Diwrnod Ada Lovelace 15/10/2013: dathlu llwyddiannau menywod yn y maes technoleg

Mae Diwrnod Ada Lovelace yn digwydd pob blwyddyn ers 2009, sef dathliad rhyngwladol o lwyddiannau benywod yn wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. 

Amcan y digwyddiad yw rhannu straeon benywod sydd wedi ein hysbrydoli ni er mwyn creu modelau newydd i ferched a benywod ym meysydd lle mae dynion yn goruchafu.

Dydd Mawrth 15fed o Hydref 2013 fydd y dyddiad nesaf. Cer i findingada.com am ragor o wybodaeth a sut i gymryd rhan.

Mae llai nag wythnos gyda chi i feddwl am eich cyfraniad chi. Os ydych chi eisiau am gymryd rhan, roedd llwyth o enghreifftiau da yn 2012 i’ch ysbrydoli. Dyma cofnodion Ada Lovelace o fy mlog personol i.