Leighton Andrews i annerch Hacio’r Iaith 2017

Am y tro cyntaf a 7fed mlwyddyn Hacio’r Iaith bydd gennym ni siaradwr gwadd i ddechrau’r diwrnod , a rydym yn falch iawn i gyhoeddi y bydd Leighton Andrews, cyn Weinidog Llywodraeth gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg a thechnoleg Cymraeg yn rhoi ei farn ar y pwnc ‘Llywodraeth, digidol ac arloesi’.

Byddwch yn barod am gyflwyniad difyr a phryfoclyd gyda’r cyfle i ofyn cwestiynau.

leighton_andrews-1

Cofrestru

Peidiwch ag anghofio cofrestru am Hacio’r Iaith 2017, fydd yn digwydd yn Adeilad Pontio, ar Sadwrn, 21 Ionawr 2017.

Bydd mynediad am ddim i bob cyfranogwraig/cyfranogwr ac mae croeso cynnes i bawb (gan gynnwys plant – ac mae rhagor i ddilyn am sesiynau penodol i blant a phobl ifanc).

Sesiynau eraill

Rydym hefyd yn bwriadu llenwi amserlen y bore gyda sesiynau cyn y gynhadledd gan adael y prynhawn yn rhydd ar gyfer unrhyw sesiynau sydd heb eu trefnu o flaen llaw.

Felly os ydych chi eisiau cynnal sgwrs, cyflwyniad, dangos eich gwaith, neu weithdy ymarferol (da ni’n hoffi pethau ymarferol!) cysylltwch â Carl neu Rhodri trwy’r cyfryngau cymdeithasol arferol neu rowch yr wybodaeth mewn ar y Google Doc yma.

Bydd tri ardal yn Pontio gyda thri math gwahanol o sesiwn:

  • Y Bocs Sebon – gofod cyflwyno, sdeil-theatr
  • Y Gweithdy – ardal ar gyfer sesiynau mwy ‘hands-on’
  • O Gylch y Tân – cylch ar gyfer cynnal trafodaeth a sgwrs

Cynhadledd dydd Gwener

Cofiwch fod yna Gynhadledd Technoleg a’r Gymraeg hefyd ym Mangor ar ddydd Gwener 20 Ionawr 2017 (y diwrnod cyn Hacio’r Iaith). Bydd rhai ohonom ni yn mynychu’r gynhadledd yn ogystal â Hacio’r Iaith. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar eu gwefan.

Llety

Rydyn ni wedi cael disgownt o rhyw 10% gan y Ganolfan Rheolaeth i bobl sy’n dyfynnu #techiaith wrth fwcio (yr un peth ag ar gyfer cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg).

Ewch yma am fanylion archebu llety.


Diolch yn fawr iawn i’r Ganolfan Technoleg Iaith a Chanolfan Bedwyr am gyd-drefnu a noddi’r bwyd ar gyfer Hacio’r Iaith. “Daw bola’n gefen ar gyfer trafod y rhyngrwyd”, fel dywed y Cardi modern. 🙂

Mae Carl, Delyth a finnau (a’r criw o ffyddloniaid) yn edrych mlaen yn arw i roi croeso i unrhyw eneidiau newydd sydd eisiau dod am y tro cyntaf. Mae wastad yn lot o sbort.

Welwn ni chi ym Mangor!

2 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.