Hacio'r Iaith 2017? Angen adborth

bangor-ffilter

Tri chynnig:

1. Oes gennych chi awydd mynychu a chymryd rhan mewn digwyddiad Hacio’r Iaith yn 2017? Dyma fydd yr wythfed digwyddiad mawr o’r fath – digwyddiad anffurfiol ar Gymraeg a thechnoleg i oddeutu 60 o bobl. Byddai croeso cynnes i bawb.

2. Rydyn ni’n edrych at Fangor fel lleoliad y tro yma. Rydyn ni wedi derbyn braslun o gynnig eithaf da wrth leoliad yn ninas dysg.

3. Rydyn ni hefyd yn ystyried dydd Sadwrn 21 Ionawr 2017 fel dyddiad. Nodwch fod y dyddiad mewn pensel, i’w gadarnhau unwaith rydyn ni’n gallu bod yn sicr bod digon o ddiddordeb. (I’r rhai sydd eisiau gwybod dw i ddim yn credu bod ‘na unrhyw gemau mawrion ar y dyddiad hwnnw.)

Gadewch i mi (a phawb) wybod os ydych chi am gymryd rhan yn y sylwadau.

Mae popeth uchod i’w gadarnhau ac mae’r cyfan yn dibynnu ar eich cefnogaeth, mewnbwn, a brwdfrydedd.

x

9 sylw

  1. 1. Ydw, ydw ydw!
    2. Bangor yn leoliad campus.
    3. Swnio fel dyddiad da i mi. Gorau po gynta ein bod ni’n cadarnhau fel gallwn ni gael siap ar y digwyddiad.

  2. 1. Oes
    2. Wastad yn hoffi dychwelyd i Fangor
    3. Dyddiad yn y dyddiadur – s’byth gemau mawrion adeg yma o’r flwyddyn ta beth, mond gemau rygbi…

  3. Rydyn ni newydd gadarnhau’r dyddiad uchod ar gyfer Hacio’r Iaith 2017 ym Mangor!

    Bydd rhagor o fanylion cyn hir.

    Yn y cyfamser dylech chi ystyried dechrau meddwl am ba fath o sesiynau/sesiwn rydych chi am weld yn Hacio’r Iaith 2017 – pa bethau sydd o ddiddordeb i chi?

    x

Mae'r sylwadau wedi cau.