Bydd Hacio'r Iaith 2016 ar 16 Ebrill yng Nghaerdydd

dominos-am-byth

Dyma nodyn bach sydyn i ddweud bod digwyddiad Hacio’r Iaith 2016 wedi’i gadarnhau!

Rhowch y dyddiad yn eich calendr os gwelwch yn dda:

Dydd Sadwrn 16 Ebrill 2016
Caerdydd
Trwy’r dydd
(Rhagor o fanylion i ddod)

Bydd croeso cynnes i bawb ddod i drafod a gwneud pethau ynglŷn ag:

  • y we
  • apiau
  • creadigrwydd ar-lein
  • fideo
  • gwleidyddiaeth/ymgyrchu
  • newyddion a blogio
  • cyfieithu
  • gemau
  • cyfuniadau o’r uchod
  • a mwy!

Rydym wedi cynnal digwyddiadau Hacio’r Iaith mawrion yn Aberystwyth a Bangor ers 2009 ond erioed wedi cynnal digwyddiad o’r fath yn y brifddinas.

Bydd rhagor o fanylion a dolen cofrestru (am ddim) ar wefan Hacio’r Iaith ac ar wici Hedyn cyn hir.

Yn y cyfamser meddyliwch am syniadau! Bydd e’n ddigwyddiad gan y bobl i’r bobl.

Gallech chi fod yn rhan o sesiwn – fach neu fawr – ar bwnc sydd yn bwysig i chi.

2 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.