Twitter Lite – y ffordd gyflymaf o ddefnyddio Twitter ar gysylltiad gwan

Mae cwmni Twitter newydd lansio fersiwn Lite o’i wefan:

https://twitter.com/Twitter/status/849866660882206721

Mae hi’n berffaith ar gyfer llefydd heb gysylltiad da – sydd o hyd yn cynnwys llawer iawn o gefn gwlad Cymru.

Ewch i https://mobile.twitter.com i weld pa mor gyflym mae’r ap ar y we yn dangos eich ffrwd. Mae opsiwn aral o droi delweddau bant yn ddiofyn hefyd – ac wedyn tapiwch unrhyw ddelwedd yn y ffrwd i’w gweld.

Dyma rai o’r manylion technegol.

1 sylw

  1. Dwi’n meddwl bod hwn wedi ei anelu at ddefnyddwyr newydd yng ngwledydd Affrica ac India. Yng ngwledydd Affrica, maent eisoes yn ddibynnol ar eu ffonau i gyfathrebu neu anfon pres at ei gilydd. Yn ddiweddar mae India wedi gweld tŵf aruthrol yn y nifer o ddefnyddwyr ffôn newydd. Problem sy’n gyffredin yw isadeiledd rhwydweithiau ffon gwael, sy’n golygu bod cysylltiadau data yn ddrud ac yn araf. Does dim modd o lawrlwytho App 100MB sy’n cael ei ddiweddaru’n wythnosol. Yr ateb yw creu ‘ap gwe’ ysgafn wneith redeg o fewn porwr heb yr angen i drosglwyddo gormod o ddata.

Mae'r sylwadau wedi cau.