WordPress 4.5

Logo WordPressMae’r fersiwn diweddaraf o WordPress wedi ei ryddhau. Cofiwch ddiweddaru!

Mae’n cynnwys diweddariadau diogelwch yn ogystal â nodweddion newydd.

Gyda lansio WordPress 4.5 mae’n gyfle i edrych yn ôl ar berfformiad Cymraeg WordPress 4.4. Mae’r ystadegau llwytho i lawr yn dangos 250 o becynnau ryddhau a 3,369 pecyn iaith hyd heddiw.

Mae’r cofnod ar Haciaith.com ar 19 Awst am WordPress 4.3 yn cyfeirio at y ffaith fod 205 o becynnau ryddhau wedi eu llwytho i lawr ar gyfer WordPress 4.2. Cynnydd felly o 45 gwefan. Does gen i ddim ffigwr cyfatebol ar gyfer y pecynnau iaith. Mae WordPress.org wedi ei lwytho i lawr dros 42 miliwn (42,737,524) o weithiau ym mhob iaith.

Mae cyfieithiad WordPress 4.5 wedi ei drosglwyddo i WordPress.com. Does dim data o ran defnydd y rhyngwyneb Cymraeg ar WordPress.com.

Diolch i Rhoslyn Prys, Carl Morris, Iwan Standley a Gruffudd Prys.

Dyma sy’n newydd:

Gwelliannau Golygu

Dolennu Mewnlin

Canolbwyntiwch ar eich ysgrifennu gyda rhyngwyneb fydd yn tarfu llai a sy’n caniatáu i chi gysylltu’n haws â’ch cynnwys.

Fformatio Llwybrau Byr

Ydych chi’n mwynhau defnyddio llwybrau byr fformatio ar gyfer rhestrau a phenawdau? Mae nhw nawr yn fwy defnyddiol byth, gyda llinellau llorweddol a <code>.


Gwelliannau Cyfaddasu

Rhagolwg Byw Ymatebol

Bydd eich gwefan yn edrych yn dda ar bob sgrin! Gallwch weld rhagolwg yn syth ar eich dyfais symudol, tabled a bwrdd gwaith drwy’r cyfaddaswr.

Logos Penodol

Mae themâu nawr yn gallu cynnal logos ar gyfer eich busnes neu frand. Mae themâu Twenty Fifteen a Twenty Sixteen wedi eu diweddaru i gynnal logos penodol, sydd i’w gweld yn adran Hunaniaeth Gwefan y cyfaddaswr.


O Dan y Clawr

Adnewyddu Dewisol

Mae’r cyfaddaswr nawr yn cynnal fframwaith cynhwysfawr ar gyfer cyflwyno rhannau o’r rhagolwg heb ailysgrifennu eich cod PHP yn JavaScript. Gallwch ei weld ar waith gyda Dewislenni.

Newid Maint Delwedd Clyfar

Mae delweddau mawr yn llwytho hyd at 50% yn gynt gyda dim colled mewn ansawdd. Mae’n edrych yn dda.

Diweddariadau Llyfrgell JavaScript

Mae jQuery 1.12.3, jQuery Migrate 1.4.0, Backbone 1.2.3, ac Underscore 1.8.3 wedi eu cynnwys.

Gwelliannau i’r Llwythwr Sgriptiau

Mae gwell cefnogaeth wedi ei ychwanegu ar gyfer sgriptiau dibyniaethau pennyn/troedyn. Mae’r wp_add_inline_script() newydd yn caniatáu ychwanegu cod ychwanegol i sgriptiau cofrestredig.