Arolwg: pa mor ddiogel ydy gwefannau poblogaidd yng Nghymru?

Dafydd Tomos yn dweud ar ei flog:

[…] Wrth reswm fe ddylai unrhyw daliadau ar lein fod yn ddiogel. Ar gyfer gwefannau masnachol neu wasanaethau cyhoeddus mae arfer da yn awgrymu y dylai unrhyw wybodaeth breifat gael eu ddiogelu hefyd e.e. cyfrinair, manylion archeb, cyfeiriad. Dyw’r wefan hon ddim yn defnyddio SSL am nifer o resymau: a) y gost, b) mae’n wefan bersonol, c) does dim gwasanaeth cyhoeddus hanfodol arno.

Dwi’n amau nad yw’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn sylwi os yw gwefan yn ddiogel, ond mae eraill yn edrych am symbol y ‘clo’ yng nghornel y porwr neu ‘https’ yn y cyfeiriad. Er fod hyn yn arfer da, mae llawer mwy i ddiogelwch na hyn – fe allai gwefan ‘ddiogel’ fod yn anniogel mewn rhai sefyllfaoedd. […]

Dyma arolwg o warchodaeth ar wefannau Llywodraeth Cymru, S4C, Llyfrgell Genedlaethol, Cynulliad Cymru a mwy. Diolch Dafydd.