Diwrnod Preifatrwydd Data

Mozilla

Wel, mae heddiw’n ddiwrnod preifatrwydd data ac mae Mozilla wedi darparu rhywfaint o her ar ein cyfer i amlygu faint o breifatrwydd sydd gennym ar y we.

Mae’r ddolen gyntaf yn Saesneg a’r ail yn Gymraeg.

Private Eye –  mae hwn yn arbennig o ddifyr gyda gwefannau fel y Guardian, Telegraph, ac ati.

Deall Preifatrwydd – syniadau ar sut i godi ymwybyddiaeth am breifatrwydd.

Ar hyn o bryd rwy’n defnyddio’r ychwanegion canlynol: Adblock Edge, Ghostery, Lightbeam, Self destructing Cookies, Smart Referrer. Beth amdanoch chi?

Dwi ddim yn paranoid, a does neb yn edrych dros fy ysgwydd – mae nhw’n rhy brysur yn edrych ar fy nghyfrifiadur… 😉

Felly, diwrnod dim lot o breifatrwydd hapus i bawb!