RIP Golyg, y gymuned rhannu rhaglenni teledu o Gymru

Dw i newydd ddarllen y neges e-bost isod oddi wrth Golyg.

Annwyl gyfaill,

Mae’n ddrwg gen i gyhoeddi fod Golyg, y gymuned rhannu rhaglenni teledu o Gymru, wedi dod i ben oherwydd galw isel. Hoffwn hefyd ymddiheuro am y modd daeth y traciwr i ddiwedd mor sydyn rhai dyddiau yn ôl.

Rhannwyd dros 4,000 o raglenni teledu o Gymru gyda dros 1,300 aelod mewn 68 gwlad yn rhad ac am ddim yn ystod tair blynedd y gymuned. Fodd bynnag, nifer cymharol fach o aelodau sy’n mewngofnodi yn rheolaidd ac mae’r galw am raglenni mor isel nad yw’n ymarferol parhau i ariannu’r traciwr.

Diolch arbennig i’r llond llaw o aelodau fu’n cipio a’n rhannu’r rhaglenni ac i’r rhai a oedd yn eu cadw a’u parhau i rannu ag eraill. Diolch hefyd i’r aelodau a oedd yn amlwg yn y fforymau ac yn gadael sylwadau mor garedig i’r cipwyr.

Mi fydd syniadau yn parhau i gael eu trafod dros yr wythnosau nesaf ac mae’n bosib bydd newyddion da yn dilyn i rai aelodau yn y flwyddyn newydd.

Dymuniadau gorau,

G.

Yn fy marn i, mae Golyg fel arbrawf wedi profi bod ‘na rhyw faint o alw am fynediad at raglenni teledu tu hwnt i’r ffenestr gwylio ar S4C Clic. Efallai mae modd i gwmniau, actorion a cherddorion cyd-weithio i sicrhau bod rhaglenni i’w gwylio gyda’r trwyddedau swyddogol. Dw i’n meddwl am rywbeth gyda hysbysebion fel 4OD neu ddosbarthiad ar blatfformau fel YouTube a Netflix.

2 sylw

  1. Mae’n biti fod e wedi dod i ben am ei fod yn gallu cynnig mwy na rhannu mwy na rhaglenni cyfredol ond hen gyfresi hefyd sydd ddim ar Clic. Mae’n wallgo na all pobl fynd nôl a gwylio holl bennodau yng nghyfresi dramau fel Gwaith Cartref neu Alys er enghraifft. Mae angen cadw darlledu oriau brig S4C ar gyfer deunydd newydd a cyfoes, felly does dim rheswm pam na all fod yr hen bennodau fod i gael ar alw ar y we.

    Ie mae’r un hen rheswm – ‘hawliau’. Ond yn wahanol i sefyllfa PRS/Eos/BBC mae rhoi trefn gyfreithiol ar hyn i gyd yn nwylo y darlledwyr, cynhyrchwyr *yng Nghymru*.

    Gyda llaw mae dal mannau arall ar y we sy’n parhau i rannu teledu Cymraeg cyfoes er nad wy’n gallu dweud lle.

  2. Sa i’n deall y broblem gyda hawliau o gwbl. Ydy e’n WIR yn wir NID actorion, cerddorion ayb yn MOYN eu pethau i gael eu darlledu tu fas Cymru? Mae’n anodd credu bod criw flin o bobl creadigol yn ymdeithio drwy’r lle yn gweiddi, “Peidiwch adael pobl o dramor yn edrych ar fy methau!”

    Dw i’n nabod llawer o ddysgwyr dros y byd i gyd oedd yn defnyddio Golyg i wella eu Cymraeg.

Mae'r sylwadau wedi cau.