Haclediad 42 – Minilediad Haciaith 2015

Rhifyn byr a bachog o’r Haclediad sydd i’w gael y mis hwn, wedi i’r ffliw daro Iestyn, bydd Bryn a Sioned yn mentro i gwblhau podlediad mewn amser record Byd! Bydd sôn am Haciaith ’15 ym Mangor a llwyth o fwydro amserol technolegol – mwynhewch!