • Cleient Twitter Cymraeg ar gyfer cyfrifiaduron llechen a ffonau clyfar;
    • Teclyn torfoli trosiadau rhyngwyneb sy’n hwyluso defnydd termau safonol ar gyfer labelu botymau a negeseuon yn y porwr;
    • Ap treiglo;
    • Ategion/widgets Cymraeg ar gyfer gwasanaethau blogio a datblygu gwefannau;
    • Systemau gweithredu dwyieithog megis systemau adnoddau dynol a systemau cyllid;
    • Unrhyw weithgareddau eraill fyddai’n cyfrannu at gyflawni’r amcanion a gyflwynwyd yng Nghynllun Gweithredu Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg Llywodraeth Cymru, ac a fyddai’n addas i dderbyn grant.

     Am fwy o wybodaeth am y grant, yn cynnwys y ffurflen gais a’r canllawiau a meini prawf:

    http://cymru.gov.uk/techcy

     

     
  • Gareth Morlais 12:06 PM ar 18 September 2014 Dolen Barhaol  

    Cymraeg ac Apple iOS8 

    Mae Apple iOS8 ar gael nawr. Un o’r nodweddion newydd yw’r gallu  i ddewis y Gymraeg fel hoff iaith. ‘Dyw hyn ddim yn golygu lleoleiddio llwyr, ond mae’n golygu bydd apiau gyda rhyngwyneb amlieithog – sydd yn cynnwys y Gymraeg – yn arddangos ar y ffôn neu lechen mewn Cymraeg. Beth sy’n wych yw mae’n ymddangos fod y Gymraeg yn cael ei gynnig yn awtomatig i ddefnyddwyr yn y wlad hon. Fel dengys sgrinluniau Iwan Evans, dim ond mater o lusgo’r Gymraeg uwchben y Saesneg yw hi.  Yr her nawr yw i gynhyrchwyr apiau i ddarparu rhyngwynebau Cymraeg.

     

    iOS8 1

     

     

     

     

     

     

    iOS8 2

     

     

     

     

     

    iOS8 3

     

     

     

     

     

     

     

    iOS8 4

     

     

     

     

     

     

    iOS8 5

     

     

     

     

     

     

     

     

     

    iOS8 6

     

     

     

     

     

     

     

    iOS8 7

     

     

     

     

     
    • Gareth Morlais 12:10 PM ar 18 Medi 2014 Dolen Barhaol

      >Yr her nawr yw i gynhyrchwyr apiau i ddarparu rhyngwynebau Cymraeg.

      Dwi’n meddwl am ap Twitter yn enwedig wrth awgrymu hyn.

  • Gareth Morlais 5:36 PM ar 21 May 2013 Dolen Barhaol  

    Cymorth i gychwyn gwefan lleol 

    Mae’r Carnegie UK Trust a Cooperatives y D.U.  yn trefnu cyfarfod/cyflwyniad i’r rhai sydd am gychwyn co-op cyfryngau er mwyn darparu newyddion lleol. Mae ‘na sesiwn ar yr 28ain o Fehefin 2013 yng Nghaerdydd ac un arall yn Crewe (sy’n fwy gyfleus o’r Gogledd) ar y 26ain o Fehefin. Make the News yw enw’r sesiynau ac mae na fanylion yma.

    Wedi’r daith, bydd na gyngor a chefnogaeth ar gael am ddim i’r rhai sydd am gychwyn coop cyfryngau.

     
  • Gareth Morlais 9:16 AM ar 21 May 2013 Dolen Barhaol
    Tagiau: canllaw   

    Sut i fewnosod eitemau o eBay 

    “Sut alla’i ennill bach o bres i gadw mynd?” – dyna’r cwestiwn mawr sy’n herio perchnogion gwefannau lleol (hyperlocal)
    Dros y blynyddoedd, dwi wedi bod yn arbrofi gyda ‘dolenni cildwrn’   (affiliate links). Mae hyn yn ffordd o arddangos cynnyrch a gwasanaethau cwmnïau eraill ar eich gwefan chi. Os bydd un o’ch ymwelwyr chi yn prynu, mae’r cwmni mawr yn danfon cildwrn atoch chi – dim ond ychydig geiniogau.
    Ffrwd o ddolenni recordiau finyl Cymraeg ar Twtlol.co.uk oedd y gyntaf:
    Am fod yr arholiadau yn bwysig yn y cartref hwn ar hyn o bryd, dyma fi’n mynd ati i gasglu llyfrau adolygu TGAU at ei gilydd fesul pwnc:
    tgau.co.uk

    tgau.co.uk

    Mae’n rhatach weithiau i brynu’r llyfrau o eBay a dwi’n bwriadu cyflwyno cyngor adolygu ar y wefan pan ga’ i amser.
    Os ydych chi am wneud rhywbeth tebyg gydag eBay ar eich gwefan WordPress, penderfynwch ar y niche dych chi am ganolbwyntio arni, wedi dilynwch y camau hyn:
    1. Ymaelodwch gyda’r Ebay Partner Network https://www.ebaypartnernetwork.com
    2. Ewch i tab Campaigns, wedyn Create a new campaign
    3.  …dryw gwneud hyn, dych chi’n cael rhif sy’n dangos i eBay pwy dych chi
    4. Ewch i Tools > Widgets > RSS Feed Generator
    5. Dewiswch Program (.co.uk); y Campaign ID dych chi newydd greu; categori ac allweddeiriau; llenwi’r gweddill; Generate Code
    6. copïwch y cod ar eich clipfwrdd
    Wedyn ewch i adran Admin eich WordPress a mewnosod y teclyn HungryFeed http://verysimple.com/products/hungryfeed/. Mae hyn yn eich galluogi i fewnosod RSS mewn Post WordPress.
    Ysgrifennwch Bost neu Dudalen newydd, cliciwch symbol HungryFeed a gludo’r cod EPN o’r clipfwrdd i’r blwch. Safiwch y dudalen a chael cipolwg arni cyn cyhoeddi.
    A dyna ni. Pob tro bydd rhywun yn prynu eitem ar eBay drwy ddilyn linc o’ch gwefan chi, bydd eBay yn talu cildwrn bach i chi. Dydy hyn ddim yn ffortiwn, ond mae’n gam bach tuag at fod yn fwy cynaliadwy.
     
  • Gareth Morlais 11:59 AM ar 13 April 2013 Dolen Barhaol
    Tagiau:   

    Sut i roi fideo ‘Google Streetview Hyperlapse’ ar eich blog 

    Dyma fideo o bromenad Bae Colwyn wnes i wrth arbrofi gyda Google Streetview Hyperlapse. Does dim sain.

    clip fideo o blip.tv Nid oedd modd mewnosod fideo i’r post yn y blog yma

    Os am greu fideo o’r fath o’ch ardal chi:
    1. dilynwch y ddolen o  http://www.teehanlax.com/labs/hyperlapse/ at y teclyn
    2.  llusgwch  tagiau A a B ar y map i ddynodi’r dechrau a’r diwedd
    3.  defnyddiwch meddalwedd dal fideo fel Faststone Capture i recordio’r olygfa
    4.  lanlwythwth y fideo gorffenedig i YouTube, Vimeo neu Blip.tv
    5. cydiwch yn y code mewnosod er mwyn ei arddangos yn eich blog
     
  • Gareth Morlais 1:01 PM ar 1 March 2012 Dolen Barhaol  

    Google + CY 

    Dwi newydd fod yn trafod SEO (search engine optimisation) gyda chyfaill sy’n arbennigo yn y maes. Dywedodd:

    1. Google doesn’t recognise Welsh as one of its “results” languages

    2. It doesn’t seem to favour results in Welsh even when an explicitly Welsh search term is put in (eg Dewi Sant)

    Ydy hyn yn wir tybed?

    Ieithoedd chwilio Google

    Ieithoedd chwilio Google - cliciwch ar y llun i'w weld ar faint mwy

     
    • Carl Morris 8:13 PM ar 1 Mawrth 2012 Dolen Barhaol

      Dw i wedi sylwi pethau sy’n ffitio 1 a 2. Gwnaf i drio ffeindio enghreifftiau. Paid ag anghofio’r opsiwn Verbatim nawr achos mae Google yn trio cynnig sawl gwahaniaeth yn y canlyniadau sy’n seiliedig ar dy broffil, diddordeb ayyb.

      Heddiw maen nhw yn dangos logo gwahanol i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi Sant ond dyw e ddim yn digon i fi. Mae gwendidau eraill i’r defnyddiwr Cymraeg:

      3. Fydd unrhyw ganlyniadau ddim yn cynnwys treigladau o’r term chwilio, e.e. os wyt ti’n chwilio am rhywbeth gyda “Caernarfon” does dim gwarant o dudalennau gyda “Gaernarfon”, “Nghaernarfon” ayyb.

      4. Dyw gorchmynion chwilio fel “site:” ddim ar gael yn Gymraeg.

      4. Roedd Google yn trio ‘cywiro’ geiriau Cymraeg ambell waith. e.e. o’n i’n arfer chwilio am bethau fel ‘theatr’, roedd Google yn dweud ‘did you mean: theatre’ ac yn ddangos canlyniadau ‘theatre’ yn hytrach na ‘theatr’. Ond efallai maen nhw wedi newid y system bellach.

      Mae peiriant chwilio Cymraeg yn hollol bosibl… rhywbeth gyda rhyngwyneb, canlyniadau, nodweddion, popeth i’r defnyddiwr Cymraeg. Pam lai. Dw i’n siarad am system llawn (nid dillad yn unig fel Gwgl.com). Sawl person sy’n chwilio am dermau Cymraeg bob dydd, tybed? Bydd y data chwilio a data am y we Gymraeg yn anhygoel o ddiddorol.

    • Ceridwen 5:54 AM ar 2 Mawrth 2012 Dolen Barhaol

      Dw i’n chwilio am dermau Cymraeg llawer o ddydd. Weithio, mae’r results dod o llyfrau, fel Charlotte Bronte, neu Charles Dickens (chapter 12, in which Jane makes a fool of herself.) Yn aml, bydda i’n chwilio am geiriau canau ymod i’n hoffi. (Dw i’n dysgu Cymraeg, ac sa i’n scweni yn dda. Sori!)

    • Gareth Morlais 3:02 PM ar 2 Mawrth 2012 Dolen Barhaol

      Diolch am y linc at Verbatim Carl. Dyle hwn helpu gyda dy sylw fod y ffurflen yn trio newid “theatr” i “theatre”
      Mae 3. yn codi falle’r angen i beiriant chwilio allu lamateiddio(?) geiriau. Gwneud hyn ar y client side sy’n gallu bod yn anodd.
      Mae’r broblem o ddelio gydag acenio mewn ffurflenni yn gallu bod yn anodd. Cwsom drafferth gyda hyn wrth gynllunio’r geiriadur newydd ar y BBC (gyda diolch i Uned Technoleg Iaith Prifysgol Bangor)
      Nid yw “mor” = “môr”, ond go brin fod defnyddiwr Google am deipio “môr” gydag acen.
      Dwi di adio screengrab o dudalen ieithoedd chwilio Google i’r post uchod. Ai mater o lobiio Google i geisio cael CY ar y rhestr yw’r cam cyntaf?

    • Dafydd Tomos 5:55 PM ar 6 Mawrth 2012 Dolen Barhaol

      Os ydych chi’n dewis Cymraeg fel iaith rhyngwyneb ar Google mae e’n sicr yn ffafrio canlyniadau yn Gymraeg. Wrth gwrs mae hyn yn golygu nad yw llawer o nodweddion arall chwiliad Google arall ar gael (mapiau a newyddion er enghraifft).

      Yn unrhyw iaith dyw e ddim yn bosib dewis Cymraeg fel iaith i’w chwilio ond mae nhw’n amlwg yn gallu eu wneud e fel gyda unrhyw iaith arall.

  • Gareth Morlais 4:17 PM ar 2 April 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: ,   

    Mae cynhadledd Talk About Local yma yn yr… 

    Mae cynhadledd Talk About Local yma yn yr Atrium, Caerdydd, heddiw.
    Mae na olygyddion / cynhyrchwyr gwefannau heiprlleol dros Brydain gyfa’ yma.

    Mae RhysW a finne newydd ddod allan o sesiwn am y Gymraeg ac – ar garlam braidd –  roeddwn i am rannu rhai o’r pwyntiau:

    • bu trafodaeth am gynhadledd S4C yn Aber am ryngweithiol
    • bu ychydig o anghytuno: un rhwydwaith o wefannau lleol neu uber-safle?
    • lot o son am Bapurau Bro – rhwydwaith arbennig o bapurau heiprlleol Cymraeg sydd wedi bodoli ers y 70au
    • a fydde’r Mentau yn gallu helpu wrth gydlynnu’r hyfforddiant sydd angen i hyfforddi pobl mewn sgiliau digidol?
    • canmoliaeth i Blogiadur, Umap a Lleol.net fel aggregators
    • Hywel Wiliam AIM (gynt o OFCOM) yn son am roi fideos Cymraeg via ethernet i’r teledu yn y lolfa
    • Ed o Media Wales yn dweud y bydde’r papur yn hapus i ystyried cynnwys map  gymru gyda dotiau yn dangos gwefannau lleol Cymraeg.
    • Geoff Rogers @foomandoomian yn dangos diddordeb
     
    • Gareth Morlais 4:19 PM ar 2 Ebrill 2011 Dolen Barhaol

      wps. …yn dangos diddordeb mewn templedau WordPress newydd Cymraeg.

    • Rhodri ap Dyfrig 10:52 AM ar 3 Ebrill 2011 Dolen Barhaol

      Diolch Gareth. Dyma rai meddyliau:

      Dwi’n meddwl bod trio canol rhywbeth mor ddatganoledig a Phapurau Bro mewn uber-safle yn bownd o fethu. Y gorau gellid ei wneud ydi trio cael rhywun i guradu aggregator o’r straeon gorau sydd yn y rhwydwaith (pe sefydlid rhwydwaith o gwbl).

      Ydi papurau bro yn rhy wahanol i Hyperleol? Fyddai cynnwys hyperleol yn fwy gwleidyddol/newyddiadurol ei hanfod yn hytrach na diwylliannol? Dyna yw natur lot o’t gwefannau hyperleol Saesneg dwi’n weld. Mwy am fixmystreet na be wnaeth Joni yn steddfod Sir.

      Dwi bron yn meddwl weithiau bod angen anghofio am rwydweithiau papurau bro a dechrau o’r newydd gyda blogiau lleol ar-lein. Datblygu lleisiau lleol newydd. Ond dwi ddim wedi darbwyllo fy hun bod hynny’n ddoeth eto! Byddai’n biti colli cyswllt croes-genhedlaeth ac mae llawer i;w ddysgu a’i drosglwyddo. Ond eto mae na gynulleidfaoedd gwahanol ar gyfryngau gwahanol.

      Fideo efallai yn gyfrwng mwy addas ar gyfer addasu modelau papur bro? Ond lot mwy o waith cynhyrchu / hyfforddi. Annodd dyblygu mewn nifer fawr o ardaloedd.

      Dwi ddim yn meddwl bod y mentrau yn llefydd da i gydlynu hyfforddiant. Gwell ei fod yn dod gan unigolion brwdfrydig lleol sydd eisoes yn ysgrifennu ar-lein/cynhyrchu mewn rhyw ffordd. Digon o bethau eraill gallai’r Mentrau gyfrannu – cynnwys er enghraifft.

      Nnid y macro-rwydwaith yw’r peth pwysig gyda phapurau bro, ond y rhwydwith leol. Cysylltiadau rhwng pentrefi o fewn bro. Canolbwyntio ar gael hynny’n iawn cyn dechrau meddwl ar lefel genedlaethol.

      Angen ystyried: Beth yw dalgylch papurau bro? Ydi dalgylch o’r fath yn gweithio yn yr un ffordd ar gyfer hyperleol? Mae blog yn gallu gweithio ar gyfer un stryd.

      Model top down S4C yn risky. Dipyn i’w ddysgu gan ymdrechion BBC Cymru’r Byd a’u gwaith nhw gyda phapurau bro. Fideo lleol yn rili annodd i’w gynhyrchu ar lefel gyson/safon technegol darlledu heb fuddsoddiad anferth. Gwell arbrofi gyda chwpwl o lefydd i ddechrau.

      Falch bod Umap yn plesio!

    • Huw 3:25 PM ar 3 Ebrill 2011 Dolen Barhaol

      Beth am ryw batrlymun gwefan wedi ei seilio ar system penodol? Oes modd defnyddio WordPress gyda phatrymlun wedi ei adeiladau gan e.e. Haciaith (pwy bynnag sy’n alluog ac eisio cyfrannu) a’i ddosrannu i fel gwefan penodol i bob dalgylch Papur Bro. Gall pob gwefan cael sawl awdur yn sgwennu am millti-sgwâr nhw, fel sy’n digwydd eisoes. Fel arfer, un person yn sôn am un tref, rhywun arall yn sôn am dau bentref lled agos etc.

      Unwaith bydd y fframwaith yn ei le, sef gwneud y gwaith anodd a thechnegol ar ran y rhai sydd fel arfer ddim yn hollol hyderus gyda TGCh, wedyn cael pob un yn bwydo mewn i un gwefan mawr sy’n gallu dewis pigion, neu arddangos crynodeb mewn adrannau gwahanol fel rhestr o eisteddfodau lleol, marwolaethau, priodasau, etc.

    • Rhys Wynne 2:13 PM ar 4 Ebrill 2011 Dolen Barhaol

      Roedd tri prif gwestiwn yn y sesiwn

      1. A’i rhywdwaith ffurfiol, falle o dan syniad ‘S4C Lleol’ arfaethedig (?) neu debyg fyddai orau, yntau rhywbeth mwy llac ble mae gwefannau annibynol yn cael ei casglu mewn un man.

      Ar y diwrnod awgrmywyd, a fel mae Rhodri’n nodi yn y sylwadau, nid yw top-down yn addas i rhywbeth fel hyn, a bod peryglon ar ddibynnu ar BBC Lleol, gan y gallai crebychiad pellach mewn buddsoddiand yn y dyfodol beryglu bywyd hir dymor unrhyw brosiect. Hefyd, byddai derbyn nawdd cyhoeddwus (drwy’r Bwrdd?) yn gallu rhwystro blog lleol rhag bod yn partizan (cafodd y Bwrdd ei ferniadau am ariannu RHAG wrth iddyn nhw ymgyrchu yn erbyn y Blaid Lafur). Galwch weld cyngor/cynhorydd lleol dan y lach yn ddigon parod i godi’r peth.
      Rhoddodd Nicky Getgood (un o drefnywr yr anghynadledd) enghraifft o wefan The YamYam a wnaeth job dda o fod yn aggregator o wefannau hypel-lleol.

      2. Dod a Phapurau Bro ar-lein v’s creu gwefannau hyper-lleol o’r newydd?

      Mantais papur bro yw ei fod wedi ei sefydlu, felly mae gennych ‘brand’ (nid o anghenraid yn un positif!) a rhwydwaith prod o gyfranwyr. ‘Sdim rhaid iddo fod yn ‘FixMyStreet NEU Joni Jones yn steddfod’ – gall gynnwys y ddau.
      Anfantais paprau bro yw bod nhw yn hynnod o geidwadol o ran cynnwys a rheolaeth. Roedd un gplygydd yn cwyno nad oedd neb yn helpu/cyfrannu, felly daeth criw o bobl newydd i’r cyfarfod blynyddol a chynnig helpu, dim ond i’r golygydd anwybyddu bod awgrym a chynnig help a bwrw mlaen ar liwt ei hun. Falle byddai cael blog lleol fel cystadleuaeth yn help i gorddi pethau (er gwell).

      3. Sut mae darbwyllo/galluogi/hyfforddi pobl i greu gwefan ar-lein.

      Oes rhwystrau technolegol? Na, nid os yw eraill yn gallu creu gefannau hyper lleol. Angen ysbyrdoliaeth a enghraift o wefan hyper lleol Cymraeg da i eraill ddilyn. Rhai papurau bro a phentrefi gyda presenoldeb ar-lein yn barod. Ydy o’n haerllug o’n rhan ni i feddwl bod nhw eisiau/angen bod ar lein? Gofynais i Nicky sut mae Talk About Local yn cyrraedd grwpiau. Mae’n nhw’n cael eu gwahodd gan ganolfannau UK Online (sy, er gwaetha’r enw, ond yn gwethredu’n Lloegr!) , pan mae nhw’n teimlo bydd o fudd yn lleol ac y byddai diddordeb. Soniodd Nicky mai Learndirect falle sy’n darparu gwasanaeth tebyg yng Nghymru.
      Tra dw i ddim yn meddwl mai’r Mentrau Iaith yw’r pobl gorau i ddarparu’n hyfforddiant na chynnal/creu y gwefannau (ddim yn meddwl bod yn iawn i staff cyfogedig wneud bet ddylai fod yn wirfoddol), efallai gelli’r eu defnyddio nhw i gydlynu hyfforddiant a bod pobl o’r tu allan yn mynd yno i’w ddarparu. Mae hyn yn gyfle masnachol i rhywun, neu beth am sefydlu rhyw is-grwp o fewn Hacio’r Iaith i hyrwyddo hyn. Gallwn fapio papurau bro ar googlemaps (i weld pa rai sy a sy ddim ar-lein) a gweld lle bydd y ymateb gorau ar y cychwyn falle.

      Gol: Mwy i ddod, mwy i ddod (+ cywiro typos a gosod dolenni) – daeth sesiwn yny llyfrgell i ben.

    • Rhys Wynne 10:02 PM ar 4 Ebrill 2011 Dolen Barhaol

      Trafodaeth ar “Ddychmygu S4C Newydd yn cyfeirio at y lleol ar flog Dyfeisgar, ac mae Carl yn cynnig meddyliau pellach, ac fel bonws bach, mae wedi dechrau tudalen ar wici Hedyn o’r enw Sut i ddechrau blog lleol – canllaw i ddechreuwyr.

    • Huw 8:35 PM ar 7 Ebrill 2011 Dolen Barhaol

      Bosib gall hwn helpu?

      http://www.webmonkey.com/2009/07/source_code_offers_a_glimpse_of_the_magic_behind_everyblockdotcom/

      Mae’n defnyddio OpenStreetBlock sy’n defnyddio OpenStreetMap. Yn syml, mae OpenStreetMap yn fersiwn Wikipedia o Google Maps – mapiau ti’n gallu eu newid ac ychwanegu.

      Mae OpenStreetBlock yn nol gwybodaeth o OpenStreetMap via hydred/lledred a wedyn yn trosi’r wybodaeth i’r stryd agosaf h.y. rhoi gwybodaeth mwy dealladwy o rifau.

      Mae EveryBlock yn ceisio crafu gwybodaeth wedi ei leoli o fewn milltir sgwâr gan newid rhifau hydred/lledred fewn i rywbeth fel ‘Ffordd Abergele’ ym Mae Colwyn (http://www.baecolwyn.com), wedyn ceisio pigo unrhyw wybodaeth sy’n digwydd o gwmpas y stryd ene.

c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel