Defnyddio archif cyfryngol i gefnogi pobl gyda dementia a gofalwyr

Dw i newydd glywed am brosiect archif y BBC i gefnogi pobl gyda dementia a’i gofalwyr.

Mae’n swnio fel ffordd dda o sbarduno sgyrsiau mewn ffordd naturiol gyda phobl drwy fanteisio ar hen glipiau mewn system atgofion (gadewch sylw isod os oes term gwell na ‘system atgofion’).

Dyma’r esboniad o’r wefan:

Welcome to the BBC Reminiscence Archive. This archive provides access to a selection of content from the BBC Archives, designed to support reminiscence therapy.

The principle of reminiscence therapy is to assist people who have dementia to interact and converse in a natural way by stimulating their long-term memory with material from the past. It is often the case that long-term memory can still function when the person’s working (short-term) memory is degraded. Tapping into long-term memory can make it possible once again for them to enjoy interacting with others, through their stories.

A number of reminiscence systems have been developed for people with dementia, based on photographs, photo books, boxes of objects and materials and interactive computer applications. The BBC wants to contribute to this growing set of supports for people with dementia and their carers by drawing on the enormous fund of photos, videos, and sound clips in its archives.

Dw i heb weld unrhyw gynnwys yn y Gymraeg ar y wefan. Tybed os oes modd ychwanegu cynnwys Cymraeg? Fel arall mae hi’n eithaf hawdd dychmygu prosiect tebyg yn Gymraeg.

Mae’r sôn am systemau atgofion eraill yn ddiddorol – ydy gwaith ar hyn wedi bod yn y Gymraeg?

3 sylw

  1. Helo – dwi wrthi’n gweld beth sy’n ymarferol bosib yn yr iaith Gymraeg – mwy i ddilyn pan fydd gen i fwy o fanylion. Pa fath o glipiau fyddech chi’n hoffi eu gweld? Gyrrwch eich syniadau!

  2. Byddai hi’n braf cael gweld pethau o adloniant a diwylliannau Cymraeg y 60au a 70au yn yr oes cyn S4C, pethau fel Ryan a Ronnie, Fo a Fe, Pobol y Cwm hynafol, cerddorion, beirdd, ac ati.

    Efallai bod ‘na syniadau eraill yma.

    Dw i’n siŵr bod pobl o gwmpas sy’n cofio’r oes yn well na fi! 🙂

Mae'r sylwadau wedi cau.