NODYN CALENDR: Hacio’r Iaith *27 Ionawr 2018*

Dalier sylw! 

Ar wahoddiad S4C bydd Hacio’r Iaith 2018 yn cael ei gynnal yn Tramshed Tech, Stryd Pendyris, Grangetown, Caerdydd.

Felly rhowch ddydd Sadwrn y 27 Ionawr yn eich dyddiaduron, bwciwch lety / ffoniwch ffrind sydd efo soffa a dechreuwch feddwl am rywbeth i’w gyflwyno / rhannu / esbonio / rhoi demo ohono ar y dydd!

Bydd rhagor o fanylion gan gynnwys Google Doc i drafod syniadau a thudalen gofrestru yn cael eu postio yma cyn bo hir, ond os oes na unrhyw syniadau cyn hynny yna plis rhowch nhw yn y sylwadau neu ar #haciaith ar Twitter.

Edrych mlaen yn barod at drafod popeth sy’n newydd ym myd tech digidol Cymraeg!

7 sylw

  1. Hen bryd i bobl wneud pethe dros eu hunain!

    Felly be am ddysgu sut i gychwyn gyda Python a/neu R (Anaconda a R Studio), i drawsnewid a delweddu data?

  2. Blwyddyn newydd dda i chi gyd!

    Ionawr yw mis mwyaf llwm y flwyddyn yn ôl unrhyw listicle diog llenwi gofod ôl-ddolig gwerth ei halen, ond nid pan mae ganddoch chi gynhadledd tech Cymraeg i edrych mlaen ato ddiwedd y mis. Iei, ac yn wir, woot.

    Tocynnau

    Diolch yn fawr iawn i chi am archebu tocyn – mae dros 60 wedi mynd hyn yma – sydd yn argoeli’n wych. Plis rhannwch y dudalen tocyn.cymru neu ddigwyddiad FB er mwyn cyrraedd cymaint o bobl ag sydd bosib. Ni wastad eisiau cael pobl newydd sbon i Hacio’r Iaith er mwyn cadw’r drafodaeth yn ffresh.

    Ac os chi’n nabod merched mewn tech / cyfryngau digidol, yna plis rhowch anogaeth iddyn nhw ddod yn arbennig. Gallwn ni wastad wneud mwy i wella’r cydbwysedd hynny.

    Syniadau

    Mae Hacio’r Iaith yn gynhadledd sy’n cael ei arwain ganddoch CHI. Y pynciau a phrosiectau rydych chi eisiau eu trafod yw beth sy’n cael eu trafod.

    Gallwch chi jyst rocio fyny ar y dydd a hawlio slot yn yr amserlen, ond mae’n help i bawb os gallwch chi benderfynu ar beth chi awydd ei drafod / gyflwyno o flaen llaw a’i roi ar y Google Doc trefnu. Gallwn ni wedyn drio osgoi unrhyw clashes.

    O ran pa fath o beth? Dyma syniadau:
    cyflwyno prosiect chi di gweithio arno (10 munud)
    trafodaeth panel am bwnc (30mun – 60mun)
    demo o brosiect – (5-15 mun)
    gweithdy ymarferol (30mun – 60 mun)
    Cofiwch y gall fod mor niche neu eang a chi eisiau. Mae cynulleidfa o 2 dal yn gynulleidfa werthfawr. Sdim rhaid sefyll o flaen podium. Gall fod ar soffa efo laptop. Gwnewch beth rydych chi’n gyfforddus â fo. Does dim rheolau haearn heblaw am rannu a derbyn mor hael a’u gilydd.

    Cyflwyniad agoriadol / Keynote

    Y llynedd benderfynon ni gael cyflwyniad keynote er mwyn dechrau’r diwrnod drwy osod her / gweledigaeth. Leighton Andrews wnaeth hynny bryd hynny a rydyn ni’n falch o ddweud y bydd yr Athro Andrew Green, cyn Lyfrgellydd Llyfrgell Gen Cymru, a dyn sy’n frwd dros ddigidol ac arloesi yn y maes yn rhoi keynote eleni.

    Dwi’n siwr bydd ganddo ddigon o syniadau a heriau i brocio’r meddwl ar ddechrau dydd.

    Cyri nos wener

    Mae’n draddodiad ar nos Wener cyn Hacio’r Iaith i fynd am gyri. Dydyn ni heb benderfynu lle eto, ond mae Vegetarian Food Studio yn weddol agos at y lleoliad ac yn ôsym felly os nad oes cynnig gwell…

    Rhowch eich enw ar y ddogfen Google (reit ar y diwedd bron) i ni gael gwybod pwy sy’n dod a thrio cadw bwrdd digon o faint. Dewch â’ch alcohol eich hun!

    Edrych mlaen i’ch gweld chi ar ddiwedd y mis!

    Hwyl am y tro, a chofiwch gysylltu os oes ganddoch chi unrhyw gwestiwn ar ebost, Twitter ar #haciaith, neu FB ar y digwyddiad.

    Rhodri, Carl, Rhys W, a gweddill criw cyfranwyr Haciaith sy’n rhy niferus i’w rhestru!

    https://haciaith.cymru/

  3. Hi, mae hyn yn swnio’n ddiddorol iawn. Fi sy’n arwain y tîm sydd wedi creu, ac yn dal i gynnal y cwrs Cymraeg ar Duolingo. Fasai diddordeb gyda chi i ni gynnal sesiwn?

Mae'r sylwadau wedi cau.