Hacio’r Iaith 2017 ym Mangor: cipolwg ar sesiynau

Mae Hacio’r Iaith 2017 yn agosáu!

Bydd croeso cynnes i bawb a mynediad am ddim (nid y band) ddydd Sadwrn yma. Ond mae angen cofrestru nawr…

Cofrestru

Mae angen cofrestru os ydych chi am fynychu a chymryd rhan (yn Adeilad Pontio, Bangor, ar Sadwrn, 21 Ionawr 2017).

Mae llawer o lefydd wedi mynd eisoes ac mae rhai ar ôl.

Sesiynau

Dyma rai o’r sesiynau sydd ar yr amserlen eisoes:

  • Newyddiaduraeth Ddigidol yn Gymraeg (gydag Ifan Morgan Jones)
  • Tech S4C – tech gwahanol mae S4C wedi eu gwneud; pethau plant, pethau eraill.
  • Cyflwyniad am waith y Llyfrgell Genedlaethol efo Wikidata
  • Gweithdy ymarferol ar sut i greu bot Cymraeg awtomatig ar Twitter
  • Diogelwch ar y We – pa rhaglenni i’w defnyddio
  • Prentisiaeth TGCh (technoleg gwybodaeth a chyfathrebu) Dwyieithog – camau cyntaf a heriau
  • Y Bywiadur – cip ar 8000 o luniau ar Eiriadur Rhywogaethau Cymdeithas Edward Llwyd
  • Araith Leighton Andrews am ‘Llywodraeth, digidol ac arloesi’
  • Lansiad papur trafod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am ddatganoli darlledu

Hefyd…

  • UNRHYW BETH am y cyfryngau digidol a’r Gymraeg sydd o ddiddordeb i chi. Bydd slotiau gwag ar yr amserlen.

Amserlen

Rydym hefyd yn bwriadu llenwi amserlen y bore gyda sesiynau cyn y gynhadledd gan adael y prynhawn yn rhydd ar gyfer unrhyw sesiynau sydd heb eu trefnu o flaen llaw.

Felly os ydych chi eisiau cynnal sgwrs, cyflwyniad, dangos eich gwaith, neu weithdy ymarferol cysylltwch â Carl neu Rhodri trwy’r cyfryngau cymdeithasol arferol neu rhowch wybodaeth mewn ar y Google Doc yma.

Gwnewch bethau’n haws drwy rannu’ch syniad o flaen llaw – os yn bosib!

Bydd tri ardal yn Pontio gyda thri math gwahanol o sesiwn:

  • Y Bocs Sebon – gofod cyflwyno, sdeil-theatr
  • Y Gweithdy – ardal ar gyfer sesiynau mwy ‘hands-on’
  • O Gylch y Tân – cylch ar gyfer cynnal trafodaeth a sgwrs

Cynhadledd dydd Gwener

Cofiwch fod yna Gynhadledd Technoleg a’r Gymraeg hefyd ym Mangor ar ddydd Gwener 20 Ionawr 2017 (y diwrnod cyn Hacio’r Iaith). Bydd rhai ohonom ni yn mynychu’r gynhadledd yn ogystal â Hacio’r Iaith. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar eu gwefan.

Llety

Rydyn ni wedi cael disgownt o rhyw 10% gan y Ganolfan Rheolaeth i bobl sy’n dyfynnu #techiaith wrth fwcio (yr un peth ag ar gyfer cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg).

Ewch yma am fanylion archebu llety.


Diolch o galon i’r Ganolfan Technoleg Iaith a Chanolfan Bedwyr am gyd-drefnu a noddi’r bwyd ar gyfer Hacio’r Iaith.