Hacio’r Iaith 2016 Caerdydd – manylion a chofrestru

hadyn-ellis

Bydd Hacio’r Iaith 2016, ein seithfed digwyddiad blynydddol, yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd am y tro cyntaf.

Y dyddiad i’w roi yn eich dyddiadur yw:
dydd Sadwrn 16 Ebrill 2016
9yb tan 5yp

a’r lleoliad yw:
Adeilad Hadyn Ellis, Prifysgol Caerdydd, Ffordd Maindy, Cathays, Caerdydd, CF24 4HQ

Mae’n gyfle gwych i gyflwyno eich gwaith, cael ymateb i’ch prosiectau, bod yn ofod i brofi/arbrofi, cynnal gweithdai, a rhannu gwybodaeth am yr hyn sy’n eich tanio ym maes tech ac iaith.

Ond yn bwysica oll, mae’n gyfle i fwynhau sgwrs gyda phobl newydd a chyfarwydd sydd efo’r un brwdfrydedd â chi dros y maes. Bydd yna siwr o fod recordiad byw o’r Haclediad hefyd!

hacior-iaith-amserlen-2012-700
Yr amserlen (yn 2012)

Felly…

Cofrestrwch am le (am ddim)

Cyfrannwch at drefnu’r digwyddiad a phostiwch eich syniadau am sesiwn ar Google Drive (nid oes angen cyfrif)

Gan ei fod yn gynhadledd agored mae disgwyl i bawb sy’n dod gyfrannu drwy sôn am eu prosiectau neu fod yn rhan o sesiwn mewn rhyw ffordd. Mae’n ddigwyddiad i rannu profiadau, a chymryd rhan, ddim eistedd nôl.

Mae croeso i gyfraniadau o bob math sy’n ymwneud â’r Gymraeg a defnydd o dechnoleg, y we a’r byd digidol. Os ydych chi’n cynnig sesiwn dw i’n siŵr bydd rhywbeth o ddiddordeb i bobl eraill.

Mae’n werth i chi bostio syniadau ar yr amserlen ar Google Drive os ydych am ddod. Gallwn drafod a helpu i roi sesiynau at ei gilydd.

Os ydych eisiau man trafod mae blwch sylwadau o dan y cofnod hwn.

Diolch yn fawr iawn i:

  • Jeremy Evas a Catrin Stephens am helpu gyda threfniadau
  • Prifysgol Caerdydd am y lleoliad, croeso ac am noddi coffi a the
  • Nominet am noddi cinio

Edrychwn ‘mlaen at eich gweld chi!

Carl, Rhys, Curon a chriw Hacio’r Iaith

DIWEDDARIAD:

Dyma gipolwg ar y ddogfen trefniadau gyda manylion am deithio, sesiynau, syniadau ac amserlen:

5 sylw

  1. Dyma gopi o neges e-bost dw i newydd anfon at fynychwyr, rhag ofn bod unrhyw un wedi ei methu.

    Annwyl gyfaill,

    Diolch am gofrestru ar gyfer Hacio’r Iaith 2016! Dyma ambell i bwynt defnyddiol i chi a’r pobl eraill sy’n mynychu.

    • Egwyddor:

    Bydd Hacio’r Iaith 2016 yn ddigwyddiad gan y bobl i’r bobl. Mae croeso cynnes i unrhyw un gyfrannu sesiwn – fawr neu fach – megis sgwrs, gweithdy neu gyflwyniad ar unrhyw beth sydd yn ymwneud â’r Gymraeg a’r byd digidol. Felly…

    • Trefniadau:

    Mae’r ddogfen hon ar Google Drive ar gyfer trefniadau o bob math. Cymerwch gipolwg. Mae manylion am deithio, rhestr o sesiynau/syniadau ac fe fydd amserlen ddrafft cyn hir hefyd.
    http://iawn.de/haciaith2016
    Ysgrifennwch unrhyw syniadau sydd gyda chi ar y ddogfen. Does dim angen cyfrif Google Drive. Rydyn ni’n gofyn i bobl gynnig o flaen llaw er mwyn gwneud trefnu’n haws a hyrwyddo sesiynau i fynychwyr. Ond mae modd cynnig syniadau ar y diwrnod hefyd. Dim ond dau berson neu fwy sydd angen er mwyn cynnal sesiwn. Mae rhai o’r sesiynau gorau yn weddol fach.

    • Swper nos Wener:

    Mae wedi dod yn draddodiad cwrdd â chyd fynychwyr y nos gynt am bryd o fwyd, felly os hoffet ymuno â ni am bryd o fwyd yn Yr Hen Lyfrgell ar nos Wener am 7:30pm, rho’ch enw ar y ddogfen (dolen uchod) cyn gynted â phosib, nos Fawrth fan hwyraf, fel y gallwn archebu digon o le ar gyfer pawb!

    • Cyfeillion eraill

    Mae llefydd eraill ar gael i’ch cyfeillion felly aildrydarwch bethau @haciaith ar yr hen drydar os gwelwch yn dda a dwedwch wrth ffrindiau. Gallech chi rannu’r ddolen yma hefyd:
    http://iawn.de/haciaith2016datganiad
    Mae angen i bobl gofrestru er mwyn sicrhau bod ‘na digon o ginio i bawb. Diolch i Brifysgol Caerdydd a Nominet am noddi’r bwyd a diodydd poeth.

    Dw i’n edrych ymlaen at eich gweld ddydd Sadwrn am 9yb!

    Cofion

    Carl a chriw Hacio’r Iaith 2016

Mae'r sylwadau wedi cau.