Cychwyn off efo APIs y Ganolfan: llais robot a Cysill #techiaith

Cyflwynodd Patrick Robinson APIs y Ganolfan Technolegau Iaith.

(Demo cyflym hawdd o’r llais robot Cymraeg yma!)

API (Application Programming Interface) ydy ffordd o gael dy raglen i siarad gyda rhaglen arall er mwyn manteisio ar ddata a gwasanaethau.

Siaradodd Patrick am y system testun-i-lais (un o fy hoff bethau ar hyn o bryd!) a Cysill, y gwirydd gramadeg. Er enghraifft gallech chi ddefnyddio Cysill o fewn wasanaeth arall neu greu gêm, teclyn, gwaith celf, neu declyn i bobl anabl gyda’r system testun-i-lais.

Mae’n weddol hawdd i ddechrau achos mae demos felly does dim rhaid sgwennu unrhyw god i gael profiad syml.

Sut i ddechrau:

Diolch i Patrick am wneud y sesiwn.

1 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.