Haclediad #33: Ho-ho-haclediad

Croeso i rifyn Nadolig yr Haclediad!

Byddwn ni’n rhoi sbin tymhorol ar newyddion y mis – Grantiau technoleg y Cynulliad, gêm Gymraeg ar Steam, brwydro’r Xbox vs PS4 a llawer mwy. Bydd Bryn yn deud ei jôcs gorau ac yn awgrymu gemau bwrdd (www hw!), Iestyn yn rhedeg allan o wisgi a Sioned yn trio cadw’r rhestr ‘Dolig lawr o dan £10,000 am unwaith. Hyn oll a mwy yn eich rhifyn Nadoligaidd sgleiniog o’r Ho-ho-haclediad!

1 sylw

  1. Diolch yn fawr am y mensh Hacledwyr! Mor falch o gael y cyfle i ddatblygu hwn gyda CodeSyntax. Dwi’n gyffrous iawn i weld o’n datblygu. Ydi, mae’r prosiect newydd (enw cyn hir!) yn esblygiad o arbrawf Umap Cymraeg, ond yn cynnwys mwy o ffocws ar gynnwys gorau a mwyaf poblogaidd y dydd. Bydd o hefyd efo blas llai robotaidd na Umap a’n cynnig llwyfan newydd i erthyglau gan leisiau newydd sy’n sgwennu am ddiwylliant gwe yn Gymraeg. Bydd yn lansio yn y Gwanwyn cynnar!

    Ma’r syniad o addasu fo i fod yn gleient yn un diddorol ond well i ni gael y sylfeini’n iawn gynta! Isio gwneud yn siwr bod y gwerth gorau yn cael ei wasgu allan o Twitter ar gyfer defnyddwyr Cymraeg ydan ni i ddechrau a’n bod ni’n cryfhau’r defnydd o’r iaith ar y cyfrwng. Dwi’n sicr y bydd yn gallu gwneud cyfraniad mawr at hynna.

Mae'r sylwadau wedi cau.