Orbot

Gyda’r holl sôn am NSA a GCHQ, efallai y byddwch am ystyried defnyddio Orbot a’i borwr Orweb os oes dyfais Android gyda chi: https://guardianproject.info/apps/orbot/

Ac, yn amserol iawn ar ôl cofnod Aled am borth ieithoedd Microsoft, efallai y byddwch am gyfrannu at ei gyfieithu i’r Gymraeg: https://www.transifex.com/projects/p/orbot/

Gan Hywel Jones

Ysgrifennaf o'm rhan fy hun yma ran amlaf, nid yn rhinwedd fy swydd.

1 sylw

  1. Angen ystyried hefyd bod amddiffyn y data tra bod o’n teithio dros y we yn bwysig, mae rhan helaeth o’r storiâu da ni wedi clywed lan at nawr wedi sôn am y Lluoedd Diogelwch yn cyfaddawdu’r ddyfais, yn hytrach na’r cysylltiad. Fysa angen i bobl ystyried gosodiadau preifatrwydd wrth lwytho apps (gan fod dyfeisiadau Android yn rhannu cof, yn hytrach na defnyddio rhan benodol o gof y ddyfais fel mae dyfeisiadau Apple yn gwneud). Hefyd, mae ychwanegu cod i dad-gloi y ddyfais yn bwysig, ac amgryptio’r ddyfais.

    Os bod diddordeb, mae SANS wedi creu dogfen ar gyfer amddiffyn dyfeisiadau Android (http://www.sans.org/reading-room/whitepapers/sysadmin/securely-deploying-android-devices-33799?show=securely-deploying-android-devices-33799&cat=sysadmin)

Mae'r sylwadau wedi cau.