Y Cymro – archif ar-lein yn fyw

Mae dyfodol papur newydd Y Cymro yn ansicr ond mae grŵp Cyfeillion y Cymro wedi ei sefydlu i’w ail-lansio.

Yn y cyfamser mae rhywun sy’n cysylltiedig â chwmni Tindle wedi tynnu’r plwg ar wefan Y Cymro yr wythnos hon – heb unrhyw rybudd na seremoni!

Yn sydyn diflanodd dros 4500 o dudalennau oddi ar y we Gymraeg, gan gynnwys 3400 o dudalennau yn yr adran newyddion.

Os ydych chi’n chwilio am erthygl o’r gorffennol, yn gwneud ymchwil, neu eisiau cyfeirio at Y Cymro fel ffynhonnell ar Wicipedia neu unrhyw waith arall, ble ydych chi fod mynd ar-lein?

Yn ffodus mae rhywun wedi rhagweld y sefyllfa hon ac wedi creu archif o’r holl wefan:

http://archif.rhwyd.org/ycymro/

Diolch o galon i DafyddT am ddarparu rhai o’r gwybodaeth yn y cofnod hwn ac am ei waith caled.