Gwefan Cymraeg LibreOffice – cy.libreoffice.org

Gwefan LibreOffice
LibreOffice yw un o brif gasgliadau offer swyddfa sydd ar gael ar gyfer cyfrifiaduron. Mae’r casgliad yn cynnwys yr holl offer angenrheidiol ar gyfer gwaith swyddfa: prosesydd geiriau, taenlen, rhaglenni cyflwyno, lluniadu a chronfa ddata, ac ati. Mae’r holl offer pwerus yma ar gael am ddim, ac yn Gymraeg drwy gyfrwng LibreOffice.

Mae’n bosib eich bod wedi ystyried prynu neu logi Microsoft Office ond byddwn yn argymell eich bod yn ystyried defnyddio LibreOffice yn ei le – mae ganddo gymaint i’w gynnig. Mae’n bosib hefyd, eich bod wedi defnyddio OpenOffice.org yn y gorffennol, ond byddwn yn argymell eich bod yn symud i ddefnyddio LibreOffice o hyn ymlaen gan ei fod yn fwy cynhwysfawr a diweddar.

Mae’r wefan Gymraeg yn cynnwys llawer iawn o wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer defnyddwyr LibreOffice ac yn fan i ddod o hyd i’r newyddion diweddaraf am ddatblygiadau i’r casgliad. Mae’n werth treulio amser yn darllen y cynnwys i weld sut y bydd modd i chi osod copi ar eich cyfrifiadur, cael cymorth wrth ei ddefnyddio a hyd yn oed sut fyddai modd i chi ymuno yn y gwaith o gefnogi datblygiad LibreOffice.

Diolch i Aled Powell am ei gyfraniad tuag at greu’r wefan.

1 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.