Llywodraeth, digidol ac arloesedd – fideo o gyflwyniad gan Leighton Andrews

Diolch i bawb am gymryd rhan yn Hacio’r Iaith 2017 ac i Ganolfan Bedwyr a chanolfan Pontio am ein croesawu!

Dyma i chi fideo o gyflwyniad agoriadol Leighton Andrews yn Hacio’r Iaith 2017.

Mae rhestr o fideos eraill o’r Cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg ddydd Gwener hefyd (diolch Stefano).

Mae croeso i unrhyw gyfranog[wraig|wr] bostio meddyliau a nodiadau ar flog Hacio’r Iaith yma. Byddai hi’n braf cael gweld unrhyw ddeunydd sy’n deillio o’r sesiynau. Gad i mi wybod os ydych chi eisiau cyfrif.

Dw i’n edrych ymlaen yn arw at glywed yr Haclediad nesaf sy’n cynnwys darnau sain o’n hanghynhadledd.