Firefox OS Cymraeg

Daeth parsel bach brown i’r tŷ wythnos ddiwethaf yn cynnwys ffôn bach oren llachar. Roedd y parsel yn cynnwys Geeksphone Keon wedi ei anfon gan Mozilla fel bod modd profi’r cyfieithiad Cymraeg ar system weithredu Firefox OS.

Mae’r cyfieithiad Cymraeg ar gael ar y fersiwn nosweithiol o’r ddelwedd ac i’w gael oddi ar wefan Geeksphone. Ar hyn o bryd does dim rhagor o ffonau Keon ar ôl ac mae’n anodd diweddaru’r ffonau sydd gan ZTE ac Alcatel, sy’n rhedeg Firefox i’r fersiwn nosweithiol.

Y newyddion da yw bod Mozilla am wneud mwy o waith gyda’i bartneriaid i ehangu’r niferoedd ffonau a thabledi fydd ar gael yn rhedeg Firefox OS dros y blynyddoedd nesaf. Dyw e ddim digon da  ar gyfer gorllewin Ewrop a’r Unol Daleithiau ar hyn o bryd, mae wedi ei anelu at ‘farchnadoedd sy’n datblygu’ ond mi ddaw. Maen nhw hefyd am ddatblygu trefn pecynnau iaith fel bod modd i’r defnyddiwr ddewis pa iaith rhyngwyneb maen nhw eisiau ei ddefnyddio os nad yw eisoes ar y ffôn neu dabled. Mae hefyd sôn am gyfrifiaduron bach a setiau teledu clyfar.

Mae modd gweld y cyfieithiad drwy ddod i Haciaith dydd Sadwrn 🙂 neu drwy ategyn Mozilla Firefox OS Simulator L10N

Datblygiadau eraill gan Mozilla – datblygu pecynnau iaith ar gyfer ffonau Android fel bod ieithoedd tu allan i ddewis cyfyng Google ar gael ar gyfer Firefox Android a rhyngwyneb lansiwr Firefox Android sy’n debyg o ran golwg i Firefox OS ar gyfer ffonau Android.