Enaid Coll – gêm Gymraeg newydd ar PC (a Mac a consoles cyn bo hir…)

Echddoes rhyddhaodd cwmni Wales Interactive gêm newydd ar Steam o’r enw Enaid Coll. Ma’r gêm wedi cael ei gyd-ariannu gan S4C a’r Llywodraeth. Dwi ddim wedi chwarae’r gêm eto ond ma’n edrych yn wledd ar y llygaid. A dweud y gwir dwi ddim wedi chwarae gêm fel hyn ers blynyddoedd, ond dwi awydd rhoi crac arni pan ma’r fersiwn Mac yn dod allan. Ma’r holl beth wedi ei leoleiddio yn Gymraeg sydd yn wych a faswn i wrth y modd clywed gan rywun sydd wedi ei chwarae sut mae hynny’n gweithio. Unrhyw gêmwyr allan na?

Dyma chydig stills, a’r wefan efo’r dolenni i’w lawrlwytho:

http://www.walesinteractive.com/#!master-reboot/c1vts

MasterReboot07

MasterReboot08

MasterReboot09

MasterReboot12

1 sylw

  1. Ges i’r fraint o addasu’r gêm yma i’r Gymraeg. Roedd hi’n broses hynod o ddifyr a deud y gwir, a hoffwn i ddiolch i’m cyfeillion ar Twitter am eu hawgrymiadau gwych. ond nawr mae angen i bobl chwarae ac adolygu’r gêm (sydd ar y cyfan wedi derbyn adolygiadau gwych). Does dim rhaid i Enaid Coll fod yn ‘one-off’ – mae’n siwr gen i fod na ddigonedd o sgwennwyr a ‘gamers’ Cymraeg sydd efo syniadau gwych am gemau sy’n Gymraeg a Chymreig eu naws – beth am gêm gyffro sombis gan Aneirin Karadog??

Mae'r sylwadau wedi cau.