Haclediad 52: Oi! Chdi! Teclyn!

Tro yma ar yr Haclediad – mae’r Iest test nôl! Siarad am bylbs brilliant Phillips Hue. ‘Da ni hefyd nôl gyda’r home helpers digidol, Alexa o Amazon tro yma, plygwn ni’n clustiau at BBC Radio Cymru Mwy ac o bosib anfon y Cymro cyntaf i’r blaned goch gyda SpaceX.

Hefyd, rhestri hirfaith o stwff gwych i wrando a gwylio arno, ond dim amser extra i wneud hynny – joiwch!