LibreOffice 5.3

Heddiw, mae fersiwn diweddaraf o LibreOffice yn cael ei ryddhau. Cofiwch ddiweddaru. Mae rhagor o wybodaeth ar LibreOffice i’w cael oddi ar eu gwefan Cymraeg.

Nodweddion Newydd LibreOffice 5.3

Mae LibreOffice 5.3 yn llawn o nodweddion a diweddariadau newydd y mae modd eu defnyddio ar draws y pecyn.

  • Gall llwybrau byr bysellfwrdd nawr gael eu harddangos o fewn y dewislenni cyd-destun, ac mae nhw wedi eu galluogi yn ragosodedig ar Windows a Linux.
  • I’ch helpu i weithio’n well gyda siapiau llenwi, mae’r deialog Ardal wedi ei symleiddio ac yn cynnwys adran Patrymau newydd, ar gyfer gwell cydnawsedd â meddalwedd swyddfa eraill.
  • Hefyd, os ydych eisiau llenwi siâp gyda delwedd didfap cyfaddas, gallwch nawr fewnforio delwedd newydd yn uniongyrchol o’r bar ochr.
  • Mae nawr yn bosibl i fewnosod dogfennau PDF i’ch dogfennau fel delweddau, gyda’r dudalen gyntaf yn weladwy.
  • Ar ben hynny, gallwch lofnodi ffeiliau PDF cyfredol, a gwirio’r llofnodion hynny hefyd.
  • Mae rheoli’r palet lliw wedi ei symleiddio, a phaletau newydd wedi cael eu hychwanegu ar gyfer llif gwaith graffig a chynllun proffesiynol.
  • Mae eitemau newydd wedi cael eu hychwanegu at y ddewislen Cymorth, gan gynnwys cysylltiadau cyflym i ganllawiau defnyddwyr a fforymau cymorth cymunedol.
  • Mae Modd Diogel ar gael nawr, i’ch helpu i ddod o hyd i a datrys problemau gyda’ch proffil defnyddiwr neu estyniadau.
  • Mae gosodiad testun wedi cael eu huno ar gyfer cysondeb ar draws systemau gweithredu, tra bod cydweddu fformatau ffeil wedi eu gwella hefyd.
  • Yn olaf, LibreOffice 5.3 yw’r ryddhad cyntaf o god ffynhonnell llawn o LibreOffice Ar-lein, fersiwn sy’n seiliedig o fewn porwr o’r pecyn y gallwch ei redeg ar eich seilwaith cwmwl preifat.

Writer mae gan Writer nodweddion newydd gwych i wneud i’ch dogfennau ddisgleirio.

  • Mae arddulliau Tabl nawr yn cael eu cynnal, sy’n caniatáu i chi gymwys fformatio ar tabl sy’n cael ei gadw pan fyddwch yn gwneud golygiadau iddo.
  • Mae dec Tudalen newydd yn y bar ochr yn caniatáu i chi addasu gosodiadau dudalen yn gyflym heb orfod mynd drwy flwch deialog ar wahân.
  • Ar gyfer llywio’n gyflymach, mae blwch Mynd i Dudalen yn caniatáu i chi neidio i dudalen arall yn y ddogfen wedi dim ond ychydig o bwyso bysellau.
  • Yn yr offer lluniadu, mae saethau a oedd yn flaenorol ar gael yn Draw ac Impress yn unig, nawr ar gael yn Writer.
  • Yn olaf, mae’r bar offer yn cynnwys botwm Priflythrennau Bach newydd, ac mae modd defnyddio’r fformat yma drwy’r macros.

Calc – mae yna lawer o welliannau yn Calc, i’ch helpu i weithio glyfrach gyda thaenlenni.

  • Mae cyfres newydd o arddulliau cell rhagosodedig ar gael bellach, gyda mwy o amrywiaeth ac enwau gwell nag mewn fersiynau blaenorol.
  • Mewn gosodiadau newydd, “Galluogi cardiau gwyllt mewn fformiwlâu” yw’r dewis ragosodedig, yn hytrach na mynegiadau rheolaidd, er mwyn gwella cydnawsedd â meddalwedd taenlen eraill.
  • Pan fyddwch yn creu tablau colyn, mae swyddogaeth canolrif newydd nawr ar gael.
  • Mae’r nodwedd cyfuno celloedd bellach yn gadael i chi wagio cynnwys y celloedd sy’n cael eu cuddio ar ôl eu cyfuno.
  • Yn olaf, pan fyddwch yn mewnosod swyddogaeth, mae blwch testun newydd yn caniatáu i chi ddewis a dethol y swyddogaethau rydych yn chwilio amdanynt.

Impress a Draw – mae Impress wedi cael ei ddiweddaru fel bod eich cyflwyniadau’n rhagori.

  • Pan fyddwch yn agor y feddalwedd, mae dewisydd templed nawr yn ymddangos fel eich bod yn gallu cychwyn arni’n syth.
  • Mae dau templedi deniadol newydd wedi cael eu cynnwys yn ragosodedig, tra bod eraill wedi cael eu gwella.
  • Pan fyddwch yn mewnosod delweddau o albwm lluniau, mae bellach yn bosibl i gysylltu’r delweddau hyn fel nad ydynt yn cael eu cadw yn y ddogfen ei hun.
  • Yn olaf, yn y modd prif sleid, mae priodweddau’r sleid ar gael yn awr yn y bar ochr.

Nodiadau Ryddhau – LibreOffice 5.3