Porth Ieithoedd Microsoft: Adnodd terminoleg Cymraeg

Os ydych yn cyfieithu unrhyw beth ym maes TG neu jyst eisiau gwybod beth yw gair neu derm technegol yn Gymraeg, Saesneg neu un o ddwsinau o ieithoedd eraill, gall Porth Ieithoedd Microsoft fod o gymorth mawr i chi.

http://www.microsoft.com/Language

Mae’r adnodd ar gael ers peth amser, ond does dim sôn wedi bod amdano yma ar Hacio’r Iaith a dim ond yn ddiweddar dw i wedi dod ar ei draws. Mae’n eich galluogi i…

  • chwilio am gyfieithiad o eiriau a thermau gydag enghreifftiau o’u defnydd
  • lawrlwytho ffeil .tbx o’r holl derminoleg Cymraeg sydd gan Microsoft
  • lawrlwytho ffeiliau iaith rhaglenni wedi eu lleoleiddio os ydych yn tanysgrifio i Microsoft Developer Network (MSDN) neu i Microsoft TechNet
  • cael mynediad at API o’r gronfa terminoleg er mwyn defnyddio’r data mewn rhaglen neu ap
  • lawrlwytho canllaw arddull Cymraeg Microsoft

Un o’r geiriau cyntaf i mi edrych i fyny ynddo oedd ‘supported‘ (e.e. This device is not supported.). Canfuwyd dros 900 o enghreifftiau o’r term yn cael ei ddefnyddio yn yr iaith Gymraeg gan Microsoft. Ar frig y rhestr mae ‘cydnaws’ (Windows 7) a ‘cefnogwyd’ (hefyd Windows 7). Mae’n ymddangos bod Windows 8 yn defnyddio ‘cefnogwyd’. Hefyd yn Windows 7, ceir ‘does dim modd delio â X’ ar gyfer ‘X not supported’.

I mi, ac eraill sy’n cyfieithu, efallai’r peth mwyaf defnyddiol yw’r canllaw arddull Cymraeg’:

This Style Guide is intended for the localization professional working on Microsoft products. It is not intended to be a comprehensive coverage of all localization practices, but to highlight areas where Microsoft has preference or deviates from standard practices for Welsh localization.

Mae’r ddogfen PDF ar gael o http://www.microsoft.com/Language/en-US/StyleGuides.aspx