Dylunio gwasanaethau digidol cyfrwng Cymraeg – gwersi GDS / GOV.UK

Mae datblygwyr ac ymchwilwyr GDS wedi rhannu gwersi am ddylunio gwasanaethau cyfrwng Cymraeg.

Yn hytrach na dim ond cydymffurfio gyda rhyw gynllun iaith mae hi’n swnio fel bod nhw eisiau dylunio gwasanaethau o safon, y math o beth mae pobl eisiau defnyddio, sy’n swnio’n addawol.

Does dim byd newydd sbon yna i unrhyw un sydd wedi ceisio cael gwasanaeth da trwy gyfrwng y Gymraeg oddi wrth gorff cyhoeddus – neu hyd yn oed darllen canllawiau neu wefan mewn ‘cyfieitheg’.

Felly os ydych chi’n delio gyda Thŷ’r Cymry, DVLA ac ati gallech chi ddisgwyl gwasanaethau Cymraeg o’r radd flaenaf – cyn bo hir. Gawn ni weld.

Ydy sefydliadau a chyrff eraill yng Nghymru yn gwrando ar y gwersi o gwbl?