SWYDD: Cydlynydd Wicipedia, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cydlynydd Wicipedia
Yn dilyn cytundeb cydweithio rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Wikimedia DU y mae’r Coleg yn dymuno penodi Cydlynydd Wicipedia fydd yn adrodd i swyddogion a Bwrdd Academaidd y Coleg ar sut orau y gellir rhannu adnoddau addysgol ar lwyfannau Wikimedia, gan gynnwys Wicipedia, o dan drwyddedau priodol. Bydd gennych gefndir academaidd gadarn, dealltwriaeth dda o faterion yn ymwneud â hawlfraint ac eiddo deallusol a dealltwriaeth o genhadaeth a gweithgareddau Wikimedia a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae profiad o waith trefnu a chydlynu, cynnig hyfforddiant a chymorth i staff academaidd yn ogystal a golygu deunydd ar safleoedd Wici yn angenrheidiol.
Dyddiad Cau: 12 Chwefror 2014
Cyswllt: Catherine Rees

Cysylltwch yn uniongyrchol am ragor o fanylion