Cwrs ‘Datblygu Gwefannau gan ddefnyddio WordPress’ AM DDIM, 17-18.10.13 Caerfyrddin

Mae Cynghrair Meddalwedd Cymru yn cynnal cwrs deuddydd ar greu gwefan yn defnyddio WordPress.

O’r wefan:

Mae WordPress yn caniatàu i unrhyw un ddatblygu gwefan yn cynnwys:

  • Busnesau sy’n dymuno sefydlu presenoldeb ar-lein
  • Ffotograffwyr a dylunwyr sy’n dymuno arddangos eu portffolio ar-lein
  • Masnachwyr sy’n dymuno creu siopau ‘e-fasnachol’ ar-lein
  • Unigolion sy’n dymuno creu gwefannau newyddion neu flogiau.

Felly os ydych yn unigolyn neu’n fusnes sy’n bwriadu sefydlu eich gwefan gyntaf, neu ailwampio a mynd i’r afael â’ch gwefan bresennol – gallai WordPress gynnig ateb i chi.

Beth yw WordPress?

WordPress yw un o’r Systemau Rheoli Cynnwys (CMS) cod agored mwyaf poblogaidd sydd ar gael. Mae dros 60 mliliwn o’r gwefannau presennol wedi’u datblygu gan ddefnyddio WordPress, ac mae’n gyfrifol am 25% o’r holl wefannau newydd ledled y byd (felly byddwch mewn dwylo diogel). Un o nodweddion allweddol WordPress, a allai gyfrif am y defnydd helaeth ohonno, yw’r ffaith ei fod yn rhaglen rhad ac am ddim a chod agored. Mae hyn yn golygu y gall unrhyw un lwytho’r meddalwedd i lawr a’i addasu yn ôl y galw.

Mae’r rhestr ‘amcanion’ ar y gwaelod yn fanwl iawn.

6 sylw

  1. Diddorol: diolch. Dim ond gofyn: ydyn ni’n siwr taw cwrs cyfrwng Cymraeg yw hwn, a ddim jyst tudalen wedi’i chyfieithu ynglŷn â chwrs Saesneg?

  2. Dychmygaf mai yn Saesneg fydd o a mond cyfieithiad o’r manyliob sydd ar eu gwefan, ond tydi o ddim yn nodi naill ffordd. Werth holi ta beth os wyt â diddordeb a cynnig eu bod yn ei gynnal yn Gymraeg yn y dyfodol agos. Hefyd werg gofyn os oes unrhyw hyfforddiant Cymraeg i gael gan gymryd bod yr holl beth yn dod o arian cyhoeddus.

  3. Neu, fel dywedir tudalen Cymraeg eu gwefan, “Call Daleithuau: 01792 295881” 😉

    Dw i newydd wneud. Dw i’n siŵr o’i acen mai rhywun o ogledd America atebodd y ffon. Ah, efallai mai “Taleithiau” yw ei lysenw ac felly “Galwch Taleithiau” dylai’r uchod fod? (Cysill yn ei dreiglo’n feddal a chamsillafiad wedyn wrth ei roi ar y gwefan?)

    Beth bynnag, yn ôl “Taleithiau”, yn Saesneg fydd y cwrs, ond mae’r pecyn deunydd i’w ddefnyddio ar gael yn Gymraeg.

  4. Oh diar. Newydd sylwi mai cyfieithiad o “Call us” yw “Call Daleithuau”!

    us = US = United States = Unol Daleithiau!

    Clasur!

Mae'r sylwadau wedi cau.